Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Newyddion a'r Cyfryngau: 7. Deall tuedd yn y cyfryngau

Oes tuedd neu ragfarn yn y cyfryngau?

“Mae'r tueddiadau yn y cyfryngau yn fwy na thuedd ceidwadol neu ryddfrydol yn unig.

Maen nhw'n ymwneud â sicrhau niferoedd o wylwyr, gwneud arian, am wneud straeon

sy'n hawdd eu trin a sicrhau ein bod yn cael ein corddi drwy'r amser.”    

W.W. Adams

 

Ydych chi'n meddwl bod hynny'n wir?

Ydych chi'n credu bod tueddiadau (bias) yn y cyfryngau?

Ydych chi'n meddwl y gallech chi ganfod tueddiadau yn y cyfryngau?

 

Nod y canllaw hwn yw eich annog i ofyn cwestiynau am sut a pham mae'r cyfryngau yn dewis dangos yr hyn maent yn ei ddangos.

Dethol

Wrth edrych ar stori yn y cyfryngau, ystyriwch rai o'r cwestiynau isod.

  • Pam mae'r ffynhonnell hon wedi dewis dangos y stori benodol hon?

  • A yw rhai elfennau o'r stori wedi cael mwy o sylw, ac elfennau eraill ohoni wedi’u hanwybyddu?

  • A oes ffynonellau eraill yn y cyfryngau sy'n rhoi sylw i'r stori hon? A yw'r ffynonellau hynny'n ymdrin â'r stori yn yr un modd?

man in black and white checkered dress shirt sitting on black office rolling chair

Ai agenda yw'r hyn a welaf o'm blaen i?

Mae'n bwysig ystyried beth allai fod yn dylanwadu ar y cyfryngau, gan bwyso arnynt i ddewis yr hyn maent yn adrodd arno a sut maent yn ei gyflwyno.

A yw hi'n bosib bod rhai o'r elfennau isod (os nad y cwbl) yn dylanwadu ar yr hyn a welwn ar ein sgriniau?

  • Niferoedd o wylwyr.

  • Y ddemograffeg sy'n cael ei thargedu.

  • Dylanwad ffynonellau eraill yn y cyfryngau.

  • Tueddiadau personol perchnogion corfforaethau’r cyfryngau.

  • Ffynonellau dylanwadol.

  • Hysbysebwyr.

  • Diddordebau gwasanaethau cyhoeddus.

  • Grwpiau grymus sydd â diddordebau penodol.

Felly, o ystyried y dylanwadau a fraslunnir uchod, efallai yr hoffem ystyried y cwestiwn: ai'r cyfryngau sy'n gosod yr agenda, neu a yw'r agenda yn cael ei gosod i'r cyfryngau?

white paper

Gwiriwch eich tueddiadau chi wrth y drws

black flat screen tv turned on displaying yellow emoji

A oes gennym ninnau dueddiadau o ran sut rydym yn meddwl am bobl neu ddigwyddiadau?

A allwn ni weld y tueddiadau hyn ynom ni ein hunain, neu ydyn nhw wedi'u cuddio?

Mae gwefan Learning for Justice yn ffynhonnell wych ar gyfer deall tueddiadau. Mae hefyd yn cynnwys dolen gyswllt â thudalen a ddatblygwyd gan Project Implicity sy'n eich galluogi i brofi am eich tueddiadau cudd eich hunain.

Creu penawdau - mae gwaed yn gwerthu!

printing machine

Creu penawdau...

  • Pam maen nhw wedi dewis arwain â'r stori hon, yn lle un arall?
  • A yw'r stori yn ceisio corddi neu gyffroi'r gwylwyr?
  • A yw ffynonellau eraill o newyddion yn arwain â straeon gwahanol?

Nid yw'r Camera Byth yn Dweud Celwydd - ond cofiwch dynnu’r llun o'm hochr orau!

person holding camera

Gallai lluniau gael dylanwad anferth ar sut y meddyliwn am bobl a digwyddiadau.

  • Pa fath o luniau y mae'r ffynhonnell wedi'u defnyddio?
  • A yw'n dangos yr unigolyn neu bobl â delwedd dda neu wael?
  • A ydynt wedi dangos yr unigolion o oddi fry, oddi tanynt, o'u blaen neu'r tu ôl iddynt?  Pam maen nhw wedi gwneud hynny?
  • Peidiwch ag anghofio edrych ar y geiriau a roddwyd gyda'r llun neu'r ffilm.

Dilynwch Marianna Spring sy'n ymdrin â thwyllwybodaeth a'r cyfryngau cymdeithasol gyda'r BBC

Gwirio ffeithiau

Media Bias/Fact Check - Chwiliwch a Dysgu am Dueddiadau Cyfryngau'r Newyddion

https://mediabiasfactcheck.com

Nod Media Bias/Fact Check yw dod o hyd i arferion twyllodrus a thueddiadau yn y newyddion a'r cyfryngau

Media Bias Fact Check

A yw'r Ieithwedd yn Dangos Tuedd? Gallai terfysgwr i un unigolyn fod yn ymladdwr dros ryddid yng ngolwg rhywun arall.

Edrychwch ar sut y defnyddir iaith gan y cyfryngau.

Er enghraifft: a yw pobl sy'n ymgynnull yn y strydoedd yn cael eu disgrifio fel pobl yn creu terfysg, protestwyr neu wrthdystwyr?

Pryd y mae torf yn mynd yn giwed?

Ar 6 Ionawr 2021, gwnaeth y cyfryngau roi adroddiadau am grŵp o bobl yn mynd i mewn i adeilad y Capitol yn Washington. Disgrifiwyd y bobl gan un sianel y newyddion fel ciwed. Dywedodd sianeli newyddion eraill fod y giwed hon wedi gwarchae ar y Capitol. Defnyddiodd ffynhonnell arall o newyddion y pennawd Protestwyr yn Mynd mewn i Adeilad y Capitol. Pam y cafwyd y gwahaniaethau hyn yn yr iaith a ddefnyddiwyd wrth ddisgrifio'r un digwyddiad?

Sut mae'r modd y defnyddir iaith yn dylanwadu ar sut rydym yn gweld pobl a digwyddiadau?

Beth sydd mewn enw? Neu, gallwch ymddiried ynof i, meddyg ydw i!

Yn y cyfryngau mae dynion sydd yn feddygon neu sydd â gradd PhD yn aml yn cael eu cyflwyno fel Dr., ond mae menywod â'r un cymwysterau yn cael eu cyflwyno â'u henw cyntaf. Pam hynny, ydych chi'n meddwl?

https://www.theguardian.com/lifeandstyle/2018/jun/18/should-female-doctors-hide-their-title-why-immodestwomen-say-no

Llyfrau yn y Llyfrgell