Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Gwleidyddiaeth Ryngwladol: Traethodau Ymchwil

Traethodau Ymchwil

Ar hyn o bryd mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phorth Ymchwil Aberystwyth, yn derbyn y pethau canlynol oddi wrth adrannau academaidd Prifysgol Aberystwyth:

  • Pob traethawd ymchwil llwyddiannus

Maent hefyd yn cynnwys traethodau Meistr a ddysgir trwy gwrs cyn 2013:

  • traethodau ymchwil ar bynciau Cymraeg
  • traethodau ymchwil sydd wedi cael Rhagoriaeth

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am draethodau ymchwil ar y dudalen yma.

Traethodau Ymchwil Print

Mae gan Aberystwyth gasgliad o draethodau ymchwil a allai fod o ddefnydd i chi wrth lunio eich traethawd ymchwil eich hun. Maent i gyd ar Primo. Gallwch ddefnyddio'r chwiliad allweddair syml i chwilio am unrhyw draethawd ymchwil.  

Traethodau Ymchwil Electronig Prifysgol Aberystwyth

Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y gorau o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim. Yn y porth cynhwysir allbynnau cyhoeddedig, traethodau ôl-raddedig, manylion y prosiect, yn ogystal â chofnodion o weithgareddau parch eraill. Mae'r porth hefyd yn cynnwys Proffiliau Personol o'r holl staff a myfyrwyr ymchwil cyfredol. Gall borwyr y Porth weld yr holl gynnwys ymchwil perthnasol sy'n gysylltiedig â'r person hwnnw ar un dudalen. Gallent hefyd bori fesul adran.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Caiff traethodau ymchwil eraill o Brifysgolion Cymru eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Traethodau Electronig Arall

Chwiliwch dros 500,000 traethodau ymchwil doethurol drwy ddefnyddio EThOS (nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd) - gwasanaeth traethodau ar-lein y Llyfrgell Brydeinig. Lawrlwythwch ar unwaith am eich ymchwil, neu archebu copi wedi'i sganio'n gyflym ac yn hawdd.