Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Newyddion a'r Cyfryngau: Newyddion ffug a'r cyfryngau cymdeithasol

Cyfryngau Cymdeithasol

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn cyfeirio at wefannau a rhaglenni cyfrifiadurol neu gyfryngau sy'n galluogi'r defnyddwyr i gyfathrebu â'i gilydd a rhannu negeseuon, gwybodaeth, safbwyntiau, credoau, fideos a lluniau.

selective focus photography of iPhone on MacBook

Defnyddio gwefan, rhaglen neu gyfryngau penodol i gysylltu â phobl eraill a rhannu gwybodaeth yw rhwydweithio cymdeithasol.

Gallwch gadw mewn cysylltiad ag ymchwilwyr eraill a hefyd hybu'ch proffil eich hun drwy rwydweithiau cymdeithasol megis:

  • Academia.edu - lle y gallwch ddilyn ymchwil sydd o ddiddordeb i chi, ynghyd â rhwydwaith i rannu'ch ymchwil eich hun drwy gymunedau Academia.edu
  • JISCMail - sy'n darparu cannoedd o restrau e-bostio y gallai ymchwilwyr a staff ymuno â nhw er mwyn rhannu diddordebau a newyddion
  • LinkedIn - sef safle rhwydweithio proffesiynol, dyma rwydwaith proffesiynol mwyaf y byd, sydd â bron i 740 miliwn o aelodau mewn mwy na 200 o wledydd a thiriogaethau ledled y byd.
  • Twitter / Trydar - sef safle micro-flogio a chyfrwng cymdeithasol sy'n ddefnyddiol os ydych am rannu gwybodaeth â rhwydwaith mewn 280 o nodau.  Ei brif nod yw rhoi modd i bobl gysylltu â'i gilydd a rhannu eu meddyliau â chynulleidfa ehangach.
  • SlideShare - lle y gallwch ddysgu yn gyflym drwy fanteisio ar ddeunydd cryno sydd wedi'i gyflwyno'n dda gan arbenigwyr arweiniol.

red and white love wall decor

Mae'r cyfryngau cymdeithasol, heb os, yn golygu ei bod hi'n haws cysylltu â'n gilydd.

Gallwch...

  • aros mewn cysylltiad â'ch teulu a'ch ffrindiau ledled y byd drwy ebost, negeseuon testun, fideo, ac yn y blaen.
  • cael gafael ar wybodaeth ac ymchwil yn gyflym
  • chwilio a dod o hyd i erthyglau ar-lein yn gyflym
  • dysgu ar-lein
  • cyfathrebu â'r byd
  • cydweithredu ag eraill
  • manteisio ar lwyfannau aml-gyfryngol er mwyn creu fideos effeithiol, ffeithluniau a rhannu cyflwyniadau
  • cadw mewn cysylltiad ag ymchwilwyr eraill a hefyd hybu'ch proffil eich hun drwy rwydweithiau cymdeithasol

white and black robot toy

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan fawr yn ein bywydau beunyddiol.

Gallant...

  • gymryd tipyn o'ch amser
  • mwy o ddefnydd arnynt - ar gyfartaledd bydd rhywun yn treulio 145 o funudau bob dydd ar y cyfryngau cymdeithasol (Ffynhonnell: Statista
  • fod yn gyfrwng i ffug wybodaeth a lluniau ffug fynd ar led yn gyflym ac yn hawdd
  • eu gwneud hi'n anodd barnu beth sy'n wir a beth sy'n ffug
  • lleihau'r amser rydym yn ymwneud â phobl eraill wyneb-yn-wyneb

black computer keyboard

Mae ochr dywyllach o lawer i'r cyfryngau cymdeithasol. Gyda chymaint o ddeunydd yn cael ei lwytho, gyda chymaint o sylwadau a rhannu, ac oherwydd bod diffyg rheoleiddio, ynghyd â'r ffaith ei bod hi mor amlwg nad yw cwmnïau'r cyfryngau cymdeithasol yn gallu arolygu'r holl ddeunydd arnynt - mae seibrfwlian, trolio ac aflonyddu wedi cynyddu'n sylweddol ar-lein.

