Neidio i'r Prif Gynnwys
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Gwyddorau Bywyd ac AGBAG (IBERS): Cronfeydd data, gwefannau a ffynonellau defnyddiol arall

Gwefannau a ffynonellau eraill o wybodaeth

Mae chwilio am wybodaeth ar y we yn ddigon rhwydd ond tasg tipyn anoddach yw darganfod gwybodaeth dibynadwy a pherthnasol. Mae'r dudalen hon yn rhoi blas i chi o'r gwahanol wefannau, sefydliadau, elusennau a chyfundrefnau sydd ar gael. Porwch drwy'r tabiau a'r linciau isod i weld beth sydd ar  gael ar y we i gefnogi eich pwnc. 

Gwefannau defnyddiol

Mae llawer o wybodaeth ar gael! Mae'r tabiau canlynol yn cynnwys detholiad o wefannau defnyddiol wedi'u categoreiddio fesul pwnc.

Mapiau

Gall mapiau, print a digidol, fod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol ar draws ystod o wahanol ddisgyblaethau gan gynnwys amaethyddiaeth, gwyddorau biolegol, y ddaear a'r diwydiant gwledig.  Gall mapiau o'r dref a'r tir ddarparu llawer o fanylion a gall mapiau hanesyddol ddangos datblygiad ar draws y canrifoedd.

Adnoddau ar-lein dros dro

Mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth yn gwneud cais am dreialon rhad ac am ddim o adnoddau ar-lein mewn ymateb i ymholiadau gan staff a myfyrwyr. 

Rydym hefyd yn gwneud cais am dreialon o adnoddau newydd a allai fod yn ddefnyddiol ac o ddiddordeb yng nghyswllt addysgu, dysgu neu ymchwil.

E-bostiwch llyfrgellwyr@aber.ac.uk ar ôl rhoi cynnig ar unrhyw rai o’r treialon hyn, gan nodi’n fyr pam y byddai’r adnodd yn ddefnyddiol i chi.

Os hoffech gael mynediad at gynnwys llyfrgell am ddim ar ôl i gyhoeddwr academaidd gysylltu â chi, anfonwch y manylion at eich llyfrgellydd academaidd llyfrgellwyr@aber.ac.uk a fydd yn rhoi mynediad ichi.

Darperir y dyddiadau gorffen.

Cyfundrefnau a sefydliadau

  • AHDB Agriculture and Horticulture Development Board

    • Mae AHDB yn cyflwyno prosiectau trawsnewidiol i yrru cynhyrchiant a hybu busnesau ffermio a chadwyn gyflenwi.

  • Asiantaeth yr Amgylchedd

    • Mae'r asiantaeth yn creu lleoedd gwell i bobl a bywyd gwyllt, a chefnogi datblygu cynaliadwy.

  • British Association of Sport and Exercise Sciences

    • corff proffesiynol ar gyfer gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff yn y DU.

  • British Society of Animal Science

    • Mae Cymdeithas Brydeinig Gwyddor Anifeiliaid yn gweithio i wella'r ddealltwriaeth o wyddoniaeth anifeiliaid a'r ffyrdd y gall helpu i sicrhau bod bwyd yn cael ei gynhyrchu'n foesegol ac yn economaidd.

  • CGIAR Consultative Group on International Agricultural Research

    • Partneriaeth fyd-eang yw'r CGIAR sy'n uno sefydliadau sy'n ymwneud ag ymchwil ar gyfer dyfodol diogel i fwyd.

  • DEFRA  Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

    • Adran Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am bolisïau a rheoliadau ar faterion amgylcheddol, bwyd a chefn gwlad.

  • DHSC Department of Health and Social Care

    • Arwain iechyd a gofal cymdeithasol y genedl i helpu pobl i fyw bywydau mwy annibynnol, iachach am gyfnod hirach.

  • Farmers Weekly Interactive  

    • Newyddion dyddiol am faterion amaethyddol byd-eang, archif newyddion chwiliadwy, manylion am ddigwyddiadau a datganiadau i'r wasg gan DEFRA (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig). Mynediad am ddim, ond angen cofrestru

  • Food and Agriculture Organization of the United Nations (FAO)

    • Mae'n cynnwys sawl cronfa ddata gydag ystadegau manwl ar gyfer cynhyrchu, masnachu a chyflenwi nwyddau a galw.

