Mae rhestr ddarllen modiwlau fel arfer yn rhestr o lyfrau ac adnoddau gwybodaeth eraill a luniwyd gan gydlynydd y modiwl i gefnogi eich astudiaeth o fodiwl.
Gallwch weld a yw llyfr rydych chi wedi'i ddarganfod yn Primo ar restr ddarllen modiwl penodol gan y bydd yn dangos hyn o dan deitl y llyfr.
Cliciwch ar y botwm RHESTRAU DARLLEN i weld pa fodiwl(au) mae'r llyfr arno. Cliciwch ar y linc RHESTRAU DARLLEN a bydd hyn yn mynd â chi i weld y rhestr ddarllen cyflawn yn Aspire.
Gallwch ddod o hyd i'r rhestr ddarllen ar gyfer modiwl rydych chi'n ei astudio yn Blackboard.
neu
Gallwch hefyd weld eich rhestrau yn uniongyrchol yn y system Rhestr Darllen Aspire yn aspire.aber.ac.uk
Rhowch god y modiwl a/neu enw yn y blwch chwilio a chliciwch ar y chwyddwydr - bydd eich darlleniad dewisol yn cael ei arddangos.
Darganfyddwch fwy drwy ymweld â Rhestrau Darllen : Gwasanaethau Gwybodaeth , Prifysgol Aberystwyth