Croeso i Lyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Fy enw i yw Simon French a fi yw'r llyfrgellydd pwnc ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Rwyf wedi llunio'r tudalennau hyn i'ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr adnoddau y mae'r llyfrgell yn eu darparu.
Cysylltwch â mi os hoffech wneud y canlynol:
Cael taith o amgylch y llyfrgell.
Cael cymorth i ddod o hyd i'r adnoddau ar eich rhestrau darllen.
Dysgu sut i chwilio Primo, catalog y llyfrgell, yn gyflym ac yn effeithiol am adnoddau a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer eich aseiniadau neu’ch traethawd hir.
Cael gafael ar adnoddau nad yw'r llyfrgell yn eu cadw ar hyn o bryd.
Rwy'n gweithio yn Llyfrgell Hugh Owen. Rwy'n gweithio’n rhan amser, o ddydd Llun i ddydd Iau.
Cysylltwch â fi:
E-bost: sif4@aber.ac.uk
neu
Rwy'n gweithio ar Ddesg Ymholiadau Llawr F yn Llyfrgell Hugh Owen ar: Ddydd Iau rhwng 10 a 1 (Yn ystod y tymor yn unig)
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch dod o hyd i adnoddau ar gyfer eich aseiniadau, traethawd hir neu ymchwil, dewch draw i ddweud helo!
Mae Desg Llyfrgell a Technoleg Gwybodaeth ar gael drwy ymweld â Lefel D, Llyfgell Hugh Owen, sgwrs ar-lein, Teams, ffôn ac e-bost.
Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen we: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/