Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Newyddion a'r Cyfryngau: 9. Adnoddau llyfrgell, ffynonellau eraill a geirfa

Cyflwyniad

Mae casgliadau Llyfrgell Hugh Owen yn cwmpasu'r dyniaethau, busnes, y gyfraith, y gwyddorau cymdeithasol, y gwyddorau biolegol a gwyddorau'r ddaear. Edrychwch ar y detholiad o lyfrau a restrir isod i'ch helpu â'ch anghenion o ran newyddion a'r cyfryngau.

Mae'r Eirfa yn rhoi rhestr wirio gyflym i'ch helpu i ddeall y derminoleg a ddefnyddir yn y canllaw hwn.

Llyfrau yn y Llyfrgell

Geirfa

Abwyd Clicio

Gwefan sy'n cynnwys penawdau neu deitlau bachog sy'n ceisio tynnu sylw a'ch annog i ymweld â gwefan benodol.

Adolygiad gan Gyd-Academyddion

Y broses lle y bydd academyddion yn darllen rhywbeth a ysgrifennwyd gan arbenigwyr arall, ac yn ei wirio, ac yn rhoi eu barn arno

Algorithm 

Cyfres o gyfarwyddiadau neu reolau sydd wedi'u llunio i gyflawni tasg benodol.

Awdur / Awdurdod

Ysgrifennwr llyfr, erthygl, newyddion, stori neu ddogfen mewn print neu ar-lein. Enwau eraill posib am yr awdur yw: crëwr, cynhyrchwr neu gyhoeddwr.

Barn

Mynegiant neu gred a allent fod wedi cael eu hategu gan ffeithiau, neu ddim. Ond ni ellir profi ei bod yn wir neu'n anghywir. Mae'n bosib bod barn yn gywir, ond ni ellir profi hynny.

Camwybodaeth

Gwybodaeth ffug, gamarweiniol neu anghywir ond sydd efallai heb fod wedi'i chreu'n fwriadol er mwyn twyllo neu gamarwain pobl eraill. Efallai fod y stori wedi'i chreu'n anfwriadol.

Cloriannu / Gwirio ffeithiau

Pennu ansawdd y wybodaeth a ddarparwyd. Y meini prawf mwyaf cyffredin yw'r prawf 'CCAPP' neu ofyn y '5 P' i chi'ch hun.

Crebwyll â'r cyfryngau

Crebwyll wrth ymdrin â'r cyfryngau yw'r gallu i gyrchu, dadansoddi, cloriannu, creu a gweithredu gan ddefnyddio pob ffurf ar gyfathrebu.

Cyfredol

Yn ymwneud â pha mor amserol yw'r adnoddau neu pa mor ddiweddar yw'r wybodaeth.

Cyfryngau

Y cyfryngau yw'r prif ddull o gyfathrebu torfol gan ddefnyddio llwyfannau megis darlledu, cyhoeddi a'r rhyngrwyd. Ar ei ffurf symlaf, 'cyfrwng' yw ddull o gyfathrebu, megis radio a theledu, papurau newydd, cylchgronau, a'r rhyngrwyd, sy'n cyrraedd pobl yn eang neu'n dylanwadu ar bobl.

Cywirdeb

Yn ymwneud â dibynadwyedd, gwirionedd a chywirdeb y ffynhonnell.

Dibynadwy

Ffynhonnell y gallwch ymddiried ynddi.

Ffaith

Rhywbeth a wyddys, ac fe ellir profi ei bod yn wir neu'n anghywir. Ffaith yw rhywbeth sydd wedi digwydd neu wedi'i brofi yn gywir.

Ffynonellau academaidd

Cyhoeddiad neu ffynhonnell ysgolheigaidd neu academaidd sy'n cynnwys erthyglau a ysgrifennwyd gan arbenigwyr ar bwnc neu faes penodol.

Ffynhonnell Wreiddiol

Y deunydd gwreiddiol y mae ymchwil wedi'i seilio arno. Dogfennau uniongyrchol ydyn nhw, sy'n darparu tystiolaeth uniongyrchol am eich pwnc.

Ffynonellau / Tystiolaeth Ategol

Ffynonellau sy'n ategu rhywbeth a ddywedwyd mewn ffynhonnell arall.

Ffynonellau anacademaidd

Sef, yn syml, ffynonellau nad ydynt yn academaidd; heb fod yn gysylltiedig â meysydd academaidd neu feysydd ymchwil. Mae darllen erthyglau o ffynonellau anacademaidd yn gallu rhoi cyflwyniad i bwnc i chi a'ch cyflwyno i sut mae'r pwnc hwnnw'n cael ei drafod yn y gymdeithas.  

Ffynonellau eilaidd

Rhywbeth sy'n rhoi dehongliadau, sylwebaeth neu ddadansoddiad ar ffynonellau eraill. Maent yn ymdriniaethau a ysgrifennwyd wedyn gyda manteision 'synnwyr trannoeth'. Nid yw ffynonellau eilaidd yn dystiolaeth, ond yn hytrach yn cynnig sylwebaeth a thrafodaeth ar dystiolaeth.

