Neidio i'r Prif Gynnwys
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Gwyddorau Bywyd ac AGBAG (IBERS): Sgiliau Digidol

Beth yw Galluoedd Digidol a pham maen nhw’n bwysig?

Galluoedd Digidol yw’r sgiliau, y wybodaeth a’r ymarfer sydd yn ein paratoi i fyw, dysgu a gweithio yn ddiogel ac effeithiol mewn cymdeithas ddigidol. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno gwybodaeth, datrys problemau, cyfathrebu ar-lein a deall sut i feithrin perthynas iach gyda thechnoleg.

Mae’n bwysig i bob myfyriwr fod yn abl a hyderus yn ddigidol. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn gallu ffeindio’ch ffordd trwy gymdeithas ddigidol sy’n datblygu’n gyson, llwyddo yn eich astudiaethau, a chystadlu’n llwyddiannus am swyddi yn y dyfodol. 

Gwyliwch y fideo byr hwn gan Brifysgol Derby i gael gwybod mwy am bwysigrwydd galluoedd digidol.

Casgliad Astudio Effeithiol

Casgliad o lyfrau a gynlluniwyd i’ch helpu chi astudio yw’r Casgliad Astudio Effeithiol. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i wneud ymchwil a sut i astudio, sgiliau ysgrifennu, ysgrifennu academaidd, defnyddio’r Saesneg, rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a rhai canllawiau cyffredinol ynglŷn ag ymchwil ac astudio ym maes y celfyddydau. Mae’r deunydd ar gyfer pob defnyddiwr, gan gynnwys y rhai hynny nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. 

Bydd y Casgliad Astudio Effeithiol yn eich helpu i: 

  • Wneud y gorau o’ch amser astudio
  • Trefnu eich astudiaethau’n effeithiol
  • Trefnu gwybodaeth ar gyfer ymchwilio’n effeithiol
  • Defnyddio’r llyfrau a gewch o’r Llyfrgell yn effeithiol
  • Ysgrifennu eich traethodau, traethodau estynedig neu draethodau ymchwil yn effeithiol
  • Datblygu defnydd clir a chywir o’r Saesneg
  • Llunio llyfryddiaeth


Lleoliad

Lleolir y Casgliadau Astudiaeth Effeithiol ar Lawr F Llyfrgell Hugh Owen ac yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol. 

Mae pob eitem yn y Casgliad Astudio Effeithiol yn cael ei hychwanegu at gatalog y Llyfrgell, Primo, ac maent yn cynnwys y rhagddodiad STUDY yn y nod dosbarth.