Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Newyddion a'r Cyfryngau: Camwybodaeth a thwyllwybodaeth

Cyflwyniad

Gall camwybodaeth a thwyllwybodaeth ymledu'n gyflym ar sawl llwyfan, a gallant fod yn ffurf arall ar "newyddion ffug".

Mae botiau, troliau, y cyfryngau cymdeithasol a byrddau trafod - hyd yn oed siarad ar lawr gwlad - yn gallu lledu camwybodaeth, twyllwybodaeth a phropaganda.

Dyma wybodaeth ac offer i'ch helpu i ddeall y gwahanol gysyniadau.

Beth yw TWYLLwybodaeth?

people using phone while standing

Twyllwybodaeth yw gwybodaeth ffug, gamarweiniol neu anghywir sy'n cael ei chreu a'i rhannu'n fwriadol â'r nod o gamarwain pobl eraill. Er enghraifft, er mwyn mantais wleidyddol neu ariannol.

Propaganda

text

 

 

 

Twyllwybodaeth yn troi'n gamwybodaeth

Gall newyddion ffug ddeillio o dwyllwybodaeth, sef newyddion sydd wedi'u creu'n fwriadol a'u rhannu er mwyn camarwain pobl eraill.  Gyda newyddion o'r fath, fe all fynd yn gamwybodaeth yn y pen draw, wrth i bobl rannu deunydd ffug yn anfwriadol gan nad ydynt wedi pwyso a mesur y ffynhonnell na gwirio'r ffeithiau, ac felly maent yn lledaenu gwybodaeth nad yw'n wir.

Beth yw CAMwybodaeth?

person in gray sweater wearing black and silver chronograph watch

Camwybodaeth yw gwybodaeth ffug, gamarweiniol neu anghywir ond efallai nad yw wedi'i chreu'n fwriadol er mwyn twyllo neu gamarwain pobl eraill. Efallai fod y stori wedi'i chreu'n anfwriadol.

Pwy sy'n mwynhau rhannu gwybodaeth ffug?

Botiau

Mae botiau a throliau yn chwarae rhan fawr wrth rannu newyddion ffug. Cyfrifon ffug yw botiau, ac maent yn cael eu rhaglennu i rannu stori i gynifer o bobl â phosib. Mae botiau'n gallu creu negeseuon yn awtomatig, hybu syniadau, gweithredu fel dilynwyr i ddefnyddwyr, a denu dilynwyr atyn nhw eu hunain.

 

Troliau

 

person in black hoodie using laptop computer

Pobl go iawn yw troliau, gyda chyfrifon go iawn, sy'n hoffi rhoi sylwadau negyddol, aflonyddu, tynnu ar bobl eraill, poenydio a bygwth pobl eraill, ond sy'n cuddio y tu ôl sgrin y cyfrifiadur neu'r ffôn. Maent yn bobl sy'n gadael negeseuon profoclyd, sarhaus a chreulon ar y rhyngrwyd er mwyn mynnu sylw, creu helynt neu beri gofid i rywun.