Mae cwtogi yn dechneg chwilio arall y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i wahanol derfyniadau geiriau yn seiliedig ar wraidd gair. Yn syml, mae cwtogi yn golygu byrhau rhywbeth. Pan fyddwch yn chwilio gan ddefnyddio cwtogi fel techneg chwilio, byddwch yn byrhau neu'n dileu diwedd gair penodol ac yn gadael gwraidd y gair penodol hwnnw yn unig a rennir gan dermau lluosog. Bydd y gronfa ddata'n edrych am yr holl amrywiadau. Ni fydd yn rhaid i chi deipio holl amrywiadau gwahanol y term gan y bydd y gronfa ddata yn chwilio hyn i chi ar yr un pryd, yn hytrach na'ch bod yn gwneud sawl chwiliad ar wahân.
Mae'r symbol cwtogi (*) yn adfer unrhyw nifer o lythrennau - mae'n ddefnyddiol i ddod o hyd i wahanol derfyniadau geiriau yn seiliedig ar wraidd gair.
Mae hwn yn dechneg sydd yn fwy defnyddiol yn yr Saesneg gan fod yna amrwyiadau yn sillafu ambell eiriau, er enghraifft gwhaniaethau rhwng Saesneg Prydain Fawr a Saesneg Americanaidd.
Er enghraifft: