Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Hawlfraint: Hawlfraint i ddarlithwyr

Bydd angen i ddarlithydd ddefnyddio deunyddiau trydydd parti mewn deunyddiau dysgu neu addysgu neu ddarparu darlleniadau wythnosol ar gyfer eu modiwlau

Gweithgareddau cyffredin

Camsyniad yw bod lleoliad addysgol yn rhoi'r hawl i rywun ailgynhyrchu gwaith sydd wedi'i ddiogelu â hawlfraint. Yn hytrach, mae nifer o eithriadau yn y gyfraith sy'n caniatáu ailgynhyrchu deunydd hawlfraint o dan amgylchiadau penodol. Mae'r trwyddedau a ddelir gan y Brifysgol hefyd yn caniatáu i staff dysgu ailddefnyddio rhai deunyddiau neu wneud cais i ddigido rhannau o weithiau hawlfraint at ddibenion addysgu.

Wrth ddefnyddio gwaith sydd wedi'i ddiogelu â hawlfraint mewn gweithgareddau addysgu, mae'n rhaid glynu at egwyddorion 'ymwneud teg':

  • Mae'n rhaid i'r detholiad fod yn berthnasol i'r pwnc;
  • Mae'n rhaid i'r gwaith hawlfraint a ddefnyddir gael ei briodoli'n llawn:
  • Mae'n rhaid iddo fod yn gyfanswm 'rhesymol' a dim mwy nag sydd angen;
  • Mae'n rhaid iddo fod ar gyfer cynulleidfa gyfyngedig (e.e. i fyfyrwyr ar eich modiwl, ac nid i'w gyhoeddi ar y we agored);
  • Ar gael am gyfnod cyfyngedig;
  • Ni ddylai gael unrhyw effaith ar ddiddordebau marchnad daliwr yr hawl.

Gweler y tab deunyddiau Dysgu i gael canllawiau ar ddefnyddio deunyddiau hawlfraint mewn gweithgareddau cyffredinol gan gynnwys cyfarwyddyd ar ddefnyddio testun, lluniau a chyfryngau eraill. I gael rhagor o fanylion ar achosion penodol, gweler y tab Cwestiynau Cyffredin i ddarlithwyr neu cysylltwch â gg@aber.ac.uk

Paratoi sleidiau darlith
Gallwch ddefnyddio cyfansymiau bach o ddeunydd hawlfraint (e.e. detholiadau neu ddyfyniad) yn eich sleidiau darlith, ond mae'n rhaid eu priodoli'n gywir ac yn unol ag egwyddorion ymwneud teg.

Defnyddio lluniau mewn sleidiau darlith
Dylai lluniau mewn sleidiau darlith: fod yn eiddo i chi; fod â thrwydded sy'n caniatáu i chi eu hailddefnyddio neu allan o hawlfraint. I ddod o hyd i luniau sydd â thrwydded i'w hailddefnyddio'n rhad ac am ddim, gweler Offer, Adnoddau a Hyfforddiant.

Mae enghreifftiau pan fydd angen dangos lluniau llonydd sydd wedi'u diogelu â hawlfraint mewn darlithoedd neu weithgareddau dysgu eraill (yn arbennig yn yr Ysgol Gelf neu'r adran Theatr, Ffilm a Theledu neu Hanes). Caniateir hyn cyhyd â'ch bod yn cadw at egwyddorion ymwneud teg: mae'n rhaid i'r llun fod yn hanfodol i'r drafodaeth, cyfarwyddyd neu feirniadaeth, ac ni ddylech ddefnyddio mwy nag sydd ei angen ar gyfer y diben penodol.

Mae'n rhaid i chi gynnwys unrhyw ddatganiad hawlfraint neu delerau trwydded yn y pennawd i'r llun.

Ni ddylai deunyddiau dysgu (e.e. sleidiau PowerPoint) gan gynnwys deunydd hawlfraint gael eu rhannu y tu allan i'r ddarlith (neu ADRh).

Defnyddio ffilm, teledu a chyfryngau darlledu eraill mewn darlithoedd
Gallwch chwarae clipiau o ddarllediadau ffilm, teledu neu radio mewn gweithgareddau dysgu yn y dosbarth, ond os yw'r ddarlith/seminar yn cael ei recordio, dylech oedi'r recordiad pan fydd unrhyw glipiau/ffilmiau/darllediadau'n cael eu chwarae.

Ni ddylech uwchlwytho na mewnosod unrhyw ffilm neu recordiad i Blackboard.

Yn ôl telerau'r drwydded ERA, cewch fewnosod rhaglenni o Box of Broadcasts yn Blackboard.

