Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Hawlfraint: Eithriadau a thrwyddedau

Eithriadau i hawlfraint

Mae eithriadau i hawlfraint yn caniatáu i chi wneud defnydd cyfyngedig o ddeunydd hawlfraint heb ganiatâd deiliad yr hawlfraint mewn rhai amgylchiadau ac o fewn cyfyngiadau penodol.  

Wrth ddefnyddio eithriad i gopïo rhan o waith rhywun arall, mae'n rhaid i chi gydnabod eu gwaith yn ddigonol gyda phriodoliad priodol. 

Mae cymwysiadau ymarferol yr eithriadau hyn ar gyfer eich gwaith o ddydd i ddydd yn cael eu hegluro yn y tabiau Hawlfraint i Fyfyrwyr/Darlithwyr/Ymchwilwyr. Mae'r dudalen hon yn cynnig rhagor o fanylion ynghylch eu gweithredu. 

Egluro'r eithriadau

Mae eithriadau i'r gyfraith hawlfraint i alluogi i unigolion sydd ag anableddau corfforol neu iechyd meddwl gael mynediad cyfartal i ddeunyddiau sydd wedi'u diogelu gan hawlfraint. Golyga hyn y gall yr unigolyn sydd â'r anabledd, neu'r sawl sy'n gweithredu ar eu rhan, wneud copïau o waith mewn fformat hygyrch. 

Gallai hyn gynnwys: 

  • Sicrhau bod fersiynau print bras o lyfrau ar gael. 
  • Darparu fersiwn braille o erthygl. 
  • Ychwanegu isdeitlau i ffilm neu ddarllediad teledu. 
  • Creu disgrifiad sain o ddarllediadau teledu neu ffilm. 
  • Addasu gweithiau sydd wedi'u diogelu gan hawlfraint er mwyn iddynt fod yn hygyrch i unigolion â dyslecsia. 

Mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu ystod lawn o wasanaethau hygyrchedd

Caiff yr eithriad hwn ei gynnwys yn Adrannau 31A-F o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 

Yn ôl telerau ymwneud teg fe ganiateir i chi wneud copïau o ddetholiadau cyfyngedig o weithiau hawlfraint ar gyfer astudiaeth breifat neu ymchwil o natur anfasnachol.  Y peth pwysig i'w nodi yma yw ei bod yn rhaid i chi fod yn astudio'n gyfreithlon. Golyga hyn, er enghraifft, eich bod yn dilyn cwrs gradd cydnabyddedig yn y brifysgol. 

Caiff yr eithriad hwn ei gynnwys yn Adran 29 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 

Mae cloddio data neu destun yn ddull ymchwil a ddefnyddir i ddadansoddi cyrff mawr o destun neu ddata. Mae'r gyfraith hawlfraint wedi'i haddasu i ganiatáu cloddio o'r fath at ddibenion ymchwil. Mae'r eithriad hwn yn berthnasol os yw eich ymchwil yn anfasnachol, os oes gennych fynediad cyfreithlon i'r cynnwys/cronfa ddata (er enghraifft drwy danysgrifiad llyfrgell), os ydych chi'n priodoli'r ffynonellau ac os nad ydych chi'n defnyddio copïau a wnaed o dan yr eithriad hwn at unrhyw ddibenion eraill. 

Caiff yr eithriad hwn ei gynnwys yn Adran 29A o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 

Os yw'n cael ei ddefnyddio o fewn cyfyngiadau ymwneud teg ac at ddibenion anfasnachol, caniateir ailgynhyrchu deunydd hawlfraint cyfyngedig at ddibenion addysgu, ar yr amod ei fod yn cael ei gydnabod yn ddigonol bob amser.  

Er enghraifft, mae un neu ddau o linellau o nofel wedi'u taflunio ar fwrdd gwyn ystafell ddosbarth i egluro pwynt yn ddefnydd derbyniol.  

Gellir dangos neu berfformio gweithiau megis dramâu, cerddoriaeth neu ddawnsfeydd at ddibenion addysgol o fewn amgylchedd addysgol ond mae'n rhaid i'r gynulleidfa fod yn gyfyngedig i athrawon, myfyrwyr a staff sydd â chyswllt uniongyrchol â'r sefydliad addysgol.  

