Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Gwleidyddiaeth Ryngwladol: Cyfnodolion ac Erthyglau

Cyfnodolion ac Erthyglau

Cyhoeddiad yw cyfnodolyn sy'n canolbwyntio ar bwnc penodol sy'n gallu cynnwys detholiad o erthyglau, llythyrau, ymchwil, barn ac adolygiadau a ysgrifennwyd gan wahanol awduron. Cyhoeddir cyfnodolion yn reolaidd, megis yn wythnosol, misol neu chwarterol. Mae pob copi yn rifyn ac mae set o rifynnau yn gwneud cyfrol (fel arfer, mae pob blwyddyn yn gyfrol ar wahân). Gelwir cyfnodolion weithiau yn gylchgronau. Unrhyw beth a welwch ar Primo neu yn ein Llyfrgelloedd gyda PER yn y rhif dosbarth, golyga hyn ei fod yn gyfnodolyn. Gallant fod ar gael mewn fformat print, ar-lein neu'r ddau.

Pam defnyddio erthyglau?

  • Maent yn ffynonellau pwysig ar gyfer gwybodaeth pwnc neu ymchwil.
  • Gwybodaeth am ddatblygiadau cyfredol.
  • Cyhoeddir erthyglau cylchgrawn yn gyflymach na llyfrau, felly gallant fod yn fwy cyfredol.
  • Maent yn aml yn ymdrin â phwnc yn fanwl ac yn cynnwys ymchwil gwreiddiol.
     

Cyfnodolion Defnyddiol ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Chwilota am erthyglau cyfnodolion

Mae cyfnodolion yn ffynonellau pwysig o wybodaeth academaidd. Gallwch chwilio am erthyglau cyfnodolion trwy ddefnyddio’r chwiliad Erthyglau yn Primo.

Cronfeydd data allweddol

Europa 

Gwefan swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, sy'n darparu gwybodaeth am wasanaethau a ddarperir gan yr UE a sut mae'r UE yn gweithio. Mae hefyd yn cynnwys y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf. Yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y modiwl, The EU: Politics, Policies and Problems (gweler hefyd European Sources Online - isod)  

 

European Sources Online

Mae European Sources Online (ESO) yn gronfa ddata a gwasanaeth gwybodaeth ar-lein sy'n darparu gwybodaeth am sefydliadau a gweithgareddau'r Undeb Ewropeaidd, gwledydd, rhanbarthau a sefydliadau rhyngwladol eraill Ewrop, ac am faterion o bwys i ymchwilwyr, dinasyddion a rhanddeiliaid Ewropeaidd. 

 

Gale News

Erthyglau testun llawn o bapurau newydd rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang.  

 

Mass Observation Online (ymchwil gymdeithasol i hanes diwylliannol a chymdeithasol Prydain). 

Mae'r deunydd yn y Mass Observation Archive, a bellach ar Mass Observation Online, yn rhoi mewnwelediad digyffelyb i fywyd bob dydd yn y 1930au a'r 1940au. Mae'r cyhoeddiad hwn yn agor llu o bosibiliadau ar gyfer traethodau a phrosiectau ar bynciau fel erthyliad, henaint, trosedd, arferion bwyta, siopa, ffasiwn, dawns, cerddoriaeth boblogaidd, rhyw, chwaraeon, darllen, lleiafrifoedd ethnig, a dirywiad yr Ymerodraeth. Fe'i croesawir gan haneswyr, ysgolheigion llenyddol, cymdeithasegwyr, anthropolegwyr a gwyddonwyr gwleidyddol.

 

JSTOR 

Archif amlddisgyblaethol o gyfnodolion, llyfrau a phamffledi academaidd.  

 

Archif Ddigidol The Times, 1785 - 2019

Cronfa ddata sy'n cynnwys y rhifyn digidol cyflawn o The Times (Llundain) o 1785 - 2019. Yn cynnwys pob tudalen o bob rhifyn o'r papur newydd, gan gynnwys penawdau, erthyglau a delweddau. Hefyd yn cynnwys: erthyglau golygyddol, hysbysiadau geni a marwolaeth, hysbysebion a mân hysbysebion.  

FAQ - Sut ydw i'n cael mynediad i e-adnoddau oddi ar y campws

Primo - Catalog y llyfrgell

Chwilio Primo

Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau

Mae Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol.

Gallwn gefnogi staff a myfyrwyr gydag ymchwil a dysgu trwy leoli a chyflenwi llyfrau, penodau ac erthyglau a gedwir gan lyfrgelloedd eraill.

Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn talu costau o’r dyraniad ar gyfer y gwahanol grwpiau o ddefnyddwyr ym mhob adran academaidd, yn amodol ar yr arian sydd ar gael.

Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau ac i weld sawl cais am ddim fedrwch ei gyflwyno, ewch i'r dudalen yma.