Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Newyddion a'r Cyfryngau: Dod o hyd i Gyfryngau Argraffedig / Print

Papurau newydd a chylchgronnau

Mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio i e-adnoddau sy'n golygu y cewch ddefnyddio llawer o bapurau newydd a gyhoeddir ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Cewch ddod o hyd iddynt drwy fewngofnodi i Primo ac yno y cewch restr o ffynonellau o newyddion cyfredol a rhai'r gorffennol o dan Rhestr E-adnoddau ynghyd â gwybodaeth am ddefnyddio adnoddau oddi ar y campws. Mae'r rhestr o adnoddau yn cynnwys:

Rhagor o wybodaeth am bapurau newydd yn y llyfrgell.

Llyfrau a chyfnodolion

  • Chwiliwch am lyfrau a chyfnodolion drwy ddefnyddio chwiliadur diofyn Primo, sef Llyfrgelloedd

  • Cewch chwilio Primo gan ddefnyddio'r opsiwn Llyfrgelloedd (diofyn) ar ochr dde'r blwch chwilio er mwyn dod o hyd i lyfrau, cyfnodolion, disgiau DVD, papurau newydd, traethodau hir a llyfrau prin ym mhob un o leoliadau Prifysgol Aberystwyth. Cewch ddod o hyd i e-lyfrau ac e-gyfnodolion hefyd.

  • Cofiwch bob tro fewngofnodi yn gyntaf er mwyn cael mwy o adnoddau testun llawn

  • Defnyddiwch Fy Nghyfrif Llyfrgell er mwyn rheoli'ch benthyciadau a'ch ceisiadau

  • Edrychwch ar eich Eitemau a Gadwyd er mwyn gweld cofnodion a gadwyd am eitemau rydych wedi dod o hyd iddynt a'ch ymholiadau chwilio a gadwyd

  • Dewiswch Hanes Chwilio i weld eich chwiliadau blaenorol

Llyfrau newydd

Cadwch eich llygad ar eitemau newydd y llyfrgell drwy bori drwy'r Llyfrau Newydd yn Primo.

Rhestr o E-adnoddau

Dyma ddolenni cyswllt ag amrywiaeth eang o ffynonellau o wybodaeth ar-lein sydd ar gael i fyfyrwyr a staff y Brifysgol drwy danysgrifiadau neu drwy gael eu prynu gan Lyfrgell y Brifysgol, yn ogystal â detholiad bychan o gynnwys sydd ar gael yn rhad ac am ddim.

https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/elecinfo/eiaz/