Rhyddid llafar neu ryddid mynegiant yw'r hawl i fynegi unrhyw farn heb ei sensora na'i hatal.
Dylid parchu rhyddid mynegiant, rhywbeth sy'n cael ei bwysleisio yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Fe ellir cyfyngu ar ryddid llafar a rhyddid mynegiant os yw'n ymwneud ag iaith casineb neu’n ysgogiad i droseddu.
Erthygl 10 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998: Rhyddid mynegiant
1. Mae gan bawb yr hawl i ryddid mynegiant. Bydd yr hawl hon yn cynnwys rhyddid barn a'r rhyddid i dderbyn a chyfleu gwybodaeth a syniadau heb ymyrraeth gan awdurdodau cyhoeddus a hynny heb ystyried ffiniau. Ni fydd yr Erthygl hon yn atal Gwladwriaethau rhag mynnu bod mentrau darlledu, teledu neu sinema yn cael eu trwyddedu.
2. Mae arddel y rhyddidau hyn, gan fod hynny'n dod â dyletswyddau a chyfrifoldebau gydag ef, yn gallu bod yn ddarostyngedig i'r cyfryw ffurfioldebau, amodau, cyfyngiadau neu gosbau ag sydd wedi'u rhagnodi gan y gyfraith ac sy'n angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd, er budd diogelwch cenedlaethol, integredd tiriogaethol neu ddiogelwch y cyhoedd, er atal anhrefn neu droseddu, er amddiffyn iechyd neu foesoldeb, er diogelu enw da neu hawliau eraill, er atal gwybodaeth a gafwyd mewn cyfrinachedd rhag cael ei datgelu, neu er cynnal awdurdod a didueddrwydd y farnwriaeth (https://www.legislation.gov.uk/ukpga/1998/42/introduction)
Ffynhonnell: Deddf Hawliau Dynol 1998 (legislation.gov.uk)