Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Newyddion a'r Cyfryngau: Gwahanol fathau o ffynonellau'r cyfryngau

Cyflwyniad

Gall gwybodaeth ddeillio o rywle! Y cyfryngau cymdeithasol, blogiau, podlediadau, profiadau personol, cyfweliadau, llyfrau, erthyglau mewn cyfnodolion a chylchgronau, barn arbenigwyr, papurau newydd, a gwefannau.

Bydd y math o wybodaeth y bydd ei angen arnoch wrth gwrs yn amrywio yn ôl y cwestiwn rydych yn ceisio ei ateb.

Bydd gwahanol aseiniadau yn gofyn i chi chwilio a dod o hyd i wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Bydd y tudalen hwn yn helpu i roi arweiniad i chi i ddeall ble y gallwch ddod o hyd i fathau penodol o wybodaeth

Cyfryngau

Fel y soniwyd eisoes, ‘cyfrwng’ yw ddull o gyfathrebu, megis radio a theledu, papurau newydd, cylchgronau, a'r rhyngrwyd, sy'n cyrraedd pobl yn eang neu'n dylanwadu arnynt.

Yn gyffredinol, medrwn ddosbarthu'r cyfryngau yn dri phrif gategori:

  • Cyfryngau Argraffedig / Print
  • Cyfryngau Darlledu
  • Cyfryngau'r Rhyngrwyd

Edrychwch ar y tabiau canlynol i weld enghreifftiau o'r gwahanol gyfryngau sydd ar gael.

Papurau newydd

  • Mae papurau newydd yn cael eu hargraffu a'u dosbarthu bob dydd neu'n wythnosol ac weithiau maent ar gael ar-lein. Gall y wybodaeth ynddynt gynnwys newyddion sy'n ymwneud â chwaraeon, gwleidyddiaeth, technoleg, gwyddoniaeth, newyddion lleol, newyddion cenedlaethol, newyddion rhyngwladol, genedigaethau a marwolaethau, yn ogystal â newyddion am adloniant, ffasiwn, enwogion a ffilmiau.

Cylchgronau

  • Argraffir cylchgronau yn wythnosol, misol, chwarterol neu'n flynyddol. Mae erthyglau cylchgronau yn cynnwys gwybodaeth am gyllid, bwyd, ffordd o fyw, enwogion, ffasiwn, chwaraeon, ac yn y blaen.

Llyfrau

  • Mae llyfrau yn canolbwyntio ar bwnc neu faes penodol, sy’n golygu y gallwch chi, y darllenydd, gael mwy o wybodaeth am y pwnc neu'r maes dan sylw.

Teledu

Mae llawer o sianeli teledu i'w cael! Ceir sianeli cyffredinol a fydd yn cynnwys amrywiaeth o raglenni megis rhaglenni dogfen, cyfresi, rhaglenni teithio, newyddion, ffilmiau, rhaglenni ffordd o fyw, gwleidyddiaeth, drama, ac yn y blaen. Hefyd mae sianeli sy'n canolbwyntio ar fath penodol o wybodaeth. Bydd pob sianel o'r fath yn darparu math wahanol o ddeunydd. Er enghraifft, mae sianeli newyddion, rhai drama, eraill sy'n canolbwyntio ar ddangos ffilmiau, chwaraeon, animeiddio, natur, teithio, gwleidyddiaeth, cartwnau, crefydd, ac yn y blaen. Y teledu yw'r cyfwng darlledu pennaf oherwydd ei fod yn llwyddo i gyrraedd cynulleidfa fawr.

Radio

Mae'r radio yn defnyddio tonfeddi radio i drawsyrru a darlledu adloniant, a deunydd defnyddiol ac addysgol i'r cyhoedd.  Gan ei fod yn llwyddo i gyrraedd cynulleidfa fawr, defnyddir radio yn eang i hysbysebu cynnyrch a gwasanaethau. Mae'r radio ymhlith y cyfryngau adloniant hynaf.

Ffilmiau

Mae ffilmiau yn gallu cyrraedd pob cwr o'r byd. Dyma'r cyfrwng torfol gorau ar gyfer hybu diwylliannau a lledu ymwybyddiaeth gymdeithasol.

Gall y cyfryngau cymdeithasol ddarparu newyddion yn syth ac yn ehangach na darparwyr neu ffynonellau newyddion traddodiadol.  Ond fe fydd angen i chi fod yn ofalus a gwyliadwrus gan fod yr angen i ddilysu gwirionedd a chywirdeb y wybodaeth hon yn cynyddu. Dysgwch fwy am gloriannau gwybodaeth a gwirio ffeithiau.    

Rhwydweithiau neu wefannau cymdeithasol

  • Mae rhwydweithiau'r cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys safleoedd megis Facebook, Instagram, Twitter, YouTube, Tumblr, TikTok, LinkedIn, Snapchat, Quora, Reddit, Pinterest, ac yn y blaen. Maent yn hawdd eu gosod, yn hwylus i'r defnyddiwr ac yn cael eu defnyddio'n eang gan bobl o gwmpas y byd i gysylltu â'i gilydd a rhannu gwybodaeth. Er bod newyddion o bob math i'w cael yma, dylech bob amser fod yn wyliadwrus iawn gan ei bod hi'n bosib y bydd y newyddion yn gamarweiniol oherwydd y diffyg rheoleiddio ar y deunydd sy'n cael ei rannu.

Fforymau Ar-lein

  • Mae fforwm ar-lein yn safle 'rhithwir' ar-lein lle y gallwn roi sylwadau, anfon negeseuon, neu drafod pwnc penodol. Mae fforymau yn rhoi modd i ni rannu gwybodaeth â phobl eraill sydd â’r un diddordebau.

Podlediad

  • Ffeil sain ddigidol ar y rhyngrwyd yw podlediad. Maent ar gael i'w lawrlwytho i gyfrifiadur neu gyfarpar symudol, yn aml fel rhan o gyfres lle y bydd penodau newydd yn cael eu derbyn yn awtomatig gan y tanysgrifwyr. Gall podlediad fod yn gyfres o ffeiliau sain yn canolbwyntio ar bwnc neu thema benodol. Drwyddynt fe all pawb rannu eu gwybodaeth â'r byd.