Neidio i'r Prif Gynnwys
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Gwyddorau Bywyd ac AGBAG (IBERS): Dod o hyd i adnoddau testun llawn: defnyddio'r estyniad porwr LibKey Nomad

Dod o hyd i adnoddau testun llawn: defnyddio'r estyniad porwr LibKey Nomad

Mae LibKey Nomad yn estyniad porwr sy'n darparu dolenni awtomatig i erthyglau testun llawn wrth ichi wneud ymchwil a dod ar draws llenyddiaeth ar y we.

Mae LibKey Nomad yn chwilio ein daliadau Llyfrgell a data mynediad agored i ddod o hyd i'r fersiwn orau o'r erthygl tra byddwch chi'n chwilio'r we ac yn dod ar draws llenyddiaeth.

libkey nomad logo

Lawrlwytho LibKey Nomad yma

Mae LibKey Nomad yn hawdd i’w ddefnyddio.

  • Ewch i’r dudalen lawrlwytho ac ychwanegwch yr estyniad at eich porwr o ddewis
  • Ar ôl ei osod, bydd gofyn ichi ddewis eich sefydliad. Dewiswch Prifysgol Aberystwyth

libkey nomad logo

Download LibKey Nomad here

Pan fyddwch chi'n glanio ar dudalen gydag erthygl sydd ar gael i'w lawrlwytho, bydd baner LibKey Nomad yn ymddangos ar waelod eich sgrin. Cliciwch i lawrlwytho'r PDF. Os ydych chi oddi ar y campws, bydd angen i chi fewngofnodi trwy VPN yn gyntaf.


Os ydych chi'n defnyddio'r cronfeydd data academaidd PubMed a Scopus, mae LibKey yn darparu nodweddion ychwanegol. Ar y dudalen canlyniadau chwilio gallwch weld dolenni i ddogfennau PDF o erthyglau a dolenni i weld yr holl erthyglau mewn rhifyn cyfnodolyn trwy BrowZine.