Beth yw'r cyfryngau?
Un diffiniad o'r cyfryngau yw'r prif ddull o gyfathrebu torfol gan ddefnyddio llwyfannau megis darlledu, cyhoeddi a'r rhyngrwyd. Ar ei ffurf symlaf, 'cyfrwng' yw ddull o gyfathrebu, megis radio a theledu, papurau newydd, cylchgronau, a'r rhyngrwyd, sy'n cyrraedd pobl yn eang neu'n dylanwadu ar bobl.
Beth yw llythrennedd cyfryngau?
Dyma un diffiniad o lythrennedd cyfryngau yn dod o'r llyfr Media Literacies: a critical introduction (dolen gyswllt â'r e-lyfr isod):
"Media Literacy is a set of competencies that enable us to interpret media texts and institutions, to make media of our own, and to recognize and engage with the social and political influence of media in everyday life. ”
(Hoechsmann & Poyntz, 2012, 1).
Beth mae llythrennedd cyfryngau yn ei olygu i mi?
Llythrennedd cyfryngau yw'r gallu i...
Mae'n sgil hanfodol mewn bywyd sy'n eich galluogi i ddod yn feddyliwr beirniadol a chyfathrebwr effeithiol. Gyda'r sgil hon fe fedrwch feddwl yn feirniadol am y deunydd rydych yn dod o hyd iddo pan ewch i safle'r cyfryngau.
Ar ei ffurf symlaf, llythrennedd cyfryngau yw sicrhau bod gennych...