Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Gwleidyddiaeth Ryngwladol: Adolygu

Hen Bapurau Arholiad

Hen Bapurau Arholiad

Noder bod yr hawlfraint ar gyfer yr holl hen bapurau arholiad sydd ar gael yma yn eiddo i Brifysgol Aberystwyth. Gallwch argraffu copi sengl ar gyfer astudio personol a gall staff ddefnyddio copïau’n fewnol. Ar gyfer unrhyw waith copïo, ailddosbarthu neu gyhoeddi arall (o unrhyw bapur cyfan, neu ran ohono) mae’n rhaid cael caniatâd gan y Brifysgol. Mae mynediad i’r papurau wedi’i gyfyngu i staff a myfyrwyr sydd â mewngofnod a chyfrinair PA cyfredol.  Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau wrth geisio cael mynediad i hen bapurau neu os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth cysylltwch ag: Proffiliau Staff.

 

exam photo

Arholiadau

Amserlennu Arholiadau

CHA ar Ailsefyll

Bydd y dudalen Arholiadau ac Asesiadau (Cofrestrfa Academaidd) yn eich cynorthwyo i ganfod gwybodaeth am y pethau canlynol:

  • Amgylchiadau Arbennig - Gwybodaeth Bwysig a Ffurflennu
  • Amserlen Arholiadau
  • Ailsefyll Arholiadau Dramor
  • Confensiynau Arholiadau
  • Confensiynau Pennu Dosbarth Graddau Modiwlar (Israddedigion yn unig)
  • Cyfrifydd Rhaeadr
  • Datganiad ar Gyflwyno Gwaith Cwrs
  • Apeliadau - Gwybodaeth Bwysig a Ffurflenni Apelio.
  • Gwasanaethau Hygyrchedd
  • Llawlyfr Arholiadau Israddedigion
  • Manylion am Ganlyniadau Arholiadau

 

Casgliad Astudio Effeithiol

Casgliad o lyfrau a gynlluniwyd i’ch helpu chi astudio yw’r Casgliad Astudio Effeithiol. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i wneud ymchwil a sut i astudio, sgiliau ysgrifennu, ysgrifennu academaidd, defnyddio’r Saesneg, rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a rhai canllawiau cyffredinol ynglŷn ag ymchwil ac astudio ym maes y celfyddydau. Mae’r deunydd ar gyfer pob defnyddiwr, gan gynnwys y rhai hynny nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. 

Bydd y Casgliad Astudio Effeithiol yn eich helpu i: 

  • Wneud y gorau o’ch amser astudio
  • Trefnu eich astudiaethau’n effeithiol
  • Trefnu gwybodaeth ar gyfer ymchwilio’n effeithiol
  • Defnyddio’r llyfrau a gewch o’r Llyfrgell yn effeithiol
  • Ysgrifennu eich traethodau, traethodau estynedig neu draethodau ymchwil yn effeithiol
  • Datblygu defnydd clir a chywir o’r Saesneg
  • Llunio llyfryddiaeth


Lleoliad

Lleolir y Casgliadau Astudiaeth Effeithiol ar Lawr F Llyfrgell Hugh Owen ac yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol. 

Mae pob eitem yn y Casgliad Astudio Effeithiol yn cael ei hychwanegu at gatalog y Llyfrgell, Primo, ac maent yn cynnwys y rhagddodiad STUDY yn y nod dosbarth.  

 

effective study collection

Manylion o Gyrsiau Adolygu