Darparu darlleniadau ar gyfer eich modiwlau
Os hoffech ddarparu darlleniadau ar gyfer eich modiwlau, dylech wneud cais i ddigido drwy'r Rhestr Ddarllen Aspire ar gyfer eich modiwl.

Mae hyn yn sicrhau bod gan bob detholiad y drwydded gywir i'w ddefnyddio a'i fod yn cael ei ddarparu mewn fformat sy'n cyd-fynd â sawl math o feddalwedd hygyrchedd.

Ni ddylech uwchlwytho deunydd yr ydych wedi'i sganio eich hun i Blackboard nag e-bostio deunydd yr ydych wedi'i sganio eich hun i eraill. Ni ddylech uwchlwytho ffeiliau PDF neu erthyglau a lawrlwythwyd o danysgrifiadau llyfrgell. Er y gallai hyn fod wedi'i wneud yn ddiffuant at ddibenion addysgol, gallai gweithgareddau o'r fath dorri rheolau hawlfraint.

Os hoffech ddarparu erthygl neu bennod fel darlleniad ar gyfer eich modiwl, ychwanegwch yr erthygl i restr ddarllen y modiwl neu gwnewch gais i'w digido drwy'r gwasanaeth Rhestr Ddarllen. Cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc os oes arnoch angen unrhyw gymorth gyda rhestrau darllen.

Taflenni
Gallwch ddarparu llungopïau o ddeunyddiau hawlfraint o fewn cyfyngiadau penodol (a nodir isod) ar gyfer eu defnyddio mewn darlithoedd, seminarau neu weithgareddau addysgu eraill. Darperir hyn o dan Drwydded Llungopïo a Sganio CLA y Brifysgol.

Ni ddylid copïo mwy na 5% o gyfanswm tudalennau'r gwaith neu

  • Un bennod o lyfr
  • Un erthygl o rifyn cyfnodolyn
  • Un gerdd neu stori fer (heb fod yn fwy na 10 tudalen) o flodeugerdd neu gasgliad
  • Un achos o gasgliad o adroddiadau cyfreithiol

Noder na ddylech greu mwy o gopïau o'r pecyn na nifer y myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ar y modiwl. Caiff yr ystyriaeth hon ei chynnwys yn y drwydded CLA ac fel arall ni ellid dadlau ei bod yn 'ymwneud teg'.

Gallwch gynnwys erthyglau papur newydd mewn pecynnau cwrs o fewn cyfyngiad o 250 o gopïau. Gweler manylion y drwydded NLA uchod i weld y cyfyngiadau eraill. Dylid nodi teitl y papur newydd a'i ddyddiad cyhoeddi yn glir ynghyd â datganiad yn datgan ei fod wedi'i gopïo yn unol â thelerau'r Drwydded NLA.

Rhannu eich gwaith eich hun
Weithiau efallai yr hoffech rannu eich gwaith cyhoeddedig eich hun â myfyrwyr ar eich modiwl. I weld a oes gennych hawl i wneud hyn ai peidio, mae'n rhaid i chi edrych ar y cytundeb contract a wnaethoch â chyhoeddwr y gwaith.

I osgoi unrhyw broblemau neu fynd yn groes i gontractau cyhoeddi, ychwanegwch yr eitem i'r rhestr ddarllen ar gyfer eich modiwl fel unrhyw gyhoeddiad arall, a gwnewch gais i'w ddigido os oes angen. Bydd y llyfrgell wedyn yn chwilio am gopi digidol sydd â chliriad hawlfraint.

Ar gyfer deunydd heb ei gyhoeddi, cofiwch y gallai rhannu gwaith ar ffurf llawysgrif beri i gyhoeddwyr posibl beidio â bod eisiau cyhoeddi eich testun. Os ydych chi'n rhannu eich deunydd eich hun sydd heb ei gyhoeddi, dylech egluro i'ch myfyrwyr na ddylid rhannu'r testun y tu hwnt i'r gweithgaredd addysgu/Blackboard.

Mae'r eithriad arholiad yn y ddeddfwriaeth Hawlfraint yn caniatáu cynnwys deunydd hawlfraint 3ydd parti o fewn papurau arholiad a sgriptiau a asesir. Dylai staff fod yn ymwybodol, wrth gynnwys deunydd 3ydd parti, fod angen cymhwyso’r prawf 'ymwneud teg', sydd â'r cwestiynau allweddol canlynol:

  • Ydw i'n defnyddio mwy o'r gwaith nag sy'n angenrheidiol at y diben?;
  • A allaf fi fod yn niweidio diddordebau perchennog yr hawlfraint drwy ailgynhyrchu eu gwaith yn y modd hwn?

Os ydych chi'n meddwl mai 'ydw' neu 'gallaf' yw'r atebion i'r cwestiynau hyn, dylech ystyried gofyn am ganiatâd.