Caiff yr eithriad hwn ei gynnwys yn Adran 32 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 

Gallwch ddefnyddio cyfanswm cyfyngedig o ddeunydd hawlfraint at ddibenion parodi, gwawdlun neu bastiche. Yn yr un modd â'r eithriadau eraill a amlinellir ar y dudalen hon, mae'n rhaid cadw o fewn cyfyngiadau ymwneud teg. Mae ychydig linellau o gân neu o ffilm yn rhan o sgets gomedi, er enghraifft, yn debygol o fod yn ddefnydd derbyniol. Mae addasu llun graffig at ddibenion dychan neu sylwebaeth gymdeithasol hefyd yn debygol o fod yn dderbyniol. NID yw hi'n dderbyniol defnyddio gwaith cyfan mewn unrhyw barodi, gwawdlun neu bastiche. 

Caiff yr eithriad hwn ei gynnwys yn Adran 30A o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 

O fewn cyfraith hawlfraint, mae eithriad sy'n caniatáu i archifyddion wneud copi o unrhyw waith o fewn eu harchif at ddibenion cadwraeth os caiff y ddau faen prawf canlynol eu bodloni: 

  • Bod y gwaith yn cael ei gadw'n barhaol o fewn yr archif. 
  • Nad yw'n ymarferol (o fewn rheswm) i brynu copi arall o'r gwaith. 

Caiff yr eithriad hwn ei gynnwys yn Adran 42 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 

I fod yn deg... egluro Ymwneud Teg

Mae llawer o'r eithriadau hawlfraint sy'n berthnasol mewn addysgu uwch yn dibynnu ar y cysyniad o ymwneud teg 

Nid oes diffiniad manwl gywir o'r hyn sy'n deg, ond mae'n dibynnu ar: 

  • cyfran y gwreiddiol sy'n cael ei gopïo, ac 
  • a yw'r copïo’n cystadlu â defnydd y byddai'r perchennog yn ei wneud 

Golyga hyn: 

  • na ddylech gopïo mwy o'r gwaith nag sydd angen at eich diben, a chadwch o fewn y canllawiau dangosol bob tro. 
  • peidiwch fyth ag ailgynhyrchu gwaith mewn modd sy'n ymyrryd â hawliau unigryw daliwr yr hawlfraint 

Dyma rai enghreifftiau o'r hyn y gellid ei ystyried yn ymwneud teg: 

  • defnyddio dyfyniad byr o destun mewn sleid yn ystod darlith neu seminar 
  • defnyddio nifer cyfyngedig o glipiau sain neu ffilm i egluro pwynt mewn darlith neu seminar 
  • dosbarthu detholiad byr o lyfr i fyfyrwyr ei ddefnyddio mewn darlith neu seminar 

Fel canllaw o beth sy'n cyfri fel ymwneud teg, gofynnwch i'ch hun: a fydd cyfanswm y gwaith hawlfraint yr wyf yn ei ddefnyddio yn effeithio ar hawliau masnachol deiliad yr hawlfraint? 

Mae rhai enghreifftiau o weithredoedd nad ydynt yn ymwneud teg yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i): 

  • Copïo lluniau a'u rhoi ar wefan adrannol. 
  • Chwarae cerddoriaeth cyn dechrau darlith neu seminar at ddibenion adloniant yn hytrach na hyfforddi, heb ganiatâd gan ddeiliaid yr hawlfraint. 
  • Defnyddio detholiad sy'n ddigon hir fel y gallai gael ei ystyried fel dewis arall i brynu'r testun. 

Yn ei hanfod, os ydych chi'n defnyddio mwy o waith perchennog yr hawlfraint nag sy'n angenrheidiol ar gyfer sefyllfa benodol, efallai eich bod yn torri'r canllawiau ar gyfer ymwneud teg. 

Trwyddedau

Mae'r Brifysgol yn tanysgrifio i drwyddedau a gyhoeddwyd gan nifer o asiantaethau sy'n gweithredu ar ran dalwyr hawliau amrywiol. Yn gyfnewid am ffi'r drwydded, sy'n mynd tuag daliadau i ddalwyr yr hawliau, gall y sefydliad gopïo a defnyddio deunyddiau penodol o fewn canllawiau penodol.

