Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Gwyddorau Bywyd a BVSc Gwyddor Milfeddygaeth: Ystadegau

Data ac Ystadegau

Lle bynnag yr edrychwch, mae data ym mhobman! Yn syml, data yw ffeithiau plaen am rywbeth. Rhaid casglu, dehongli a chyflwyno'r data er mwyn iddo fod ag ystyr. Data yw'r cynhwysion amrwd y mae ystadegau'n cael eu creu ohonynt.

Mae ystadegau'n ddefnyddiol pan fydd angen i chi gefnogi dadl a gallant fod yn ffynhonnell wybodaeth hanfodol ar gyfer eich astudiaethau.

Gellir cynnal dadansoddiad ystadegol ar ddata i ddangos perthnasoedd ymhlith y newidynnau a gasglwyd. Trwy ddadansoddi data eilaidd, gall llawer o wahanol ymchwilwyr ailddefnyddio'r un set ddata at wahanol ddibenion.

 

Wrth werthuso data ystadegol, dyma rai cwestiynau i feddwl amdanynt ...

Awdur

Pwy yw'r awdur? Ydyn nhw'n ddibynadwy?

Cyfnod Amser

Beth yw ystod dyddiad y data? Hanesyddol, cyfredol neu ystod o flynyddoedd? Cofiwch ei bod yn cymryd peth amser i gasglu data.

Daearyddiaeth

Pa wlad, gwladwriaeth, sir, ac ati, a allai grynhoi'r data rydych chi ei eisiau?

Ffynonellau

A yw'r ystadegau'n ddibynadwy / gywir? A ydyn nhw'n dod o ffynonellau awdurdodol fel y llywodraeth neu sefydliad rhyngwladol? A ellir eu gwirio?

Argaeledd

Pa ddata sy'n debygol o fod ar gael?

Sylw

A yw'r sylw'n gyflawn?

Mapiau

Gall mapiau, print a digidol, fod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol ar draws ystod o wahanol ddisgyblaethau gan gynnwys amaethyddiaeth, gwyddorau biolegol, y ddaear a'r diwydiant gwledig.  Gall mapiau o'r dref a'r tir ddarparu llawer o fanylion a gall mapiau hanesyddol ddangos datblygiad ar draws y canrifoedd.

Ystadegau Cymru

Ystadegau Llywodraeth Cymru Mynediad i feysydd pwnc ystadegau Llywodraeth Cymru.

StatsCymru Data swyddogol ar Gymru (cyffredinol).

Ystadegau’r DU

Asiantaeth Iechyd Anifeiliad a Phlanhigion

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)

  • Mae DEFRA yn cyhoeddi ystadegau cenedlaethol a swyddogol sy'n ymwneud â'r amgylchedd, cymunedau gwledig, bwyd, ffermio a bioddiogelwch.

IBIS World adnodd ardderchog ar gyfer gwybodaeth ac ystadegau am gwmnïau a’r sector diwydiant.

Canolfan Gyhoeddiadau Ystadegau Gwladol y DU Porth i Ystadegau Gwladol y DU.

UK Data Service y casgliad mwyaf yn y DU o ddata cymdeithasol, economaidd a phoblogaeth (data ar y DU a Rhyngwladol).

Ystadegau Amaethyddiaeth Organig

Ystadegau Gwladol Ar-lein Mynediad i ystadegau swyddogol y DU (2008 ymlaen).

Ystadegau Cymdogaeth Ystadegau lleol swyddogol llywodraeth y  DU. Adroddiadau ar gael drwy ddefnyddio chwiliadau cod post.

Ystadegau Rhyngwladol

Arweiniad i’r adnoddau data rhyngwladol sydd ar gael yn eang Dolenni i wefannau ystadegau swyddogol cenedlaethol, rhanbarthol a rhyngwladol.

Cenhedloedd Unedig - Comisiwn Ystadegol 

EUROPA  Ystadegau Amaethyddol a mesuryddyion yr Undeb Ewropeaidd

Global Health Observatory (GHO) Data Dyma porth i ystadegau cysylltiedig â iechyd o bob cwr o'r byd.

NationMaster Casgliad o ddata o ffynonellau fel y Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Iechyd. Gallwch chwilio, cymharu unrhyw ddwy wlad yn ôl categori a phori yn ôl gwlad.

Quandl Setiau data cyfres-amser o 400 ffynhonnell. Yn cynnwys prisiau olew, graddfeydd cyfnewid, diweithdra a marchnadoedd stoc y byd.

UN DataExplorer Mynediad am ddim i brif ystadegau rhyngwladol y byd gan y Cenhedloedd Unedig. Yn cynnwys ystadegau gan y sefydliad bwyd ac amaethyddiaeth (FAO).

Undeb Ewropeaidd – Porth Data Agored  Mynediad i ddata yr Undeb Ewropeaidd.

UNWTO Tourism Statistics ystadegau cyfredol ar dwristiaeth o bob cwr o’r byd.

World Factbook Cyflwyniad cyffredinol i bob gwlad a disgrifiadau cryno o nifer o agweddau gan gynnwys pobl, llywodraeth, economi a thrafnidiaeth.

Ystadegau Adran Amaethyddol yr Unol Daleithiau 

Desg Mathemateg ac Ystadegaeth

Cefnogaeth Mathemateg ac Ystadegau

Mae'r Gwasanaeth Cymorth Mathemateg ac Ystadegaeth yn cael ei redeg gan yr Adran Fathemateg.

Defnyddio R a RStudio

R      All images

Ar gyfer myfyrwyr a staff sydd eisiau gosod R ar gyfrifiaduron personol, mae angen i chi lawrlwytho a gosod R yn gyntaf ac yna lawrlwytho a gosod RStudio sydd ill dau ar gael am ddim:

  1. https://cran.r-project.org/
  2. https://posit.co/downloads/

Cyrsiau LinkedIn Learning am R a RStudio

Ar borwr gwe:

  1. Ewch i https://linkedinlearning.aber.ac.uk 
  2. Mewngofnodwch â’ch cyfeiriad ebost a’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth
  3. Y tro cyntaf y byddwch yn mewngofnodi, gofynnir ichi gysylltu eich cyfrif personol LinkedIn neu barhau heb gysylltu cyfrif. 

Esiamplau o gyrsiau: (mewngofnodwch yn ochr dde uchaf y sgrin gyda’ch cyfeiriad ebost a’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth)

Llyfrau i helpu gydag ystadegau