Ffaith
|
Barn
|
Ffaith yw rhywbeth a wyddys, ac fe ellir profi ei bod yn wir neu'n anghywir. |
Mynegiant neu gred yw barn, rhywbeth a allai gael ei ategugan ffeithiau neu ddim. Ond ni ellir profi ei bod yn wir neu'n anghywir. |
Ffaith yw rhywbeth sydd wedi digwydd neu wedi'i brofi yn gywir. |
Mae'n bosib bod barn yn gywir, ond ni ellir profi hynny. |
Mae'n wrthrychol |
Mae'n oddrychol |
Mae'n cael ei darganfod |
Mae'n cael ei chreu |
Mae'n datgan y gwirionedd |
Mae'n dehongli gwirionedd |
Gellir ei phrofi neu ei dilysu |
Ni ellir ei phrofi na'i dilysu |
Mae gwybodaeth wrthrychol yn adolygu llawer o safbwyntiau ac yn ymwneud â'r 'gwrthrych' a geir yn y wybodaeth.
Ei fwriad yw peidio â bod yn unochrog. Os ydych chi'n bod yn wrthrychol am stori newyddion neu fath arall o wybodaeth, nid oes gennych deimlad personol amdani.
Er enghraifft, dylai gohebwyr y newyddion fod yn wrthrychol, yn rhoi adroddiadau am ffeithiau digwyddiad heb fynegi barn bersonol a allai ddylanwadu ar bobl eraill.
Mae gwyddoniaduron a deunyddiau cyfeirio eraill yn darparu gwybodaeth wrthrychol.
Enghraifft: Mae'r gadair yn las (=FFAITH)
Barn unigolyn yw gwybodaeth oddrychol.
Gall fod wedi'i seilio ar ffaith, ond mae'n deillio o ddehongliad unigolyn o'r ffaith honno - mae rhywbeth sy'n oddrychol yn rhywbeth sydd wedi'i ddehongli.
Mae rhywbeth goddrychol wedi'i seilio ar deimladau, chwaeth, neu safbwyntiau personol, neu wedi'i ddylanwadu ganddynt.
Enghraifft: Rwy'n hoffi'r gadair las (=BARN)