COVID-19 Diweddariad o'r Llyfrgell
Helo! Fy enw i yw Non Jones, eich Llyfrgellydd Pwnc, ac rwyf yma i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau llyfrgell a fydd yn eich galluogi i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau ym maes Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.
Gallaf eich cynorthwyo i ddod o hyd i lyfrau ac erthyglau priodol ar gyfer eich traethodau, adolygu ac ymchwil.
Lluniwyd y tudalennau hyn i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau llyfrgell.
Mae Desg Llyfrgell a Technoleg Gwybodaeth rhithiol ar gael drwy sgwrs ar-lein, Teams, ffôn ac e-bost.
Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen we: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/
Rwy'n cynnig sesiynau galw heibio Llyfrgell ar-lein dros Microsoft Teams:
11yb-12yp, dydd Llun
(yn ystod tymor yn unig)
Dosbarthwyd dolen i ymuno â'r cyfarfod mewn e-bost gyda'r testun Sesiwn galw heibio Llyfrgell ar-lein SEMESTER 2. Cliciwch y ddolen ar y diwrnod a'r amser penodol ac ymunwch dros y we. (Defnyddir yr un ddolen ar gyfer y semester cyfan.)
Gallaf ateb unrhyw gwestiynau ‘wyneb yn wyneb’ a rhannu fy sgrin i roi arddangosiadau o wahanol wasanaethau, adnoddau a chronfeydd data. Gallaf hefyd ateb cwestiynau gan ddefnyddio'r cyfleuster sgwrsio yn y cyfarfod Teams
Dewch â'ch cwestiynau am ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth ar gyfer eich aseiniadau, traethawd hir neu ymchwil. Fel arall, gallwch anfon eich cwestiynau ataf trwy e-bost.