Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Newyddion a'r Cyfryngau: Algorithmau a chyfryngau cymdeithasol

Esbonio algorithmau

Mae fy nghyfrifiadur yn gwybod be rydw i eisiau'i weld!

Ydych chi'n credu bod yr wybodaeth a welwch wrth fynd lawr trwy eich ffrydiau ar y cyfryngau cymdeithasol neu beiriant chwilio yno ar hap? Ydych chi'n credu bod yr wybodaeth a welwch yn wrthrychol a'ch bod yn gweld y cwbl sydd ar gael? Mae'n bosib nad ydych yn gweld y darlun cyflawn gan fod algorithmau yn gallu pennu'r hyn a welwch ymlaen llaw.

Cyfres o gyfarwyddiadau wedi'u cynllunio i gyflawni tasg benodol yw algorithm.

Fe all algorithmau roi canlyniadau i chwiliadau, argymhellion cynnwys, neu hysbysebion wedi'u targedu yn seiliedig ar yr hyn y mae defnyddwyr unigol wedi'i wneud yn y gorffennol, yn ogystal â thrwy grwpio defnyddwyr unigol mewn carfan gynrychiolaidd. Defnyddir llawer o algorithmau'r cyfryngau cymdeithasol i ddeall arferion defnyddwyr ac i ganfod patrymau a rhagweld ymddygiad defnyddwyr.

Deall algorithmau

Gall algorithmau atgyfnerthu rhagfarnau, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ystyriwch hyn er enghraifft: mae eich ffrind wedi rhoi erthygl ar Facebook ar bwnc penodol. Rydych chi'n clicio ar yr erthygl i'w darllen. Mae hynny'n rhoi gwybod i Facebook (h.y. algorithm Facebook) bod diddordeb gennych yn y pwnc hwnnw. Yn y dyfodol, efallai y bydd Facebook yn trefnu eich ffrwd newyddion i gynnwys mwy o ffynonellau ar y pwnc hwnnw a’i hidlo, er mwyn hepgor ffynonellau eraill a allai rhoi barn neu safbwynt arall i chi ar yr un pwnc. Gall hyn greu 'swigen hidlydd' sy'n golygu mai dim ond gwybodaeth yn cytuno â'r hyn rydych yn ei gredu eisoes y byddwch yn ei gweld. Mae rhagor o wybodaeth am y 'swigod' hyn i'w gweld yn y blwch isod.

Pan fyddwch ar-lein ac yn defnyddio peiriannau chwilio neu’r cyfryngau cymdeithasol, mae angen ichi feddwl am y canlynol...

  • y tueddiadau neu ragfarnau cynhenid mewn rhaglennu cyfrifiadurol – yr algorithmau sy’n bodoli a'r hyn maent yn ei wneud/yr hyn y cawsant eu gorchymyn i'w wneud
  • yr angen i werthuso neu gloriannu'r wybodaeth a welwch ar-lein
  • ni ddylid byth â’i chymryd yn ganiataol mai'r canlyniad cyntaf/uchaf yw'r un gorau bob tro
  • eich preifatrwydd - cofiwch, wrth ichi chwilio ar lwyfannau digidol fod algorithmau'n gweithio yn y cefndir i deilwra'r hyn a welwch nawr ac yn y dyfodol

Darllenwch yr erthygl ganlynol i gael rhagor o wybodaeth am algorithmau’r cyfryngau cymdeithasol:

Rage machine - how social media algorithms are changing our behaviour. - Darius Pocha

Swigen Hidlydd

closeup photo of two bubbles

Eli Pariser (awdur 'The filter bubble: what the internet is hiding from you’) sydd wedi bathu'r term 'swigen hidlydd/filter bubble'. Ar ei ffurf symlaf, swigen hidlydd yw'r ffordd mae eich profiad ar-lein yn cael ei deilwra atoch chi yn sgil eich gweithgaredd blaenorol.

Ydych chi'n chwilio am wybodaeth ar-lein? Ydych chi wedi sylwi bod unrhyw hysbysebion a chynigion yn ymwneud â'r union beth rydych chi wedi bod yn chwilio amdano? Rydych chi mewn swigen hidlydd. Darllenwch trwy'r tabiau canlynol i weld beth yw hyn a sut i dorri allan o'r swigen!

Caiff swigen hidlydd ei chreu trwy lwyfannau ar-lein, megis gwefannau, peiriannau chwilio a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol, sy'n defnyddio algorithmau neu gyfres o reolau i deilwra (neu mewn geiriau eraill, dyfalu'n ddethol!) beth rydych chi'n ei weld oherwydd hanes eich chwiliadau, yr hyn rydych wedi clicio arno - ei rannu, ei hoffi a gwneud sylwadau arno - a hefyd eich lleoliad. Hynny yw, dim ond canlyniadau sy'n adlewyrchu eich safbwyntiau neu eich barn chi y byddwch yn eu cael. Rydych chi yn cael eich dal wedyn mewn 'swigen hidlydd' ac ni fyddwch yn gweld gwybodaeth a allai ehangu eich barn neu eich safbwyntiau.

Peidiwch â chael eich dal mewn swigen hidlydd. Gan eich bod yn fyfyriwr sy'n ymchwilio ar destun, mae angen i chi allu dod o hyd i wybodaeth bwysig neu safbwyntiau ac agweddau sy'n wahanol i'ch rhai chi. Gall swigen hidlydd effeithio ar ba mor llwyddiannus ydych chi wrth geisio cael dirnadaeth a dealltwriaeth gyflawn ar faes y pwnc sydd gennych dan sylw, os yw'r hyn a welwch wedi'i hidlo.

Mae gofyn ichi weld y darlun cyflawn wrth chwilio am ffynonellau gwybodaeth. Mae Pariser yn ein hatgoffa i ganfod gwybodaeth sydd:

  • Yn gwneud i ni deimlo'n anghyfforddus
  • Yn heriol
  • Yn bwysig
  • Yn cyflwyno safbwyntiau gwahanol

iridescent bubbles

Er mwyn sicrhau eich bod yn gweld y darlun cyflawn wrth chwilio am wybodaeth, ceisiwch ddilyn y camau isod.

Cymerwch reolaeth a thorri allan o'r swigen hidlydd er mwyn gweld yr amrywiaeth mwyaf posib o wybodaeth trwy:

  • Os defnyddiwch chi gronfeydd data'r llyfrgell - Primo - nid yw'r canlyniadau'n cael eu hidlo ar sail eich hanes chwilio na’ch gweithgaredd ar-lein
  • Dileu/clirio pob cwci ar eich porwr
  • Dileu hanes eich chwiliadau
  • Cadw eich data yn breifat - edrychwch ar eich gosodiadau preifatrwydd a'i newid
  • Diffodd unrhyw hysbysebion neu gynigion wedi'u targedu
  • Chwilio ar y we trwy ddefnyddio porwyr anhysbys/incognito
  • Gwirio a chloriannu eich ffynonellau
  • Dewis peidio â rhannu eich data ar bob gwasanaeth ar-lein a ddefnyddiwch, er enghraifft Facebook, Google, ac Instagram.

Llyfrau yn y Llyfrgell