Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Newyddion a'r Cyfryngau: Sensoriaeth

Diffiniad

purple and yellow abstract painting

Mae sensoriaeth yn digwydd pan fo gwahanol fathau o gyfryngau yn cael eu harchwilio ac mae unrhyw rannau sy’n cael eu barnu’n annerbyniol yn cael eu rhwystro.

Mae sensora'n gallu arwain at wahardd rhannau o lyfrau, ffilmiau, newyddion, siarad, cyfathrebu cyhoeddus neu fath arall o wybodaeth sy'n cael eu barnu fel rhai anllad, tramgwyddus, gwleidyddol annerbyniol, niweidiol, sensitif neu'n bygwth diogelwch cenedlaethol.

Hynny yw, mae sensoriaeth yn ceisio rhwystro rhywbeth rhag cael ei ddarllen, ei glywed neu'i weld.

Gall sensoriaeth gael ei gwneud gan lywodraethau, sefydliadau preifat, awdurdodau a mathau eraill o gyrff rheoli.

Llyfrau yn y Llyfrgell