Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Canfod a Rheoli Gwybodaeth ar gyfer eich Traethawd Hir: 1. Cyflwyniad

Cyflwyniad

Nod y canllaw hwn yw eich helpu chi i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich traethawd hir ac i reoli’r wybodaeth honno.

Ar ôl dilyn y canllaw hwn byddwch yn gallu:

  • deall proses traethawd hir

  • mynd ati’n effeithiol i ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth ar gyfer eich traethawd hir

  • adnabod a defnyddio cronfeydd data

  • datblygu eich technegau chwilio, dewis termau/ymadroddion chwilio a llunio strategaeth chwilio

  • gwerthuso gwybodaeth

  • nodi a dewis cyfeirnodau/cyfeiriadau perthnasol ar gyfer eich traethawd hir

  • rheoli a fformatio’r cyfeirnodau rydych chi wedi’u casglu