Darllenwch trwy bob un o'r tudalennau canlynol er mwyn dysgu mwy am yr angen cynyddol am grebwyll wrth ymdrin â'r cyfryngau yn yr oes ddigidol.
Ar ôl i chi orffen, gallwch wedyn roi prawf ar eich gwybodaeth trwy roi cynnig ar ein cwis a fydd yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau.
Ar ôl dilyn y canllaw hwn byddwch yn gallu:
- Diogelu'ch delwedd ar-lein
- Diffinio beth yw'r cyfryngau a chrebwyll wrth ymdrin â'r cyfryngau
- Deall y gwahanol fathau o ffynonellau'r cyfryngau a'r rhannau a chwaraeant yn yr oes ddigidol
- Diffinio cysyniadau allweddol megis rhyddid mynegiant, camwybodaeth a thwyllwybodaeth, a sensoriaeth
- Dysgu sut y defnyddir algorithmau i gyflwyno gwybodaeth wedi'i theilwra'n bersonol ar lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol
- Deall cysyniadau dethol a thuedd o fewn y cyfryngau
- Esbonio beth yw newyddion ffug a sut mae eu hadnabod yn y cyfryngau
- Dehongli'r gwahaniaethau rhwng ffeithiau a safbwyntiau
- Cydnabod pa mor bwysig yw cloriannu gwybodaeth a gwirio ffeithiau
Mae’r Llyfrgellwyr Pwnc yn darparu hyfforddiant ar sgiliau gwybodaeth a chymorth manwl sy'n berthnasol i bynciau astudio myfyrwyr. Cynigiwn apwyntiadau unigol i'ch helpu i ddod o hyd i'r ffynonellau iawn, ac i roi arweiniad â'ch ymchwil a'ch adolygiadau ar destunau academaidd.