Teledu-Radio-Ffilm
Box of Broadcasts (BoB) yw gwasanaeth teledu a radio ar-alw Learning on Screen ar gyfer addysg. Mae'r gwasanaeth hwn, sydd â gogwydd academaidd, yn rhoi'r hawl i staff a myfyrwyr recordio rhaglenni o 75 o sianeli derbyn-am-ddim; ac i chwilio drwy’r archif o fwy na 2.2 miliwn o ddarllediadau.
Cofrestru ar gyfer BoB:
Wrth ei ddefnyddio am y tro cyntaf, bydd angen i chi gofrestru â Box of Broadcasts (BoB) cyn defnyddio'r gwasanaeth. Gweler y camau cofrestru yn y Cwestiynau Cyffredin, rhif 2875.
Defnyddio BoB:
Cwestiynau Cyffredin BoB: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?search=bob
Mae gan y Brifysgol stoc fawr o ddisgiau DVD i'w benthyg.
Mae'r holl eitemau wedi'u rhoi ar Gatalog y llyfrgell - Primo ac ar gael i'w benthyca.
Dyma ddolenni cyswllt ag amrywiaeth eang o ffynonellau o wybodaeth ar-lein sydd ar gael i fyfyrwyr a staff y Brifysgol drwy danysgrifiadau neu drwy gael eu prynu gan Lyfrgell y Brifysgol, yn ogystal â detholiad bychan o gynnwys sydd ar gael yn rhad ac am ddim.
https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/elecinfo/eiaz/