COVID-19 Diweddariad o'r Llyfrgell
Hoffwn i bennod o lyfr yn y Llyfrgell gael ei ddigideiddio. Beth sydd angen i mi ei wneud?
Mae gwybodaeth ar ein gwasanaeth Clicio a Chasglu ar gael https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/cac
Mae Desg Llyfrgell a Technoleg Gwybodaeth rhithiol ar gael drwy sgwrs ar-lein, Teams, ffôn ac e-bost.
Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen we yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/
Cwestiynau a holir yn aml
Gwybodaeth ddefnyddiol i staff a myfyrwyr sy'n gweithio ac astudio o adref.
Mae gwybodaeth ar ein gwasanaeth Clicio a Chasglu, a rhai gwasanaethau cyfyngedig eraill, ar gael ar https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/cac. Os gwelwch yn dda, darllenwch y dudalen hon yn ofalus cyn defnyddio’r gwasnaeth. Yr ydym yn dibynnu arnoch chi i ddilyn ein rheoliadau newydd a amlinellir ar y dudalen er mwyn parhau i ddarparu’r gwasanaeth hwn.
Mae'r gwasanaeth Clicio a Chasglu ar gael ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen. Mwy o wybodaeth: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/cac
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ynglŷn â defnyddio’r Gwasanaeth ar ein tudalennau Cwestiynau Cyffredin Clicio a Chasglu.
Ceir mwy o wybodaeth ar eich diogelwch wrth ddefnyddio'r gwasanaeth Clicio a Chasglu drwy fynd i'r dudalen we yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/cac/
Ystafell Iris De Freitas a Mannau Astudio ar Lefel E a F
Mae Ystafell Iris de Freitas a Lefel e a F, Llyfrgell Hugh Owen yn darparu mannau astudio tawel, unigol ar gyfer myfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth.
Mwy o wybodaeth ar gael ar y dudalen yma ar gyfer ystafell Iris De Freitas: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/hughowen/iris-de-freitas-room/
Mwy o wybodaeth ar gael ar y dudalen yma ar gyfer Lefel E a F: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/hughowen/e-f-study-spaces/
Tra bod mynediad i adnoddau printiedig yn y Llyfrgell yn gyfyngedig, rydym wedi cyflwyno gwasanaeth dros dro i ddigideiddio penodau o lyfrau.
Gweler ein tudalen we https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/digitisation/digideiddiopennod/ am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth â gwybodaeth ar sut i wneud cais am bennod.
Dyma Gwestiynau Cyffredin gyda manylion ar sut i wneud cais am bennod: https://faqs.aber.ac.uk/3069
Mae ein casgliadau o gyfnodolion electronig, cronfeydd data ac e-lyfrau ar gael i chi 24/7 ar ac oddi ffwrdd o’r campws.
Rydych chi'n gwybod eich bod wedi mewngofnodi'n llwyddiannus os yw'ch enw'n arddangos ar ochr dde uchaf eich sgrin.
Rydych bellach wedi'ch dilysu i gael mynediad at adnoddau electronig tanysgrifiedig Prifysgol Aberystwyth. Os byddwch chi'n cau'ch porwr, bydd angen i chi fewngofnodi i Primo eto i ail-ddilysu.
I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws gweler ein Cwestiynau a Holir yn Aml rhif 163. (Saesneg yn unig, aros am gyfieithiad).
Cysylltwch â Non, eich Llyfrgellydd Pwnc os oes gennych unrhyw ymholiad llyfrgellyddol neu os hoffech drefnu cyfarfod:
Ebost: nrb@aber.ac.uk
Ffôn: 01970 62 2397
Trefnu apwyntiad ar-lein: