Mae cyhoeddiad ysgolheigaidd neu academaidd yn cynnwys erthyglau a ysgrifennwyd gan arbenigwyr ar bwnc neu faes penodol.
Arbenigwyr eraill yw'r brif gynulleidfa i'r erthyglau hyn.
Yn gyffredinol mae'r erthyglau hyn yn ymdrin ag ymchwil wreiddiol neu astudiaethau achos. Mae llawer o'r cyhoeddiadau yn cael eu hadolygu gan gyd-academyddion - felly mae sicrwydd o ansawdd y wybodaeth. Mae hynny'n golygu bod ysgolheigion yn yr un maes yn adolygu'r ymchwil a'r canfyddiadau cyn i'r erthygl gael ei chyhoeddi. Os dewch o hyd i erthygl sydd wedi'i hadolygu gan gyd-academyddion yn Primo, fe welwch y symbol hwn wrth ei hymyl:
Mae erthyglau mewn ffynonellau academaidd:
Dyma restr wirio gyflym i'ch helpu i adnabod ffynonellau academaidd:
DIBEN |
Rhannu ymchwil ac ysgogi trafodaeth |
CYNULLEIDFA |
Academyddion a'r proffesiwn |
GWYBODAETH |
Y ffynonellau yn cael eu nodi |
GEIRFA |
Geirfa arbenigol |
DELWEDDAU |
Y cloriau a'r cynnwys yn ddiaddurn ar y cyfan |
AWDUR |
Enw'r sefydliad wedi'i roi gydag enw'r awdur |
RHIFAU'R TUDALENNAU |
Mae rhif tudalen y gyfrol yn dilyn o'r naill rifyn i'r llall |
CYHOEDDI |
Cyhoeddir yn gyfnodol (misol, chwarterol, ddwywaith y flwyddyn) |
LLEOLIAD |
Fe'u ceir mewn llyfrgelloedd academaidd yn fwy na llyfrgelloedd cyhoeddus |
Mae ffynonellau anacademaidd yn ffynonellau nad ydynt yn gysylltiedig â meysydd academaidd na meysydd ymchwil.
Mae erthyglau o ffynonellau anacademaidd yn gallu rhoi cyflwyniad i bwnc i chi a'ch cyflwyno i sut mae'r pwnc hwnnw'n cael ei drafod yn y gymdeithas sydd ohoni.
Mae erthyglau mewn ffynonellau anacademaidd:
Dyma restr wirio gyflym i'ch helpu i adnabod ffynonellau anacademaidd:
DIBEN |
Rhannu gwybodaeth a difyrru |
CYNULLEIDFA |
Y cyhoedd yn gyffredinol |
GWYBODAETH |
Prin y bydd y ffynonellau'n cael eu cyfeirnodi |
GEIRFA |
Geirfa hawdd ei darllen |
DELWEDDAU |
Llawer o luniau a hysbysebion |
AWDUR |
Efallai y bydd yr awduron yn ddienw |
RHIFAU'R TUDALENNAU |
Pob rhifyn yn dechrau ar dudalen 1 |
CYHOEDDI |
Fe'i cyhoeddir yn aml (yn wythnos neu'n fisol) |
LLEOLIAD |
Fe'u ceir mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ac mewn cylchoedd cyhoeddus yn fwy cyffredinol. |