Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Newyddion a'r Cyfryngau: 1. Cyflwyniad

Sut i ddefnyddio'r canllaw hwn

Darllenwch trwy bob un o'r tudalennau canlynol er mwyn dysgu mwy am yr angen cynyddol am grebwyll wrth ymdrin â'r cyfryngau yn yr oes ddigidol.

Ar ôl i chi orffen, gallwch wedyn roi prawf ar eich gwybodaeth trwy roi cynnig ar ein cwis a fydd yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau.

 

Ar ôl dilyn y canllaw hwn byddwch yn gallu:

  • Diogelu'ch delwedd ar-lein
  • Diffinio beth yw'r cyfryngau a chrebwyll wrth ymdrin â'r cyfryngau
  • Deall y gwahanol fathau o ffynonellau'r cyfryngau a'r rhannau a chwaraeant yn yr oes ddigidol
  • Diffinio cysyniadau allweddol megis rhyddid mynegiant, camwybodaeth a thwyllwybodaeth, a sensoriaeth
  • Dysgu sut y defnyddir algorithmau i gyflwyno gwybodaeth wedi'i theilwra'n bersonol ar lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol
  • Deall cysyniadau dethol a thuedd o fewn y cyfryngau
  • Esbonio beth yw newyddion ffug a sut mae eu hadnabod yn y cyfryngau
  • Dehongli'r gwahaniaethau rhwng ffeithiau a safbwyntiau
  • Cydnabod pa mor bwysig yw cloriannu gwybodaeth a gwirio ffeithiau

Mae’r Llyfrgellwyr Pwnc yn darparu hyfforddiant ar sgiliau gwybodaeth a chymorth manwl sy'n berthnasol i bynciau astudio myfyrwyr. Cynigiwn apwyntiadau unigol i'ch helpu i ddod o hyd i'r ffynonellau iawn, ac i roi arweiniad â'ch ymchwil a'ch adolygiadau ar destunau academaidd.

 

Gallwch ddod o hyd i'ch Llyfrgellydd Pwnc ac archebu apwyntiad trwy fynd i'r weddalen ganlynol: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/librarians/

Dilynwch ni

Dilynwch Gwasanaethau Gwybodaeth

 

 

Cyfryngau cymdeithasol

 

Blogiau