Darlithoedd sydd wedi'u recordio ymlaen llaw - ystyriaethau allweddol
 

Mae deddfwriaeth hawlfraint y DU yn ymdrin â deunyddiau addysgu mewn darlithoedd yn ogystal â chyd-destunau eraill. Mae recordio darlith, mewn gwirionedd, yn ychwanegu haen arall o gopïo i unrhyw waith a gopïwyd at ddibenion traddodi'r ddarlith wreiddiol. Dylech sicrhau fod gennych y caniatâd priodol i ddefnyddio unrhyw berfformiadau, lluniau, cerddoriaeth, testun, neu waith hawlfraint arall a allai ymddangos yn eich recordiad.

Cynnwys y gellir ei ddefnyddio ar gyfer darlithoedd a gaiff eu recordio:

  • cynnwys yr ydych chi'n dal yr hawlfraint iddo
  • deunydd lle mae Prifysgol Aberystwyth yn dal yr hawlfraint iddo
  • deunyddiau allan o hawlfraint
  • gweithiau sydd wedi'u clustnodi â thrwydded Creative Commons perthnasol
  • gweithiau sydd wedi'u darparu'n benodol ar gyfer eu defnyddio mewn darlithoedd, defnydd wedi'i ganiatáu drwy drwydded, neu luniau sy'n Adnoddau Addysgol Mynediad Agored. Gallwch chwilio Jorum [http://www.jorum.ac.uk/ ] i ddod o hyd i'r adnoddau hyn

Gweithiau sydd, (gan ddibynnu ar faint a ffactorau trwyddedu) yn gallu cael eu defnyddio mewn darlithoedd a gaiff eu recordio:

  • lluniau bach, graffiau neu dablau ond dim mwy nag un o'r un ffynhonnell
  • mae'n bosibl fod lluniau mwy neu rannau o destun (e.e. tudalen lawn) wedi'u cynnwys yn y drwydded a ddarparwyd gan Drwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) sy'n caniatáu i gyfansymiau cyfyngedig o weithiau hawlfraint cyhoeddedig (llyfrau a chyfnodolion) gael eu copïo at ddibenion addysgu.  Rhaid i'r Gwasanaethau Gwybodaeth wneud y gwaith sganio i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â thelerau ac amodau'r drwydded hon.  
  • Mae gan PA drwydded Asiantaeth Recordio Addysgol (ERA), sy'n caniatáu defnyddio (a chopïo) darllediadau teledu a radio at ddibenion addysgol. Gallwch hefyd ddangos (a chopïo) deunydd o wasanaethau ar alw megis BBC iplayer o dan y drwydded ERA.
  • Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio gwasanaeth Box of Broadcasts i gael mynediad i ddarllediadau teledu a radio. Gall recordiadau a gafwyd o'r gwasanaeth hwn gael eu hymgorffori i ddarlithoedd drwy ddefnyddio'r codau mewnosod/dolenni BoB.

Pa ddeunyddiau na ellir eu defnyddio heb ganiatâd penodol?

  • Gellir dangos DVDiau neu fideos a brynwyd yn fasnachol mewn darlith, ond NI ELLIR eu hymgorffori i recordiad o'r ddarlith honno heb ganiatâd penodol
  • yn yr un modd, mae'n debygol y cewch ganiatâd i ddangos clip YouTube mewn darlith, ond NID i recordio'r clip hwnnw.
  • gellir defnyddio CDiau sain a brynwyd yn fasnachol yn y dosbarth, ond NI ddylech eu cynnwys mewn recordiad o ddarlith
  • rhaid cael caniatâd cyn defnyddio lluniau cyffredinol o'r rhyngrwyd oni bai bod y wefan yn benodol yn caniatáu defnydd addysgol neu anfasnachol

Beth i'w wneud os oes angen i'r deunydd a ddefnyddir yn y ddarlith gael ei eithrio o'r recordiad o'r ddarlith.


Os oes deunydd wedi'i gynnwys yn y ddarlith, ond na ddylai, o ganlyniad i hawlfraint neu bryderon eraill, gael ei gynnwys yn y recordiad, mae'n bosibl oedi'r system Abercast (Panopto) wrth i'r cynnwys gael ei ddangos, ac yna ailddechrau'r system pan fydd y deunydd wedi'i ddangos.

Os ydych chi'n methu â golygu rhywbeth allan drwy ddefnyddio'r adnodd oedi, gallwch olygu'r recordiad ar ôl y ddarlith drwy ddefnyddio offer golygu Panopto.

Os oes gormod o waith golygu cynnwys allan, anogir y staff i ddarparu cyflwyniad sain / fideo arall (neu vignette) i fyfyrwyr.