Sicrhewch eich bod bob amser yn diogelu'ch preifatrwydd a'ch bod yn cofio bod eich data yn werthfawr. Gwiriwch eich gosodiadau preifatrwydd, a'u hadolygu a'u diweddaru, a hynny ar bob sianel ar y cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwch. Meddyliwch ddwywaith cyn i chi roi caniatâd i drydydd parti.

Os byddwch chi'n meddwl eich bod wedi gweld stori newyddion ffug ar-lein neu wedi sylwi ar weithgaredd maleisus, mae gan y rhan fwyaf o lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol nodwedd lle gellir rhoi gwybod am bostiadau ac anfon adborth at safonwyr cynnwys.

three crumpled yellow papers on green surface surrounded by yellow lined papers

Y cyfryngau cymdeithasol a newyddion ffug

person using both laptop and smartphone

Nid yn unig mewn adroddiadau newyddion a phenawdau i dynnu sylw y ceir newyddion ffug. Gellir celu newyddion ffug mewn delwedd, fideo a memyn sy'n cael eu postio ar-lein - pethau na fyddem yn meddwl amdanynt yn 'newyddion' o angenrheidrwydd.

Trwy gyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Twitter ac Instagram, gall newyddion, straeon a gwybodaeth gael eu rhannu rhwng eu defnyddwyr. Gall y rhannu ddechrau o fewn i rwydwaith clos eich teulu a'ch cyfeillion. Trwy glicio botwm mae newyddion ffug yn lledu'n gyflym, wrth i unigolion rannu dolenni ar y cyfryngau cymdeithasol. Gall unrhyw un bostio neges. Rydych chi'n rhannu'r stori â'ch ffrindiau. Maen nhw yn eu tro yn ei rhannu â'u ffrindiau, ac yn y blaen. Mae llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol yn lle delfrydol i newyddion ffug ffynnu a lledu'n feirol, a gall  fynd yn gylch cythreulig.

Beth fyddai eich ateb chi i'r sefyllfa ganlynol? (Byddwch yn onest!)

Rydych chi'n cael stori newyddion gan eich ffrind yn eich ffrwd Facebook. Beth ydych chi'n ei wneud?
a) ei hoffi a'i rhannu
b) pwyso a mesur y stori yn gyntaf a dilysu'r cynnwys

 

Os a) oedd eich ateb

  • Byddwch yn ofalus! Gallai deunydd sy'n dod o ffynonellau rydych yn ymddiried ynddyn nhw, e.e. ffrindiau a theulu, fod yn mynegi gwybodaeth, delweddau, memynnau neu sgrin-luniau ffug.

Os b) oedd eich ateb

  • Da iawn! Rydych wedi pasio'r prawf, sef dylid gwirio ffynonellau bob amser cyn ail-bostio.

Cofiwch, os bwriadwch rannu, dylech bob amser wirio, cloriannu a dilysu cyn gwneud.

Meddyliwch cyn rhannu!

 

Ffugiadau dwfn

person using laptop on table

Fideo, delwedd neu sain a gafodd ei drin gan feddalwedd i greu cyfrwng sy'n ymddangos yn wir yw ffugiad dwfn. Mae ffugiadau dwfn yn gwneud iddi edrych fel pe tasai pobl go iawn yn dweud ac yn gwneud pethau nad ydyn nhw wedi'u dweud na'u gwneud.

Dyma awgrymiadau da ar gyfer adnabod fideo sy'n ffugiad dwfn:

  • Ystyriwch y ffynhonnell - o ble y daeth? Allwch chi gadarnhau bod y ffynhonnell yn ddibynadwy neu fod modd ymddiried yn yr awdur?
  • A oes man aneglur i'w gweld yng nghefndir y fideo?
  • Welwch chi unrhyw fflachiadau bach?
  • Edrychwch ar amlinell yr wyneb - ydy hi'n edrych yn iawn
  • Edrychwch ar y geg – a yw'r geg yn edrych yn aneglur neu a yw'r wyneb yn edrych yn annaturiol?
  • A yw'r llygaid yn amrantu ar gyflymder arferol?