Mae'n hanfodol cydnabod bod y trwyddedau hyn yn ymwneud â defnydd o fewn cyd-destun dibenion addysgol neu gyfarwyddol yn unig. Nid ydynt yn ymdrin â chyhoeddi gwaith, darlledu deunydd ymhellach na'i berfformiad cyhoeddus

Trwydded Beth mae'n gynnwys Sut mae'n gweithio
Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint Llungopïo neu sganio gwaith a gedwir gan y Brifysgol at ddibenion addysgol Gwneud cais i ddigido pennod neu erthygl drwy Restrau Darllen Aspire
Asiantaeth Trwyddedu Papur Newydd Llungopïo erthyglau o bapurau newydd cenedlaethol a rhanbarthol Gall dolenni a chopïau o erthyglau o bapurau newydd gael eu rhannu ymhlith staff a myfyrwyr os dilynir telerau'r drwydded
Asiantaeth Recordio Addysgol Recordiadau o ddarllediadau teledu a radio yn y DU Defnyddio recordiadau o ddarllediadau teledu a radio wrth addysgu/astudio/ymchwilio gan ddefnyddio mynediad y brifysgol i Box of Broadcasts

Efallai y byddai awdur neu greawdwr yn fodlon caniatáu i eraill ddefnyddio eu gwaith o dan amgylchiadau penodol. Ffordd boblogaidd o wneud hyn yw drwy ddefnyddio trwydded Creative Commons (CC).

Gall perchennog hawlfraint wneud cais i ddefnyddio trwydded CC i rannu gwaith hawlfraint yn agored ond gosod cyfyngiadau ar ddefnydd masnachol neu addasiadau neu fynnu bod unrhyw addasiadau'n cael eu trwyddedu ar yr un telerau.  Mae yna ystod o drwyddedau Creative Commons sy'n caniatáu graddau amrywiol o ailddefnydd.

Mae'r llun isod yn dangos beth allwch chi ei wneud gyda deunydd trwydded Creative Commons.  I gael gwybodaeth am gymhwyso trwydded Creative Commons i'ch gwaith eich hun, gweler Diogelu eich Gwaith eich Hun

Creative Commons Licenses

JoKalliauer; foter, CC BY-SA 3.0 <https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0>, via Wikimedia Commons

Dolenni defnyddiol

Ffeithiau cyflym

Hygyrchedd

Mae deddfwriaeth yn caniatáu darparu fformatau hygyrch o waith hawlfraint ar gyfer pobl sydd ag unrhyw fath o anabledd. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, fersiynau print bras, braille, capsiynau, neu fersiynau clywedol o waith.  

Delwedd: Basilio Briceño, Photograph of a textbook printed in Braille (double-sided). CC-BY-2.0 Generic

Hysbyseb o'r New York Clipper, 1906

Mae'r hysbyseb hwn o 1906 yn cynnwys cyngor da ond cofiwch: Mae hawlfraint yn awtomatig. Nid oes raid i chi gofrestru na thalu am hawlfraint ar gyfer eich gwaith.

Delwedd: Columbia Copyright Office, advertisement from the New York Clipper, 1906.  Wrth Wikimedia Commons, yn y parth cyhoeddus 

Yn unol â Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988, mae 'ymwneud teg' yn caniatáu i chi gopïo cyfanswm cyfyngedig o ddeunydd hawlfraint ar gyfer ymchwil ac astudiaeth breifat. Fe fyddwch chi'n falch o glywed bod technoleg gopïo wedi symud ymlaen!  

Delwedd: Stewart, Francis, Topaz, Utah. Rose Nakagawa, former student from San Francisco, California, now works as a mimeograph operator..., 1943. Wrth Wikimedia Commons, yn y parth cyhoeddus.

Gwarchod eich gwaith

Mae hawlfraint yn diogelu eich gwaith rhag cael ei ddefnyddio heb eich caniatâd ac yn caniatáu i chi elwa ohono. Ac mae'n golygu nad oes rhaid i chi gloi eich llyfrau i ffwrdd mewn cawell! 

Delwedd: Winifred Lao, Protected Books, Morgan Library, CC BY-SA 4.0