Yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr ac yn eich gyrfa wedi hynny, gallai fod yn hynod ddefnyddiol i chi ddilyn y datblygiadau, y llenyddiaeth a’r digwyddiadau diweddaraf yn eich maes. Drwy wneud hynny byddwch yn gallu cynnwys y syniadau a’r canfyddiadau diweddaraf yn eich traethawd hir, eich adroddiadau a’ch cyflwyniadau.
Erbyn hyn, mae amryw helaeth o adnoddau ar y we a’r cyfryngau cymdeithasol ar gael i’ch helpu yn hyn o beth. Mae llawer o wasanaethau’n gweithio ar ffurf gwasanaethau hysbysu a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi’n awtomatig ar ffurf ebost neu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. I gofrestru ar gyfer y gwasanaethau hyn, y cwbl sydd ei angen arnoch fel arfer yw enw defnyddiwr (eich cyfeiriad ebost fydd hwn yn aml) a’r cyfrinair a ddewiswch.
Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, gallwch ddefnyddio eich cyfeiriad ebost Prifysgol Aberystwyth i gofrestru ar gyfer y gwasanaethau hyn, ond nid ydym yn argymell eich bod yn defnyddio eich cyfrinair Prifysgol Aberystwyth.
Gall fod yn ddefnyddiol i ddilyn y datblygiadau diweddaraf a bydd y wybodaeth isod a'r dudalen canlynol yn trafod amryw o rhain.
Dewch draw i’r llyfrgell i bori drwy ein casgliad o bapurau newydd neu edrych ar y casgliad cynhwysfawr o bapurau newydd o’r gorffennol a’r rhai cyfredol rydym yn tanysgrifio iddynt ar-lein:
Papurau newydd sydd ar gael yn electronig
Mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio i e-adnoddau sy'n rhoi mynediad i chi at lawer o bapurau newydd rhyngwladol a phapurau newydd yn y Deyrnas Unedig. Cewch edrych arnynt trwy fewngofnodi i'r Primo lle gallwch ddod o hyd i restr o ffynonellau newyddion cyfredol a newyddion o’r gorffennol yn Nghronfeydd Data A-Z, ynghyd â gwybodaeth am fynediad oddi ar y campws.
Mae’r rhestr o adnoddau yn cynnwys:
Porwch drwy'r tabiau i weld y gwahanol ffyrdd y medrwch ddal fyny gyda'r newyddion diweddaraf.
Dal i fyny â newyddion radio a theledu. Cynnwys dros 60+ o sianeli teledu a radio.
Mae Center for Research Libraries (CRL) yn gonsortiwm rhyngwladol o Brifysgolion, Colegau a Llyfrgelloedd ymchwil annibynnol.
Mae tua 5,000,000 o bapurau newydd, cylchgronau, llyfrau, pamffledi, traethodau, archifau, cyhoeddiadau'r Llywodraeth, ac adnoddau eraill a ddelir gan CRL yn cefnogi ymchwil ac addysgu gwreiddiol. Mae casgliadau CRL yn cynnwys deunyddiau o bob rhanbarth byd: Affrica Is-Sahara, America Ladin, y Dwyrain Canol, De a De -Ddwyrain Asia, Gogledd America ac Ewrop. Er bod y casgliadau hyn yn rhai papur a microffurf yn bennaf, mae CRL yn darparu mynediad ar-lein i gorff o ddeunyddiau digidol sy'n ehangu'n barhaus.
Dogfennau hanesyddol digidol o dros 500 mlynedd o hanes y byd, wedi'u curadu gan Gale a phartneriaethau llyfrgelloedd o bob cwr o'r byd.
Cronfa-ddata sy’n cynnwys rhifyn digidol cyflawn The Times (Llundain) o 1785- 2019. Mae’n cynnwys pob tudalen gyflawn o bob rhifyn o’r papur, gan gynnwys penawdau, erthyglau a delweddau o’r holl gynnwys – tudalennau blaen, erthyglau golygyddol, hysbysiadau geni a marw, hysbysebion a mân hysbysebion.
Dyma'r casgliad chwiliadwy mwyaf o dablau cynnwys cyfnodolion ysgolheigaidd lle gallwch ddarganfod y papurau mwyaf newydd sy'n dod yn uniongyrchol o'r cyhoeddwyr cyn gynted ag y byddant wedi'u cyhoeddi ar-lein.