Mae chwilio am ffynonellau dibynadwy i'ch astudiaethau yn gallu bod yn ddigon i godi braw - mae cymaint o wybodaeth ar gael mewn gwahanol fathau o ddogfennau a fformatau, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau. Edrychwch ar y blychau isod i weld sut y gall y llyfrgell a'ch Llyfrgellydd Pwnc eich helpu i ddod o hyd i ffynonellau o gyfryngau sy’n addas i'ch gwaith.
Cyn i chi gychwyn, dyma gyflwyniad cryno i'r hyn sydd ar gael.
Gwyddoniaduron (encyclopaedias) - lle da i gychwyn os ydych yn edrych ar bwnc nad ydych wedi'i astudio o'r blaen. Byddant yn eich helpu i ddeall y prif dermau, diffinio'ch maes astudio a'ch helpu i feithrin geirfa ar gyfer ymchwil i'r maes.
Llyfrau - yn darparu trafodaeth fanwl am bwnc penodol, neu ymdriniaeth o ddatblygiad hanesyddol y pwnc. Cewch chwilio am lyfrau ar eich pwnc chi drwy ddefnyddio Primo, sef catalog ein llyfrgell.
Cyfnodolion academaidd - yn cynnwys yr erthyglau a'r ymchwil diweddaraf ar eich pwnc penodol chi.
Erthyglau - i'w cael mewn cyfnodolion academaidd ac maent yn cynnig ffynhonnell dda iawn am y datblygiadau diweddaraf oll ar eich pwnc. Maent ar gael naill ai'n electronig neu'n argraffedig ar silffoedd y llyfrgell. Cadwch lygad ar agor am erthyglau a adolygwyd gan gyd-academyddion sydd wedi'u hadolygu a'u derbyn gan arbenigwyr yn eu maes cyn cael eu cyhoeddi. Defnyddiwch yr hidlydd yn Primo i chwilio am ddeunydd a adolygwyd gan gyd-academyddion.
Papurau newydd - gallent roi safbwynt cyfoes ar ddigwyddiadau.
Yn dibynnu ar y pwnc, gallech hefyd ddefnyddio dogfennaeth arbenigol megis adroddiadau cyfreithiol, deddfwriaeth, cofnodion llywodraethau, papurau seneddol, adroddiadau busnes neu astudiaethau gwyddonol.
Gweler isod sut y gall eich Llyfrgellydd Pwnc eich helpu; cymerwch gip ar y dewislenni disgyn ar y tudalen hwn i weld ble y gallwch ddod o hyd i'r mathau gwahanol o ffynonellau o fewn y llyfrgell.
Gall y Llyfrgellwyr Pwnc, sy’n rhan o’r tîm Cysylltiadau Academaidd, ddarparu:
Gallwch ddod o hyd i'ch Llyfrgellydd Pwnc trwy fynd i'r weddalen ganlynol:
Er bod gwahanol gyhoeddwyr yn darparu testunau llawn mewn gwahanol ffyrdd, mae e-adnoddau Prifysgol Aberystwyth ar gael i’w defnyddio ar y campws, ac oddi arno:
Rydym yn cynnig apwyntiadau ar-lein drwy Microsoft Teams i'ch helpu i ddod o hyd i ddeunydd ar gyfer eich aseiniadau, eich ymchwil a'ch adolygiadau ar destunau academaidd. Archebwch eich apwyntiad yma:
Cadwch lygad am ein newyddion diweddaraf a dilynwch ein presenoldeb ar wahanol lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol.
Trydar:@aberuni_is (https://twitter.com/aberuni_is)
Facebook: https://www.facebook.com/aberuni.is
Instagram: https://www.instagram.com/isaberuni/
You Tube Prifysgol Aberystwyth:https://www.youtube.com/user/aberystwythuni