COVID-19 Diweddariad o'r Llyfrgell
Lluniwyd y tudalennau hyn i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau llyfrgell.
Fy enw i yw Simon French, eich Llyfrgellydd Pwnc, ac rwyf yma i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau llyfrgell a fydd yn eich galluogi i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau ym maes Wleidyddiaeth Ryngwladol.
Gallaf eich cynorthwyo i ddod o hyd i lyfrau ac erthyglau priodol ar gyfer eich traethodau, adolygu ac ymchwil.
Rwyf wedi fy lleoli yn Llyfrgell Hugh Owen.
Yn ein hymdrechion i reoli effaith coronafirws (COVID-19), bydd holl weithgareddau cymorth llyfrgell wyneb yn wyneb yn dod i ben.
Cysylltwch â fi:
E-bost: sif4@aber.ac.uk
Rhif ffôn: 01970 62 2080
(am ymholiadau neu i drefnu cyfarfod MS Teams)
neu
Trefnu Apwyntiad (Skype yn unig)
Defnyddiwch y linc isod o dan fy llun yn y blwch Manylion Cyswllt i ddod o hyd i ddyddiadau ac amseroedd ac i drefnu apwyntiad neu ewch i https://libcal.aber.ac.uk/appointments/simon
Dewiswch ddydd ac amser yn ôl y trefn arferol.
Mae ein casgliadau o gyfnodolion electronig, cronfeydd data ac e-lyfrau yn parhau i fod ar gael i chi 24/7 ar ac oddi ffwrdd o’r campws.
Os ydych am gael mynediad i'n hadnoddau electronig oddi ar y campws, nid oes angen i chi osod a rhedeg VPN bellach; gellir cael mynediad at y rhain gan ddefnyddio Primo VPN.
Yr hyn sydd angen i chi ei wneud yw:
1. Mewngofnodi i https://primo-vpn.aber.ac.uk gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Aberystwyth (PA). Mae rhaid i chi gadw'r porwr ar agor tra'ch bod yn gweithio.
2. Mewngofnodi i https://primo.aber.ac.uk gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA - cewch eich annog i wneud hyn ar ôl cysylltu â Primo VPN.
Byddwch wedyn yn cael mynediad oddi ar y campws i’r mwyafrif o adnoddau gwybodaeth electronig y mae PA wedi tanysgrifio iddynt a’u testun llawn. Os ydych chi’n cau eich porwr bydd angen i chi fewngofnodi eto.
I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws gweler ein Cwestiynau a Holir yn Aml rhif 163. (Saesneg yn unig, aros am gyfieithiad).