Gallai hyn fod yn recordiad byr sy'n rhoi trosolwg o'r pwyntiau allweddol neu'r cysyniadau trothwy, o bosibl heb gynnwys gweledol, neu sy'n trafod pwyntiau y mae myfyrwyr yn cael trafferth eu deall.

I gael cymorth i greu a golygu gweithgareddau addysgu a recordiwyd o flaen llaw, cysylltwch â'r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu.

Cysyniadau allweddol

Mae gan berchennog hawlfraint hawliau unigryw dros waith hawlfraint. Golyga hyn fod angen eu caniatâd cyn defnyddio eu gwaith mewn ffyrdd penodol.

Dim ond perchnogion hawlfraint sydd â'r hawl i awdurdodi gweithgareddau a elwir yn weithredoedd cyfyngedig. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Copïo
  • Rhoi copïau i'r cyhoedd
  • Rhentu neu fenthyca
  • Perfformio'n gyhoeddus
  • Rhannu gwaith â'r cyhoedd yn electronig
  • Addasu

Wrth ymgymryd ag unrhyw un o'r gweithgareddau hyn, dylech sicrhau bod gennych drwydded briodol i wneud hynny, neu fod eithriad hawlfraint yn berthnasol i'ch gweithgaredd. I weld beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer eich gwaith yn y brifysgol, gweler y tabiau Hawlfraint i Fyfyrwyr, Darlithwyr ac Ymchwil i gael cyfarwyddyd ymarferol ar ddefnyddio deunyddiau hawlfraint yn eich gwaith mewn modd sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.

Ffeithiau Allweddol

  • Mae diogeliad hawlfraint yn awtomatig - nid oes angen cofrestru gwaith
  • Mae copïo unrhyw ddeunydd hawlfraint heb ganiatâd (neu drwydded briodol) yn anghyfreithlon.
  • Mae trwyddedau ac eithriadau yn caniatáu i chi gopïo deunydd o fewn cyfyngiadau penodol

Mae llawer o'r eithriadau hawlfraint sy'n berthnasol mewn addysgu uwch yn dibynnu ar y cysyniad o  ymwneud neu fasnachu teg

Nid oes diffiniad manwl gywir o'r hyn sy'n deg, ond mae'n dibynnu ar:

  • Cyfran o’r gwreiddiol sy'n cael ei gopïo, ac
  • a yw'r copïo’n cystadlu â defnydd y byddai'r perchennog yn ei wneud

Golyga hyn:

  • na ddylech gopïo mwy o'r gwaith nag sydd angen at eich diben, a chadwch o fewn y canllawiau dangosol bob tro.
  • peidiwch fyth ag ailgynhyrchu gwaith mewn modd sy'n ymyrryd â hawliau unigryw daliwr yr hawlfraint

Cymorth a chefnogaeth - darlithwyr

Os oes arnoch angen cymorth i baratoi Rhestrau Darllen ar gyfer eich modiwlau gan gynnwys gwneud cais i ddigido ar gyfer darlleniadau cwrs, cysylltwch â'r Llyfrgellydd Pwnc ar gyfer eich adran.

Ffeithiau cyflym

Eich llyfrau

Hyd yn oed os taw chi yw awdur y gwaith, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y cewch ei rannu â'ch myfyrwyr. Bydd hyn yn dibynnu ar y contract yr ydych wedi'i lofnodi â'ch cyhoeddwr

Delwedd: AgustinaCC, Book in Hand (Emma by Jane Austen), CC0 1.0 

Teledu a radio

Gallwch ddangos deunydd o'r fath i ddosbarth ar dir y Brifysgol ac mewn amser real neu ddefnyddio gwasanaeth Box of Broadcasts. Fodd bynnag, ni all recordiadau a brynwyd yn fasnachol fel rheol gael eu ffrydio i fyfyrwyr ar alw.  

Delwedd: Studio123Kino CC-BY-3.0

Arholiadau

Mae'r eithriad arholiad yn y ddeddfwriaeth Hawlfraint yn caniatáu cynnwys deunydd hawlfraint 3ydd parti o fewn papurau arholiad a sgriptiau a asesir. Yn yr un modd â'r holl eithriadau hawlfraint eraill, mae'r prawf ymwneud teg yn berthnasol.  

Delwedd: Rashi Latif, Exam hall, CC-BY-SA-4.0

Academia Basiliensis

Gall darlithwyr ddefnyddio cyfanswm cyfyngedig o ddeunydd hawlfraint at ddibenion addysgu (h.y. addysgu/cyfarwyddo).  

Delwedd: Anon. The 'Academia Basiliensis'. British Museum, 1544-1552.  Delwedd ddigidol: © The Trustees of the British Museum, CC BY-NC-SA 4.0