Neidio i'r Prif Gynnwys
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Gwyddorau Bywyd ac AGBAG (IBERS): Lle gallaf ddod o hyd i lyfrau ar gyfer fy nghwrs yn y llyfrgell?

Map llawr ar-lein

Edrychwch ar y map llawr a'r canllaw llyfrgell i'ch helpu i lywio Llyfrgell Hugh Owen a dod o hyd i'ch llyfrau ac adnoddau eraill ar y silffoedd.

  • Porwch y map ar-lein yn libraryfloormap.aber.ac.uk i ddarganfod beth sy'n lle, cael mwy o wybodaeth am adnoddau a gofodau'r llyfrgell ac ymgyfarwyddo â'r cynllun – peidiwch byth â mynd ar goll eto!
  • Mae yna hefyd ciosgau map llawr ar bob llawr o'r llyfrgell.

Mae Map Llawr y Llyfrgell wedi'i integreiddio â Primo, catalog y llyfrgell. Pan fyddwch yn edrych ar eich eitem yn Primo, cliciwch ar ddolen Map Llawr y Llyfrgell i agor y map a bydd y silffoedd lle mae eich eitem wedi'i lleoli yn cael eu hamlygu.

Lleoliad yn y llyfrgell

Fe welwch lyfrau ar gyfer eich cwrs:

  • fel copïau ffisegol yn Llyfrgell Hugh Owen a 
  • ar-lein fel e-lyfrau

Bydd llyfrau Gwyddorau Bywyd corfforol/print wedi'u lleoli ar Lefel E, Llyfrgell Hugh Owen.

 

Dut i ddod o hyd i e-lyfrau yn Primo

Byddwch hefyd yn dod o hyd i lawer o lyfrau ar gael ar-lein fel e-lyfrau yn Primo.

Cadwch y chwiliad fel y chwiliad LLYFRGELLOEDD diofyn pan fyddwch chi'n chwilio am e-lyfrau.