Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Newyddion a'r Cyfryngau: 2. Cyn i chi gychwyn: y 'chi' digidol

Diogelwch

Eich ymadwaith â chyfryngau ar-lein na ddarperir gan y Brifysgol 

Gellir rhannu diogelwch ar-lein yn ddau gategori:

  1. cadw eich cyfrif ar-lein yn ddiogel
  2. amddiffyn eich preifatrwydd

Mae presenoldeb ar-lein yn mynd yn fwyfwy pwysig. Rydym yn bancio ar-lein, siopa ar-lein, gwyliau ffilmiau a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â'n teulu a'n ffrindiau.

Cofiwch, does dim byd yn breifat ar y Rhyngrwyd.

Mae llawer o safleoedd rydych yn ymweld â nhw ac yn clicio arnynt yn gallu cadw gwybodaeth amdanoch. Rydym yn galw hyn yn "ôl-troed digidol", sef y data rydych yn gadael ar eich ôl wedi i chi ryngweithio â safleoedd ar-lein megis gwefannau'r cyfryngau cymdeithasol neu fyrddau trafod.

Byddwch yn wyliadwrus am y deunydd personol a'r wybodaeth amdanoch sy'n cael eu rhoi ar-lein gennych chi a chan bobl eraill. Mae hyn yn bwysig gan fod cyflogwyr yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn fwyfwy er mwyn dod o hyd i weithwyr posib ac i asesu ymgeiswyr am swyddi.

Mae awgrymiadau a chysyniadau y dylech eu cadw mewn cof er mwyn gwella ansawdd eich diogelwch ar-lein.

Rhagor o wybodaeth am ddiogelwch y Gwasanaethau Gwybodaeth.

Yr hanfodion...

  • Peidiwch byth â rhannu'ch enw defnyddiwr na'ch cyfrinair. Peidiwch â'i ysgrifennu yn unman lle y gallai rhywun ddod o hyd iddo.
  • Crëwch enw defnyddiwr a chyfrinair y byddai'n anodd i rywun arall eu dyfalu neu eu deall.
  • Cofiwch allgofnodi o bob gwefan, gwe-borwr a rhaglen, yn enwedig pan fyddwch yn defnyddio cyfrifiadur mewn man cyhoeddus megis llyfrgell.

Yr hanfodion...

  • Peidiwch byth â rhoi manylion fel eich enw, eich oedran, eich pen-blwydd, eich cyfeiriad na'ch rhif ffôn mewn safleoedd megis ystafelloedd sgwrsio na safleoedd rhwydweithio megis Trydar a Facebook.
  • Peidiwch â derbyn pobl nad ydych yn eu hadnabod fel "ffrindiau" ar wefannau'r cyfryngau cymdeithasol
  • Byddwch yn ofalus wrth ryngweithio neu rannu gwybodaeth â defnyddwyr eraill ar y Rhyngrwyd.
  • Pan fyddwch yn llenwi ffurflenni ar-lein - megis holiaduron, rhestrau ebostio, neu fanylion talu ar safleoedd siopa, sicrhewch fod y wefan yn ddibynadwy, cyfreithlon a diogel.

Yr hanfodion...

Mae safleoedd cyfryngau cymdeithasol megis Facebook yn rhoi modd i chi amrywio a newid y gosodiadau sy'n pennu sut mae'r wybodaeth rydych yn ei rhoi a'i huwchlwytho yn cael ei dangos, ei defnyddio a'i chyrchu ar-lein.

  • Ewch i'r canllawiau i ddefnyddwyr neu'r adran gymorth ar y safle er mwyn deall beth y gallwch ei addasu ac wedyn newid yr elfennau hynny yn unol â'ch gofynion.
  • Cadarnhewch nad yw'r wybodaeth o'ch proffil ar gael y tu hwnt i'r graddau rydych wedi'u dewis.
  • I sicrhau bod y gosodiadau'n gweithio'n iawn, rhowch brawf arnynt! Rhowch gynnig ar chwilio am eich enw ar beiriant chwilio cyffredin megis 'Google' a gweld beth sy'n cael ei ddangos!
  • Peidiwch â derbyn pobl nad ydych yn eu hadnabod fel "ffrindiau" ar wefannau'r cyfryngau cymdeithasol
  • Byddwch yn ofalus wrth ryngweithio neu rannu gwybodaeth â defnyddwyr eraill ar y Rhyngrwyd.

Gair i gall!

Byddwch yn wyliadwrus bob amser!

  • Gwiriwch enwau defnyddwyr, dolenni e-gyfeiriadau, unrhyw newidiadau i olwg tudalen, unrhyw gais neu ddull o ddarparu deunydd sy'n anarferol.

Manteisiwch ar yr offer!

  • Cofiwch ddefnyddio unrhyw offer ac arferion diogelu sydd ar gael i chi - rhaglenni diogelwch, diweddaru cyfrineiriau, gosodiadau preifatrwydd, dolenni/botymau i godi sylw at unrhyw weithgareddau amheus.

Diweddaru, diweddau, diweddaru!

  • Cofiwch ddiweddaru pob dim y gallwch, gan gynnwys porwyr, ffonau, llechi, diogelwch feirws. Mae diweddariadau diogelwch yn aml yn ymateb yn gyflym i unrhyw faterion newydd sy'n codi er mwyn rhwystro unrhyw fygythiad.

Gofynnwch i chi’ch hun: ydych chi'n awyddus i bawb gael gweld eich manylion?

  • Peidiwch â datgelu unrhyw wybodaeth bersonol ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys gwybodaeth am eich cyfrif personol drwy'r ebost, a pheidiwch â rhannu nac anfon ymlaen unrhyw wybodaeth na ellir ymddiried ynddi at bobl eraill.

Gwrandewch ar eich greddf

  • Os ydyn nhw'n dweud ei bod hi'n rhy dda i fod yn wir, y tebyg yw nad yw hi'n wir! Os ydych chi'n amau awdurdod neges neu'n dechrau cael amheuon ynghylch a yw ebost neu ffeil yn ddilys - mae'n go bosib mai twyll neu rywbeth gan anfonwr diawdurdod yw e.