Ffynonellau trydyddol

Mae ffynonellau trydyddol yn darparu trefniadau, categorïau neu fynegeion i ffynonellau neu gasgliadau ohonynt. Mae ffynhonnell drydyddol yn cyflwyno crynodebau neu fersiynau cryno o ddeunydd, fel rheol gyda chyfeiriadau yn ôl at y ffynonellau gwreiddiol neu eilaidd.

Ffynonellau'r Cyfryngau

Yn gyffredinol, medrwn ddosbarthu'r cyfryngau yn dri phrif gategori: Cyfryngau Argraffedig, Cyfryngau Darlledu, a Chyfryngau'r Rhyngrwyd.

Goddrychol

Seiliwyd ar deimladau, chwaeth, neu safbwyntiau personol, neu rywbeth wedi'i ddylanwadu ganddynt.

Gwrthrychol

Lle nad yw teimladau, chwaeth, neu safbwyntiau personol yn dylanwadu ar sut mae ffeithiau'n cael eu hystyried a'u cynrychioli.

Newyddion Dychanol

Rhaglenni newyddion sydd â gogwydd digrif sy'n fwriadol ddoniol.

Newyddion Ffug

Straeon a gyhoeddir nad ydynt wedi'u seilio ar ffeithiau. Newyddion a grëwyd yn fwriadol i dwyllo'r gynulleidfa â gwybodaeth ffug.

Parodi

Darn o waith creadigol sy'n copïo neu efelychu'r ffynhonnell wreiddiol mae wedi'i seilio arni, yn gorliwio neu ystumio'r gwreiddiol, fel rheol er mwyn difyrrwch.

Perthnasol

Yn ymwneud â phwysigrwydd y wybodaeth i chi a'ch anghenion gwybodaeth chi.

Prawf CCAPP (Saesneg 'CRAAP')

Acronym yw 'CCAPP' sy'n sefyll am bob cam ym mhroses cloriannu ffynhonnell (Cyfredol – Cywirdeb – Awdurdod – Perthnasol – Pwrpas).

Mae wedi’i seilio ar yr acronym Saesneg ‘CRAAP’ (Currency – Revelance – Authority – Accuracy – Purpose)

 

Propaganda

Tuedd neu wybodaeth sy'n fwriadol ffug a roddir ar led i ddylanwadu ar y farn gyhoeddus at ddibenion gwleidyddol.

Pwrpas / Diben

Y rheswm dros greu'r wybodaeth.

Rhagfarn

Barn a luniwyd ymlaen llaw nad yw wedi'i seilio ar reswm na phrofiad gwirioneddol

Rhyddid Llafar

Rhyddid llafar neu ryddid mynegiant yw'r hawl i fynegi unrhyw farn heb ei sensora na'i hatal.

Swigen Hidlydd

Ymadrodd a fathwyd gan yr ymgyrchydd ar faterion y Rhyngrwyd, Eli Pariser. Sefyllfa lle nad yw rhywun yn gweld ond y newyddion a'r wybodaeth sy'n cydymffurfio â'r hyn mae'n ei gredu a'i hoffi eisoes. Mae algorithmau'r Rhyngrwyd yn dewis beth yr hoffai'r defnyddiwr ei weld o ganlyniad i'r hyn mae wedi chwilio amdano neu wedi clicio arno, etc. yn y gorffennol.

Tuedd (bias)

Rhagfarn o blaid neu yn erbyn rhywbeth, unigolyn neu grŵp o'u cymharu ag eraill, fel rheol mewn ffordd sy'n cael ei hystyried yn annheg.

Tuedd i Gytuno

Y tueddiad i ddehongli tystiolaeth newydd fel rhywbeth sy'n cadarnhau'r safbwyntiau neu'r damcaniaethau sydd eisoes gennych chi.

Tueddiadau'r Cyfryngau

Tuedd, neu'r hyn a welir fel tuedd, ymhlith newyddiaduron, gohebwyr a chynhyrchwyr newyddion o fewn y cyfryngau torfol wrth ddewis digwyddiadau a straeon sy'n destun i adroddiadau, a sut yr adroddir amdanynt.

Twyllwybodaeth

Gwybodaeth ffug, gamarweiniol neu anghywir sy'n cael ei chreu a'i rhannu'n fwriadol â'r nod o gamarwain pobl eraill. Er enghraifft, er mwyn mantais wleidyddol neu ariannol.

Y 5P

Meini prawf ar gyfer cloriannu'ch ffynonellau a gwirio'r ffeithiau.

Gofynnwch i chi'ch hunan - PWY - PA BETH - PRYD - PA LE - PAM

Ysgolheigaidd

Ysgrifennwyd gan arbenigwyr yn y maes ar gyfer cynulleidfa o arbenigwyr eraill yn y maes.

Ystryw (hoax)

Twyllo neu gamarwain. Gwybodaeth ffug a rannir yn fwriadol er mwyn twyllo pobl, sy'n gallu bod yn ddoniol neu'n faleisus.