Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Hawlfraint: Hawlfraint i ymchwilwyr

Yn aml bydd ymchwilwyr angen cynnwys deunyddiau wedi'u diogelu gan hawlfraint gan drydydd parti yn eu traethodau ymchwil neu'u cynnyrch ymchwil.

Gweithgareddau cyffredin

Copïo yn y llyfrgell ar gyfer ymchwil
Yn ôl telerau ymwneud teg fe ganiateir i chi wneud copïau sengl ar gyfer astudiaeth breifat neu ymchwil o natur anfasnachol. Ni ddylid copïo mwy na 5% o'r gwaith neu:

  • Un bennod lawn o lyfr;
  • Un erthygl fesul rhifyn o gyfnodolyn neu gyfres o drafodion cynhadledd;
  • Hyd at 10% (uchafswm o 20 tudalen) o lyfr byr (heb benodau), adroddiad, pamffled neu Fanyleb Safonol;
  • Un gerdd neu stori fer (uchafswm o 10 tudalen) o flodeugerdd;
  • Un darlun neu fap ar wahân hyd at faint A4 (ond caiff darluniadau sy'n rhan anhepgor o erthyglau/penodau gael eu cynnwys yng nghategorïau 1 a 2 uchod);
  • Dyfyniadau byr yn unig o weithiau cerddorol (nid gweithiau neu symudiadau cyfan) ac ni chewch gopïo at ddibenion perfformio.

Gall myfyrwyr sy'n astudio i ffwrdd o Aberystwyth o ganlyniad i gyfyngiadau COVID wneud cais am ddetholiadau wedi'u sganio o ddeunyddiau sydd ar gael mewn print yn unig gan ddefnyddio'r gwasanaeth Digido Penodau dros dro.

Caiff yr eithriad hwn ei gynnwys yn adran 29 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.

Defnyddio e-adnoddau a ddarperir gan y llyfrgell ar gyfer ymchwil
Mae adnoddau electronig (megis e-lyfrau, erthyglau o e-gyfnodolion neu e-adnoddau eraill) wedi'u trwyddedu gan y llyfrgell i chi eu defnyddio i astudio neu ymchwilio, ond ni chaniateir i chi eu dosbarthu neu eu rhannu ar-lein.

Defnyddio deunydd a ganfuwyd ar y rhyngrwyd ar gyfer ymchwil
Mae diogeliad hawlfraint yn berthnasol i ddeunyddiau a ganfuwyd ar y rhyngrwyd yn yr un modd ag erthyglau mewn cyfnodolion neu lyfrau cyhoeddedig. Nid yw'r ffaith bod deunydd ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein yn golygu bod gennych hawl i'w ddefnyddio mewn unrhyw ffordd yr hoffech.

Dulliau ymchwil
Wrth ddatblygu eich ymchwil a chasglu data, efallai y byddwch yn penderfynu defnyddio methodoleg sydd wedi cael ei defnyddio o'r blaen. Cofiwch y gall methodolegau ymchwil (megis deunyddiau arolwg) fod â chyfyngiadau hawlfraint.

Os ydych chi'n bwriadu defnyddio deunyddiau arolwg a ddatblygwyd gan eraill yn eich ymchwil, dylech wirio unrhyw ddatganiad Telerau Defnyddio.

Data a chronfeydd data
Wrth ddefnyddio data neu set ddata a gynhyrchwyd gan rywun arall mae'n bwysig cofio, er na ellir diogelu ffeithiau â hawlfraint, y gellir diogelu cronfeydd data gan hawlfraint neu hawliau cronfa ddata. Wrth ddefnyddio unrhyw gronfa ddata neu set ddata a gynhyrchwyd gan rywun arall dylech wirio ei thrwydded a'i hamodau.

Cloddio data a thestun
Mae cloddio data neu destun yn ddull ymchwil a ddefnyddir i ddadansoddi cyrff mawr neu gasgliadau o destun neu ddata. Mae'r gyfraith hawlfraint wedi'i haddasu i ganiatáu cloddio o'r fath at ddibenion ymchwil. Mae'r eithriad hwn yn berthnasol os yw eich ymchwil yn anfasnachol, os oes gennych fynediad cyfreithlon i'r cynnwys/cronfa ddata (er enghraifft drwy danysgrifiad llyfrgell), os ydych chi'n priodoli'r ffynonellau ac os nad ydych chi'n defnyddio copïau a wnaed o dan yr eithriad hwn at unrhyw ddibenion eraill.

Canllawiau Pellach
Mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol wedi datblygu canllaw i'ch helpu i ddeall y prif faterion wrth ddefnyddio deunydd hawlfraint yn eich ymchwil.

Defnyddio deunydd hawlfraint yn eich traethodau ymchwil
Byddwch chi'n sicr ddigon o gynnwys gwaith gan drydydd parti yn eich traethawd ymchwil. Mae eithriad hawlfraint yn caniatáu i chi wneud hynny o dan yr egwyddor o ymwneud teg sy'n cynnwys dyfynnu, beirniadaeth neu adolygu. Er enghraifft, gallwch ddyfynnu o, a thrafod, rhannau o lyfr, erthygl mewn cyfnodolyn, ffotograff neu lun arall.

Wrth ddefnyddio unrhyw ddeunydd gan drydydd parti yn eich traethawd ymchwil dylech gymhwyso'r prawf 'ymwneud teg'. Dylai gwaith y trydydd parti fod ar gael yn gyhoeddus, dylech gydnabod crëwr y gwaith, ac mae'n rhaid i'ch defnydd fod yn deg a rhesymol.

