Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth yn dal casgliadau o ddeunyddiau at ddibenion academaidd ym meysydd y Celfyddydau a'r Dyniaethau, y Gwyddorau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Cewch fanylion am ein holl gasgliadau ein tudalen Casgliadau Prifysgol Aberystwyth.
Os oes angen llyfr arnoch, ond methu cael mynediad iddo, gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau:
Byddwn yn prynu fersiwn electronig os oes un ar gael.
Mae'r Ystafell Ddarllen wedi ailagor gyda gwasanaethau cyfyngedig ers 1 Medi. Rydym yn cynllunio i adfer gwasanaethau eraill cyn bo hir.
Llyfrgell adnau cyfreithiol yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy'n hawlio copi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon.
Gallwch bori drwy'r catalog a chwilio'r casgliadau arlein. Mae rhai casgliadau wedi eu digido a gellir eu gweld arlein. Fe gewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau digidol ar dudalen Adnoddau LlGC.
Porwch dros 119 o gatalogau llyfrgell arbenigol, cenedlaethol ac academaidd o’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon: https://discover.libraryhub.jisc.ac.uk/
Mae Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol.
Os ydych chi'n chwilio am lyfr neu erthygl nad oes gennym fynediad iddo, efallai y gallwn ei fenthyg i chi o lyfrgell arall. Cyflwynwch eich cais gan ddefnyddio'r botwm Document Supply yn Primo, ac fe wnawn ni’r gweddill.
Mwy o wybdoaeth am y gwasaneth a ffurflenni ar gael ar y dudalen yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/documentsupply/
.