Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Newyddion a'r Cyfryngau: Newyddion ffug

Sut olwg sydd ar newyddion ffug?

Three running men carrying papers with the labels "Humbug News", "Fake News", and "Cheap Sensation".

Gohebwyr â gwahanol ffurfiau ar "newyddion ffug" o lun gan Frederick Burr Opper yn 1894.

Rydych wedi clywed am "newyddion ffug", ond beth mae hynny'n ei feddwl yn union?

Yn 2017 datganodd Geiriadur Collins mai 'fake news' oedd gair y flwyddyn ac mae wedi aros yn y penawdau (ac wedi mynd yn fwy amlwg byth) ers hynny.

Er efallai fod yr ymadrodd i'w weld yn disgrifio cysyniad modern, ceir enghreifftiau ohono drwy hanes. Edrychwch ar y tab Enghreifftiau o newyddion ffug.

Daeth newyddion ffug yn fwyfwy o broblem i'r gymdeithas wybodaeth heddiw. Gall straeon fynd ar led i bedwar ban y byd mewn eiliadau. Mae rhannu newyddion wedi dod yn gyffredin ac mae llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol wedi hwyluso gryn dipyn ar ledaenu gwybodaeth, newyddion a straeon.  Daeth hi'n bwysicach nag erioed o'r blaen ein bod ni'n gwirio'r ffeithiau cyn rhannu rhywbeth ar-lein.

Ar y tudalen hwn fe gewch ddysgu beth yw newyddion ffug, pam mae'n beryglus eu rhannu a sut y gallwch helpu i'w hatal.

Beth yw newyddion ffug?

  • Yn union fel y mae'r enw'n awgrymu, straeon a gyhoeddir sydd heb eu seilio ar ffeithiau yw newyddion ffug.
  • Mae'n bosib i wybodaeth ffug gael ei rhannu'n gyflym mewn sawl ffordd - yn anfwriadol neu'n fwriadol.
  • Gellir rhannu newyddion ffug ar y cyfryngau cymdeithasol; gallent dyfu drwy gael sylw gan newyddiadurwyr, a’u rhannu eto gan grwpiau cysylltiedig er mwyn ceisio dylanwadu ar y farn gyhoeddus.
  • Yn aml mae newyddion ffug yn defnyddio penawdau sy'n gorliwio, sy'n gelwyddog neu sydd wedi'u dyfeisio yn llwyr er mwyn bachu'ch sylw a'ch darbwyllo i ddarllen y wybodaeth neu edrych arni'n fanylach.

Gall newyddion ffug gael eu creu:

  • oherwydd newyddiaduraeth wael

  • ymdrech i greu parodi

  • er mwyn sbarduno ymateb

  • oherwydd teimladau tanbaid

  • i wneud elw

  • i greu dylanwad neu fantais wleidyddol

  • er mwyn creu propaganda

  • i gael mantais ariannol

Newyddion ffug - gallant fod ar unrhyw ffurf neu fformat - a gallent edrych yn hollol ddilys. Gall newyddion ffug gael eu lledaenu mewn print, llwyfannau ar-lein, podlediadau, fideos YouTube, rhaglenni radio a delweddau.

close-up photography of person lifting hands

Mae’r grym gennych chi! Arhoswch a meddwl cyn rhannu.

  • Darllenwch y tu hwnt i'r teitl neu'r pennawd

  • Craffwch yn agosach bob tro

  • Peidiwch â chwympo am dwyll ‘effaith y gwirionedd twyllodrus’

  • Mae effaith y gwirionedd twyllodrus yn golygu bod po fwyaf y byddwch yn gweld a chlywed stori, y mwyaf tebygol yw hi y byddwch yn credu ei bod yn gywir. Efallai nad yw'n wir!

  • Rhowch brawf ar wirionedd yr erthygl - defnyddiwch wefan gwirio ffeithiau

  • Gwiriwch y ffeithiau - peidiwch â thybio bod y wybodaeth yn gywir

  • Rhowch wybod am unrhyw sylwadau neu straeon sy'n niweidiol neu'n anaddas

  • Edrychwch ar y poster cyferbyn ar sut i ganfod newyddion ffug

Edrychwch ar y tudalen ar Pwysigrwydd gwerthuso gwybodaeth a gwirio ffeithiau am ragor o fanylion ac am gyngor ar gloriannu'r hyn a ganfyddwch.

Mae sawl math o newyddion ffug, gan gynnwys:

Abwyd Clicio

Sef pan fydd gan wefannau benawdau, teitlau neu luniau sy'n ceisio tynnu'ch llygad (gydag ychydig iawn o wybodaeth gywir) er mwyn bachu sylw a chael mwy o ymwelwyr â'u gwefannau ac i'ch annog i weld â gwefan benodol. Mae'n bosib mai sicrhau mwy o gliciau ar ddolenni a mwy o arian hysbysebu yw'r nod, ond mae'n bosib mai dylanwadu ar farn yw'r diben.

Propaganda

Sef straeon neu ffeithiau ffug sydd wedi'u creu'n fwriadol i gamarwain darllenwyr ac i hybu safbwynt unochrog neu ryw set benodol o syniadau neu agenda wleidyddol.

Parodi / Dychan

Darn o waith creadigol yw parodi sy'n copïo neu efelychu'r ffynhonnell wreiddiol mae wedi'i seilio arni, yn gorliwio neu ystumio'r gwreiddiol, fel rheol er mwyn difyrrwch.

Er efallai fod yr ymadrodd i'w weld yn greadigaeth fodern, ceir enghreifftiau o newyddion ffug drwy hanes.

Hanesyddol

Brenin George II

George sitting on a throne

Darlun gan Thomas Hudson, 1744

Aeth newyddion anghywir a ffug ar led am George II, Brenin Prydain Fawr ac Iwerddon, yng nghanol y 1700au. Fel brenin, fe'i gwelid yn arweinydd cryf ac iach. Ar y pryd, roedd y brenin yn wynebu gwrthryfel. Argraffwyd newyddion ffug am y brenin, yn dweud nad oedd ei iechyd yn dda, gan ffynonellau a oedd o blaid y gwrthryfelwyr. Ailargraffwyd y straeon ffug hyn gan argraffwyr eraill, ac fe niweidiodd hyn ddelwedd gyhoeddus y brenin. Roedd hi'n anodd barnu rhwng ffaith a ffugiant. Ni lwyddodd y gwrthryfel ond roedd argraffu'r straeon hyn, a'u hailargraffu droeon, yn dangos pa mor hawdd y gallai'r math hwn o newyddion ffug gyfrannu at newid canfyddiadau a safbwyntiau pobl.

 

Creaduriaid a Bywyd  ar y Lleuad, 1835

File:Ny-suns-moon-hoax.jpg

Lithograff o'r Amffitheatr Ruddem ar y Lleuad

Ar 21 Awst 1835, cyhoeddodd The New York Sun erthygl am ddarganfyddiad gwyddonol (â thelesgop hynod bwerus!) yn dangos bod bywyd ar y Lleuad, gan gynnwys anifeiliaid megis uncyrn, ystlumddynion ehedog ac afancod dwygoes.  Roedd y stori wedi'i phriodoli, ar gam, i seryddwr enwog o'r enw Syr John Herschel, a oedd yn golygu bod pobl yn fwy tebygol o gredu ei bod hi'n wir. Ailargraffwyd yr erthyglau drwy Ewrop, a helpodd i ledaenu'r 'newyddion'. Roedd y stori yn boblogaidd a bu cynnydd mawr yng ngwerthiant y papurau newydd gan fod pobl am gael gwybod mwy am y darganfyddiadau.

Rhyfel - " Yr Almaenwyr a'u meirw"

Y Ceiser (wrth filwr newydd yn 1917). "A phaid ag anghofio y bydd eich Ceiser yn dod o hyd i ryw fodd o'ch defnyddio chi, yn fyw neu'n farw." Punch, 25 Ebrill 1917.

Yn 1917, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cyhoeddodd The Times a'r Daily Mail straeon o ffynonellau dienw yn honni eu bod wedi ymweld â'r Kadaververwertungsanstalt, sef ffatri-defnyddio-celanedd, lle'r oedd yr Almaenwyr yn defnyddio bloneg o gyrff milwyr meirw o ddwy ochr y rhyfel i wneud sebon a marjarin. Deilliodd y stori o adran swyddogol llywodraeth Prydain, sef MI7, ac fe'i rhoddwyd i'r wasg fel y byddai'n cael ei chyhoeddi er mwyn ceisio argyhoeddi'r darllenwyr bod rhaid trechu'r Almaen.

 

Y newyddion ffug diweddaraf 

Covid-19 | New Scientist

COVID-19

Mae newyddion ffug neu ffug wybodaeth am y Coronafeirws wedi lledaenu'n gyflym yn ystod y pandemig. Dyma un o'r straeon am COVID-19 sydd wedi mynd ar led yn fwyaf eang:

'Os gallwch ddal eich anadl am 10 eiliad, nid yw'r feirws arnoch chi'.

Rhannwyd y neges honno'n fwy na 30,000 o weithiau ar Facebook, yn cyrraedd pobl ym mhob cwr o'r byd, yn dweud wrth bobl am geisio'r prawf syml honedig ac "os gallwch ei wneud yn ddigon rhwydd, heb beswch, mae hynny'n dangos nad oes ffibrosis yn yr ysgyfaint, sy'n dangos nad oes haint yno. Argymhellir gwneud y prawf rheoli hwn bob bore i helpu i ganfod yr haint."

I gael rhagor o wybodaeth am hanes newyddion ffug, edrychwch ar Ian Hislop's Fake News: A True History, rhaglen ddogfen gan y BBC sydd ar gael drwy Box of Broadcasts.

Llyfrau i'ch helpu

Sut i adnabod newyddion ffug