Mae amrywiaeth eang o gynnwys sydd allan o hawlfraint, neu sydd â thrwydded defnydd agored ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein. Pan fyddwch yn defnyddio'r cynnwys hwn wrth astudio, addysgu neu ymchwilio, mae'n rhaid priodoli'r ffynhonnell yn briodol neu gydnabod y crëwr. Nodwch a sylwch ar unrhyw delerau trwyddedu penodol wrth ailddefnyddio cynnwys. Wrth chwilio ar y we am gynnwys, edrychwch am ddewisiadau chwilio uwch i ddod o hyd i gynnwys trwydded agored yn benodol.
Isod ceir dewis o gynnwys agored defnyddiol.
Mae nifer o ganllawiau a dosbarthiadau tiwtorial ar gael ar-lein sy'n cynnig sylfaen dda yn y cysyniadau allweddol sy'n ymwneud â Hawlfraint. Os hoffech ddysgu mwy am faterion Hawlfraint neu feithrin hyder wrth ddefnyddio deunyddiau trydydd parti i astudio, ymchwilio neu addysgu, mae'r canllawiau isod yn lle da i ddechrau.