Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Hawlfraint: Cwestiynau Cyffredin - Ymchwilwyr

Fe wnes i e-bostio artist a gofyn am eu caniatâd i ddefnyddio llun o'u gwefan. Nid ydynt wedi ymateb. A yw hyn yn golygu y caf ei ddefnyddio beth bynnag?

Nac ydy! Nid yw peidio â chael ymateb yn rhoi'r hawl i chi ddefnyddio eitem yn awtomatig. Ceisiwch anfon e-bost arall, ffonio (os yw'n bosibl), ac os na chewch lwyddiant, ceisiwch ddod o hyd i lun arall. Os ydych chi angen ei gynnwys mewn traethawd ymchwil, dylech wneud nodyn i hepgor y llun hwn o unrhyw gopïau sydd ar gael i'r cyhoedd. 

Pan fydd rhywun yn caniatáu i mi ddefnyddio eu deunydd, a ddylwn i gadw eu ffurflenni caniatâd / cydsynio?

Dylech, mae'n rhaid i chi gadw'r holl ganiatâd hawlfraint (llythyrau, negeseuon e-bost, ffurflenni ac ati) am gyhyd ag y mae'r eitem a gopïwyd yn bodoli. 

Ffeithiau cyflym

Hygyrchedd

Mae deddfwriaeth yn caniatáu darparu fformatau hygyrch o waith hawlfraint ar gyfer pobl sydd ag unrhyw fath o anabledd. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, fersiynau print bras, braille, capsiynau, neu fersiynau clywedol o waith.  

Delwedd: Basilio Briceño, Photograph of a textbook printed in Braille (double-sided). CC-BY-2.0 Generic

Hysbyseb o'r New York Clipper, 1906

Mae'r hysbyseb hwn o 1906 yn cynnwys cyngor da ond cofiwch: Mae hawlfraint yn awtomatig. Nid oes raid i chi gofrestru na thalu am hawlfraint ar gyfer eich gwaith.

Delwedd: Columbia Copyright Office, advertisement from the New York Clipper, 1906.  Wrth Wikimedia Commons, yn y parth cyhoeddus 

Yn unol â Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988, mae 'ymwneud teg' yn caniatáu i chi gopïo cyfanswm cyfyngedig o ddeunydd hawlfraint ar gyfer ymchwil ac astudiaeth breifat. Fe fyddwch chi'n falch o glywed bod technoleg gopïo wedi symud ymlaen!  

Delwedd: Stewart, Francis, Topaz, Utah. Rose Nakagawa, former student from San Francisco, California, now works as a mimeograph operator..., 1943. Wrth Wikimedia Commons, yn y parth cyhoeddus.

Gwarchod eich gwaith

Mae hawlfraint yn diogelu eich gwaith rhag cael ei ddefnyddio heb eich caniatâd ac yn caniatáu i chi elwa ohono. Ac mae'n golygu nad oes rhaid i chi gloi eich llyfrau i ffwrdd mewn cawell! 

Delwedd: Winifred Lao, Protected Books, Morgan Library, CC BY-SA 4.0