Neidio i'r Prif Gynnwys
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Gwyddorau Bywyd ac AGBAG (IBERS): Pam defnyddio cyfnodolion ac erthyglau?

Cyfnodolion

Mae cyfnodolyn yn gyhoeddiad sy'n canolbwyntio ar faes pwnc penodol sy'n gallu cynnwys erthyglau, llythyrau, ymchwil, barn ac adolygiadau a ysgrifennwyd gan wahanol awduron.

Cyhoeddir cyfnodolion yn rheolaidd, megis wythnosol, misol neu chwarterol.

  • Mae pob copi yn rifyn
  • Mae set o rifynau yn gwneud cyfrol (fel arfer mae pob blwyddyn yn gyfrol ar wahân).

Gellir dod o hyd iddynt ar ffurf print, ar-lein neu'r ddau.

Mae'r Llyfrgell yn rhoi mynediad am ddim i staff a myfyrwyr y Brifysgol at ystod eang o adnoddau digidol megis e-gylchgronau, e-erthyglau testun llawn a chronfeydd data.

Rhif dosbarth

Unrhyw beth a welwch ar Primo neu yn ein Llyfrgelloedd gyda PER yn y dosbarth, mae'n gyfnodolyn sy'n cynnwys papurau byr neu erthyglau ar bynciau penodol.

Unrhyw beth a welwch gyda SCI PER yn y dosbarth, mae'n gyfnodolyn sydd wedi'i leoli ar Lefel E, Llyfrgell Hugh Owen ac mae'n gyfnodolyn gwyddonol (SCIENCE).

Gallwch ddod o hyd i'r erthyglau hyn:

  • rhwymo gyda'i gilydd fel cyfrolau neu
  • wedi ffeiliomewn blychau pamffledi

Pam defnyddio erthyglau cyfnodolion?

Pam ddylwn i eu defnyddio?
  • Mynediad cyflymach i wybodaeth gyfredol o'i gymharu â llyfrau  
  • Eich diweddaru am ddatblygiadau newydd yn eich maes
  • Cyhoeddir erthyglau cyfnodolion yn gyflymach na llyfrau, felly gallant fod yn fwy diweddar
  • Darparu gwybodaeth benodol, fanwl mewn fformat cryno, ysgolheigaidd  
  • Efallai na fydd pynciau yn cael eu cynnwys eto mewn llyfrau
  • Yn cynnwys ymchwil o ansawdd gyda hygrededd academaidd ac adolygiad cyfoedion
  • Ffynonellau pwysig ar gyfer gwybodaeth pwnc neu ymchwil
  • Maent yn aml yn ymdrin â phwnc yn fanwl ac yn cynnwys ymchwil wreiddiol