  • Gwarant Fferm (gwefan llywodraeth)

  • Met Office

    • Gwasanaeth meteorolegol cenedlaethol ar gyfer y DU. Maent yn darparu gwasanaethau tywydd critigol a gwyddoniaeth hinsawdd sy'n arwain y byd, gan eich helpu i wneud penderfyniadau gwell i aros yn ddiogel.

  • Met Office - Casgliad Llyfrgell ac Archif.

    • Casgliadau mwyaf cynhwysfawr y wlad ar feteoroleg.

  • National Beef Association (NBA)

    • Nodi a hyrwyddo'r lefelau uchaf posibl o arfer gorau trwy'r gadwyn gynhyrchu.

  • National Sheep Association (NSA)

    • Sefydliad sy'n cynrychioli barn a diddordebau cynhyrchwyr defaid ledled y DU.

  • Natural Resources Wales

    • Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal a'u defnyddio'n gynaliadwy, nawr ac yn y dyfodol.

  • Natural England

    • Natural England yw cynghorwr y Llywodraeth ar yr amgylchedd naturiol. Maent yn darparu cyngor ymarferol, wedi'i seilio ar wyddoniaeth, ar y ffordd orau o ddiogelu Cyfoeth Naturiol Lloegr er budd pawb.

  • NFU Cymru 

    • NFU Cymru yw'r prif sefydliad amaethyddol ar gyfer ffermwyr yng Nghymru.

  • NIAB National Institute of Agricultural Botany

    • Mae'r sefyliad yma yn arloesi mewn gwyddor cnydau yn y DU ac ar draws y byd. 

  • NICE National Institute for Health and Care Excellence

    • Yn darparu arweiniad a chyngor cenedlaethol i wella iechyd a gofal cymdeithasol.

  • ODI Overseas Development Institute

    • Y sefydliad datblygu tramor (ODI) yw melin drafod annibynnol mwyaf blaenllaw y DU ar ddatblygu rhyngwladol a materion dyngarol.

  • OECD  The Organisation for Economic Co-operation and Development

    • Nod y sefydliad ar gyfer cydweithrediad a datblygiad economaidd yw hyrwyddo polisïau a fydd yn gwella lles economaidd a chymdeithasol pobl ledled y byd.

  • Paratoi Cymru

    • Brexit: yr Amgylchedd, Amaethyddiaeth a Bwyd

  • Royal Agricultural Society of England

  • Royal Welsh Agricultural Society

  • Royal College of Veterinary Surgeons  

    • Nod Coleg Brenhinol y milfeddygon yw gwella'r gymdeithas drwy wella iechyd a lles anifeiliaid.

  • Soil Association  

    • Elusen y DU sy'n ymgyrchu o blaid bwyd, ffermio a defnydd tir iach, dyngarol a chynaliadwy.

  • UK Health statistics

    • Disgwyliad oes ac effaith ffactorau fel galwedigaeth, salwch a chamddefnyddio cyffuriau. Rydym yn casglu'r ystadegau hyn o gofrestriadau ac arolygon.

  • World Bank 

    • Y ffynhonnell fwyaf o gymorth datblygu yn y byd. Llawer o gyhoeddiadau testun llawn ar gael.

Deunydd cyfeiriadol

Mae'r deunyddiau cyfeirio yn cynnwys gwyddoniaduron, geiriaduron, cyfeiriaduron, mynegeion ac ati. Mae'r eitemau hyn yn ddefnyddiol os hoffech ddod o hyd i wybodaeth benodol neu pan fyddwch yn dechrau chwilio am ddeunydd ar bwnc penodol.

Dyma rai engreifftiau o'r deunydd sydd ar gael ar-lein:

Papurau Cynadleddau

Mae cynhadledd yn ddigwyddiad wedi'i drefnu gan sefydliad neu gymdeithas lle gall academyddion ac ymchwilwyr gyflwyno a thrafod eu gwaith ac mae'n ffordd bwysig o gyfnewid a lledaenu gwybodaeth. Papur cynhadledd yw'r testun neu'r Cyflwyniad a roddir mewn cynhadledd. Gellir cyfeirio at gasgliad o bapurau cynhadledd fel trafodion cynhadledd. 

Edrychwch ar y gwefannau canlynol lle gallwch chwilio am gynadleddau yn ôl maes pwnc, dyddiad, lleoliad a chyrchfan. Gallwch hefyd gofrestru i dderbyn rhybuddion a diweddariadau e-bost am ddim o'r digwyddiadau sy'n cyfateb i'ch diddordebau.

Conference Alerts

Allconferences.com