I wirio a yw eich defnydd yn deg a rhesymol, dylech ofyn:

  • Ydw i'n defnyddio mwy o'r gwaith nag sy'n angenrheidiol at y diben?;
  • A allaf fi fod yn niweidio diddordebau perchennog yr hawlfraint drwy ailgynhyrchu eu gwaith yn y modd hwn?

Os ydych chi'n meddwl mai 'ydw' neu 'gallaf' yw'r atebion i'r cwestiynau hyn, dylech ystyried gofyn am ganiatâd.

Porth Ymchwil Aberystwyth.
Disgwylir i ymgeiswyr PhD llwyddiannus gyflwyno fersiwn electronig o'u gwaith i'w gynnwys ym Mhorth Ymchwil Aberystwyth, ac nid yw'r cyhoeddiad dilynol hwn o'u gwaith wedi'i gynnwys.

Felly, disgwylir i fyfyrwyr sy'n cyflwyno PhD ofyn am ganiatâd priodol i gynnwys deunydd hawlfraint trydydd parti yn eu gwaith, neu fel arall amlygu'r enghreifftiau hynny lle na chafwyd caniatâd er mwyn i'r camau perthnasol gael eu cymryd (e.e. gosod embargo ar y gwaith hwnnw).  Fel rheol ni fydd angen caniatâd ar gyfer dyfyniadau byr, tablau bach ac ati, ond bydd angen cydnabod y ffynhonnell yn gywir a chlir bob amser.

Rhannu eich gwaith eich hun
Mae rhwydweithiau ysgolheigaidd megis ResearchGate ac Academa.edu yn caniatáu i awduron, ymchwilwyr ac academyddion uwchlwytho copïau o'u gwaith eu hunain i'w defnyddio gan eraill.

Fodd bynnag, fel y nodir yn y Telerau Defnyddio ar y gwefannau hyn, cyfrifoldeb y defnyddiwr/awdur/ymchwilydd yw cadarnhau fod ganddynt y caniatâd priodol i wneud hynny cyn uwchlwytho'r gwaith i unrhyw wasanaeth o'r fath, a dylent wirio eu Cytundeb i Gyhoeddi gyda'u cyhoeddwr. Er mai chi yw awdur y gwaith, efallai mai'r cyhoeddwr sy'n berchen ar yr hawlfraint a gallai rhannu heb ganiatâd olygu eich bod yn torri'r rheolau hawlfraint.

Cysyniadau allweddol

Mae gan berchennog hawlfraint hawliau unigryw dros waith hawlfraint. Golyga hyn fod angen eu caniatâd cyn defnyddio eu gwaith mewn ffyrdd penodol.

Dim ond perchnogion hawlfraint sydd â'r hawl i awdurdodi gweithgareddau a elwir yn weithredoedd cyfyngedig. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Copïo
  • Rhoi copïau i'r cyhoedd
  • Rhentu neu fenthyca
  • Perfformio'n gyhoeddus
  • Rhannu gwaith â'r cyhoedd yn electronig
  • Addasu

Wrth ymgymryd ag unrhyw un o'r gweithgareddau hyn, dylech sicrhau bod gennych drwydded briodol i wneud hynny, neu fod eithriad hawlfraint yn berthnasol i'ch gweithgaredd. I weld beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer eich gwaith yn y brifysgol, gweler y tabiau Hawlfraint i Fyfyrwyr, Darlithwyr ac Ymchwil i gael cyfarwyddyd ymarferol ar ddefnyddio deunyddiau hawlfraint yn eich gwaith mewn modd sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.

Ffeithiau Allweddol

  • Mae diogeliad hawlfraint yn awtomatig - nid oes angen cofrestru gwaith
  • Mae copïo unrhyw ddeunydd hawlfraint heb ganiatâd (neu drwydded briodol) yn anghyfreithlon.
  • Mae trwyddedau ac eithriadau yn caniatáu i chi gopïo deunydd o fewn cyfyngiadau penodol

Mae llawer o'r eithriadau hawlfraint sy'n berthnasol mewn addysgu uwch yn dibynnu ar y cysyniad o  ymwneud neu fasnachu teg

Nid oes diffiniad manwl gywir o'r hyn sy'n deg, ond mae'n dibynnu ar:

  • Cyfran o’r gwreiddiol sy'n cael ei gopïo, ac
  • a yw'r copïo’n cystadlu â defnydd y byddai'r perchennog yn ei wneud

Golyga hyn:

  • na ddylech gopïo mwy o'r gwaith nag sydd angen at eich diben, a chadwch o fewn y canllawiau dangosol bob tro.
  • peidiwch fyth ag ailgynhyrchu gwaith mewn modd sy'n ymyrryd â hawliau unigryw daliwr yr hawlfraint

Cymorth a chefnogaeth - ymchwilwyr

Os oes arnoch angen cymorth gyda chasgliadau neu wasanaethau'r llyfrgell, cysylltwch â'r Llyfrgellydd Pwnc ar gyfer eich adran.
Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau a'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer eich astudiaethau yn y Canllaw Llyfrgell ar gyfer eich pwnc.
I gael manylion am wasanaeth y llyfrgell, casgliadau a chymorth i ymchwilwyr ewch i'n Canllaw Llyfrgell i Ymchwilwyr.