Mae'r Gwasanaeth Rhyng-Safle yn galluogi:
Staff a myfyrwyr sydd wedi'i lleoli ar gampws Gogerddan i wneud cais i drosglwyddo eitemau o gampws Penglais/y Storfa Allanol draw i gampws Gogerddan.
Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth hwn a sut i wneud cais, ewch i'r dudalen Gwasanaeth Rhyng-Safle.
Mae Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol.
Gallwn gefnogi staff a myfyrwyr gydag ymchwil a dysgu trwy leoli a chyflenwi llyfrau, penodau ac erthyglau a gedwir gan lyfrgelloedd eraill.
Am fwy o wybodaeth ewch i'r dudalen Gwasanaethau Cyflenwi Dogfennau.
Bydd neges yn cael ei anfon i staff a myfyrwyr Gogerddan gyda dyddiadau ac amseroedd y sesiwn galw heibio (yn ystod y tymor yn unig).
Mae croeso i chi e-bostio eich ymholiad i Non neu i drefnu apwyntiad: Trefnwch apwyntiad gyda fi