Bydd y canllaw canlynol yn darparu'r holl wybodaeth y byddwch ei hangen i ddefnyddio ein gwasanaethau Llyfrgell a TG. Rhowch gynnig ar y cwis ar y diwedd i weld faint rydych wedi'i ddysgu!
Mae Desg y Llyfrgell a Technoleg Gwybodaeth ar gael ar-lein drwy sgwrs ar-lein, ffôn, MS Teams ac e-bost.
Rhagor o wybodaeth ar y dudalen we: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/
Llyfrgell Hugh Owen yw prif lyfrgell y Brifysgol a chanolfan weinyddol gwasanaethau'r llyfrgell. Wedi ei lleoli ar gampws [map], mae'n darparu man ar gyfer astudio, pa un ai ydych am astudio'n dawel ar eich pen eich hun neu gydag eraill. Darperir amrywiaeth o adnoddau i roi help llaw gyda'ch astudiaethau ac ar gyfer ymlacio mewn man tawel.
Lleolir Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol hefyd ar gampws Penglais. Mae'n gartref i gasgliadau Cyfrifiadureg, Mathemateg a Ffiseg ac yn cynnig amrywiaeth o fannau astudio.
Gall holl staff a myfyrwyr y Brifysgol fenthyca hyd at 40 o eitemau ar unrhyw adeg.
Gallwch fenthyca’r rhan fwyaf o lyfrau am un wythnos a chaiff y rhain eu hadnewyddu’n awtomatig i chi bob wythnos nes y bydd rhywun arall eisiau’r llyfr ac yn gwneud cais amdano, neu fod y llyfr yn cyrraedd uchafswm y cyfnod benthyca o 12 mis.
Byddwch yn cael dirwy os nad ydych yn dod â’r llyfr yn ôl pan fydd defnyddiwr arall yn ei adalw. Cewch ragor o fanylion am fenthyca yma.
Mannau Astudio yn Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Rhagor o wybodaeth am y mannau astudio yn Llyfrgell Hugh Owen.
Rhagor o wybodaeth am y mannau astudio yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol.
Yn ystod y tymor
Oriau Agor Llyfrgell Hugh Owen
Cefnogaeth llyfrgell a TG ar gael rhwng : 09:00-17:00 Dydd Llun - Dydd Gwener
Oriau Agor Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Rhagor o fanylion ar ein horiau agor ar gael yma.
Edrychwch ar Adnoddau Astudio ar y tab nesaf