I ddarganfod a oes llyfr penodol ar gael yn y Llyfrgell, ewch i Primo a mewngofnodi. Yn y blwch chwilio, rhowch un neu ddau eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw yr awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos, gallwch ddewis clicio Llyfrau yn y ddewislen ar y chwith i arddangos canlyniadau ar gyfer llyfrau yn unig neu hidlo'r canlyniadau yn fwyfwy i ateb eich gofynion.
Llyfr ar gael
Os yw'r llyfr ar gael, bydd Primo yn nodi'r wybodaeth hyn gan roi manylion lleoliad llawr a manylion y rhif dosbarth.
Llyfr ar fenthyg
Os nad yw'r llyfr ar gael i'w fenthyg, bydd Primo yn nodi hyn.
Ad-alw llyfr
Medrwch ad-alw llyfr yn ôl os yw ar fenthyg. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i ad-alw y fan yma.
Mynediad Ar-lein
Pan fydd mynediad ar-lein ar gael i lyfr electronig, bydd Primo yn nodi hyn fel y ganlyn:
Lleolir y prif adrannau ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Lefel F ar Llyfrgell Hugh Owen.
Lefel F
D History, by country - Europe, Old World
E-F History, by country - The Americas
H Social Sciences
J Political Sciences
JC Political Theory
JF Constitutional History
JK Politics, USA
JN Politics, Europe
JX-JZ International Relations
U Military Sciences
V Naval Science
Mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifo i ystod eang o e-lyfrau a chasgliadau o e-lyfrau.
Mae gennym filoedd o e-lyfrau ac mae ein casgliad yn tyfu'n barhaus. Gallwch gael mynediad i ddarllen e-lyfr drwy Primo. Yn y blwch chwilio, rhowch un neu ddau eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw yr awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos, gallwch ddewis clicio Testun Llawn Ar-lein yn y ddewislen ar y chwith i arddangos canlyniadau ar gyfer elyfrau yn unig.
Os oes gennym y llyfr mewn fersiwn electronig, bydd y cofnod ar Primo yn datgan Mynediad arlein.
Ymwelwch â'r dudalen yma am fwy o wybodaeth a gweld cyfarwyddiadau ar:
Dyma restr o gronfeydd data allweddol o e-lyfrau:
Defnyddiwch Ebook Central i ddod o hyd i lyfrau a phenodau perthnasol yn gyflym ac yn hawdd
Os ydych chi angen llyfr ond yn methu dod o hyd iddo, gwnewch gais trwy:
• Ein gwasanaeth Mwy o Lyfrau (dim ond i fyfyrwyr - dolen ar flaenddalen Primo)
• Ein gwasanaeth Cais Pwrcasu (dim ond i staff - ffurflen ar-lein ar Primo)
Fe wnawn ein gorau i ddod o hyd i gopi electronig i chi.
• Gallwch wneud nifer o geisiadau.
• Byddwn yn prynu copïau ychwanegol yn awtomatig o unrhyw e-lyfr a "ddefnyddir gan fwy nag un ar y pryd" sydd heb fwy o gredydau, ac unrhyw e-lyfr "mynediad wedi’i reoli " sydd â mwy nag un yn aros i'w ddefnyddio.
Gallwch hefyd wneud cais am lyfrau, erthyglau cyfnodolion, a thraethodau ymchwil o lyfrgelloedd eraill. I wneud hyn, defnyddiwch ein gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau. Mae'r manylion isod.
Mae Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol.
Gallwn gefnogi staff a myfyrwyr gydag ymchwil a dysgu trwy leoli a chyflenwi llyfrau, penodau ac erthyglau a gedwir gan lyfrgelloedd eraill.
Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn talu costau o’r dyraniad ar gyfer y gwahanol grwpiau o ddefnyddwyr ym mhob adran academaidd, yn amodol ar yr arian sydd ar gael.
Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau ac i weld sawl cais am ddim fedrwch ei gyflwyno, ewch i'r dudalen yma.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r llyfr 'rydych yn chwilio amdano yn y llyfrgell, gallwch wneud cais amdano trwy'r ymgyrch Mwy o Lyfrau (Myfyrwyr yn unig). Bydd pob llyfr sy'n cael ei archebu drwy'r ymgyrch yn cael ei osod yng nghasgliad y llyfrgell.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen yma.