Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad: 1. Rhagair

Sut i ddefnyddio'r canllaw hwn

Darllenwch trwy bob un o'r tudalennau canlynol er mwyn dysgu mwy am gyfeirnodi'r holl ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddiwch yn eich gwaith cwrs yn gywir, yn ogystal â sylweddoli beth yw canlyniadau methu â chydnabod y ffynonellau hyn.

Ar ôl i chi orffen, gallwch wedyn roi prawf ar eich gwybodaeth trwy wneud cwis a fydd yn cymryd tua 15 munud i'w gwblhau.

Ar ôl dilyn y canllaw hwn byddwch yn gallu:

  • Diffinio llên-ladrad

  • Esbonio pwysigrwydd cyfeirnodi

  • Cydnabod ffynonellau a chyfeirnodi'n gywir

  • Aralleirio a chydnabod y ffynonellau a ddefnyddiwyd gennych

  • Canfod offer meddalwedd cyfeirnodi i gadw trefn ar eich cydnabod a'ch cyfeirnodi

  • Deall sut i ddehongli Adroddiad Tebygrwydd Turnitin.