Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Newyddion a'r Cyfryngau: 4. Ffynonellau cyfryngol

Y Cyfryngau fel ffynhonnell

Nod y cyfryngau yw cyfleu neges i'r gynulleidfa drwy'r sianel fwyaf priodol.

Mae'r cyfryngau, megis rhaglenni dogfen neu ddarllediadau newyddion yn gallu bod yn adnodd gwerthfawr wrth ymchwilio i'r rhan fwyaf o bynciau. Bydd darllediadau addysgol neu ddarllediadau a seilir ar ffeithiau yn aml yn cynnwys cyflwyniadau gwybodaeth sydd wedi'u seilio ar ymchwil dda. Mae darllediadau newyddion ar y llaw arall fel rheol yn cynnwys adroddiadau go iawn â gwybodaeth gyfoes sydd wedi dod o ffynonellau dilys.

Bydd cyfryngau megis rhaglenni dogfen yn aml yn rhoi crynodeb o bwnc.  Er mwyn cael gwybodaeth am y pwnc, mae rhaglenni dogfen yn aml yn cynnwys cyfweliadau â phobl neu safbwyntiau pobl. Gan ei bod hi'n cymryd amser i gynhyrchu cyfryngau fel hyn, fel rheol na fydden nhw'n ffynhonnell dda am wybodaeth ddiweddar iawn.

Gyda'r rhan fwyaf o brosiectau ymchwil, mae'n syniad da defnyddio’r cyfryngau ar y cyd ag adnoddau eraill. Bydd hyn yn golygu y gallwch gael dealltwriaeth ddofn am y pwnc yn ogystal â sicrhau bod gennych wybodaeth am y datblygiadau diweddaraf yn y maes.

Ffynonellau gwybodaeth

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth yn unrhyw le - llyfrau, dyddiaduron, cyfryngau cymdeithasol, blogiau, profiadau personol, erthyglau cylchgronau, barn arbenigwyr, gwyddoniaduron, a gwefannau - ac fe fydd y math o wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn amrywio yn dibynnu ar y cwestiwn rydych yn ceisio ei ateb i'ch aseiniad neu'ch ymchwil.

Mae gwahanol aseiniadau yn gofyn am wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau; felly, mae angen i chi ddeall ble i fynd i ddod o hyd i rai mathau o wybodaeth. Os ydych yn gwybod pa fath o ffynhonnell y bydd ei angen, bydd hynny hefyd yn eich helpu i ddod o hyd i'r ffynhonnell iawn.

Yn fras, mae tri chategori o ffynhonnell:

  • ffynhonnell wreiddiol (neu 'gynradd')
  • ffynhonnell eilaidd a
  • ffynhonnell drydyddol

Edrychwch drwy'r tabiau hyn i gael diffiniadau ac ychydig o enghreifftiau.

Ffynonellau gwreiddiol (neu 'gynradd') yw'r deunydd gwreiddiol y mae ymchwil wedi'i seilio arno. Dogfennau uniongyrchol ydyn nhw, sy'n darparu tystiolaeth uniongyrchol am eich pwnc.

Enghreifftiau:

  • Dyddiaduron

  • Areithiau

  • Gohebiaeth

  • Cyfweliadau

  • Llawysgrifau

  • Dogfennau Llywodraethau

  • Lluniau ffilm newyddion

  • Deunydd Archifol

  • Hunangofiannau

  • Gweithiau Celf

  • Nofelau

  • Barddoniaeth

  • Cerddoriaeth

  • Darluniau/cynlluniau pensaernïol

  • Ffotograffau

  • Ffilm

Mae ffynonellau eilaidd yn rhoi dehongliadau, sylwebaeth neu ddadansoddiad ar ffynonellau eraill. Maent yn ymdriniaethau a ysgrifennwyd wedyn gyda manteision 'synnwyr trannoeth'. Nid yw ffynonellau eilaidd yn dystiolaeth, ond yn hytrach yn cynnig sylwebaeth a thrafodaeth ar dystiolaeth.

Enghreifftiau:

  • Llyfryddiaethau

  • Bywgraffiadau

  • Sylwebaethau, beirniadaethau

  • Trafodion cynadleddau

  • Ysgrifau, traethodau neu adolygiadau

  • Ymdriniaethau hanesyddol

  • Erthyglau ymchwil mewn cyfnodolion academaidd

  • Erthyglau cylchgronau a phapurau newydd

  • Monograffau heblaw ffuglen a hunangofiannau

  • Adargraffiadau o weithiau celf

Ffynonellau trydyddol yw trefniadau, categorïau, mynegeion neu gasgliadau o ffynonellau. Mae ffynhonnell drydyddol yn cyflwyno crynodebau neu fersiynau cryno o ddeunydd, fel rheol gyda chyfeiriadau yn ôl at y ffynonellau gwreiddiol neu eilaidd.

Enghreifftiau:

  • Geiriaduron
  • Gwyddoniaduron
  • Llawlyfrau
  • Almanaciau
  • Crynodebau
  • Llyfryddiaethau
  • Llyfrau ffeithiau a chrynoadau
  • Cyfeiriaduron a llawlyfrau
  • Ffynonellau mynegeio a chrynhoi