Mae llawer o'r gweithgareddau y mae myfyrwyr a staff y Brifysgol yn ymgymryd â hwy yn cynnwys defnyddio gwaith sydd wedi'i ddiogelu gan hawlfraint (gallai hyn gynnwys detholiadau o lyfrau, erthyglau mewn cyfnodolion, lluniau llonydd a symudol neu glipiau sain).
Er bod gan ddaliwr yr hawlfraint yr hawl unigryw i gopïo eu gwaith, caniateir y gweithgareddau hyn os oes eithriadau neu drwyddedau penodol yn cael eu rhoi ar waith. Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno hawlfraint ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn egluro'r camau y dylai myfyrwyr, darlithwyr ac ymchwilwyr eu cymryd i sicrhau eu bod yn defnyddio deunyddiau hawlfraint mewn modd sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.
Wrth wneud cais am eich Cerdyn Aber rydych yn cytuno i gadw at Reolau a Rheoliadau Gwasanaethau Gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys cytuno â’r datganiadau yng Ngytundeb a Chydnabyddiaeth Hawlfraint.
Beth yw gwaith hawlfraint?
Mae diogeliad hawlfraint yn awtomatig. Nid oes raid i awdur neu greawdwr gyhoeddi, cofrestru na gwneud cais am hawlfraint.
Mae hawlfraint yn berthnasol i unrhyw waith a grëwyd mewn copi caled neu fformat electronig. Mae hyn yn cynnwys:
Mae unrhyw ddarn o waith sydd wedi cael ei ysgrifennu neu'i gofnodi mewn rhyw ffordd (cyhoeddedig a heb ei gyhoeddi) wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Mae gwaith sydd wedi'i fynegi mewn ffordd 'osodedig' wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Nid yw hyn yn wir am feddyliau, syniadau a ffeithiau.
Am ba hyd y mae hawlfraint yn para?
Mae hyd y diogeliad hawlfraint yn dibynnu ar y math o waith ac ers faint y cafodd y gwaith ei greu. Er enghraifft:
Math o waith | Am ba hyd y mae hawlfraint yn para fel arfer |
---|---|
Gwaith ysgrifenedig, dramatig, cerddorol ac artistig | 70 mlynedd ar ôl marwolaeth yr awdur |
Recordiadau sain a cherddoriaeth | 70 mlynedd o'r cyhoeddiad cyntaf |
Ffilmiau | 70 mlynedd ar ôl marwolaeth y cyfarwyddwr, awdur sgript y ffilm a'r cyfansoddwr |
Darllediadau | 50 mlynedd ar ôl y darllediad cyntaf |
Cynllun argraffiadau cyhoeddedig | 25 mlynedd ar ôl yr argraffiad cyntaf |
Lluniau/ffotograffau llonydd | 70 mlynedd ar ôl marwolaeth y ffotograffydd |
Dylid trin y cyfyngiadau amser hyn yn ofalus bob tro. Er enghraifft, er bod hawlfraint awdur yn para am 70 mlynedd ar ôl marwolaeth yr awdur, nid yw hyn bob amser yn sail dda i gopïo gwaith oherwydd mae'n bosibl bod yr hawlfraint wedi'i basio ymlaen i barti arall.
Ar adegau, cyfeirir at weithiau sydd allan o hawlfraint neu sydd wedi'u heithrio gwaith 'yn y parth cyhoeddus'
Mae'r Brifysgol yn tanysgrifio i drwyddedau a gyhoeddwyd gan nifer o asiantaethau sy'n gweithredu ar ran dalwyr hawliau amrywiol. Yn gyfnewid am ffi'r drwydded, sy'n mynd tuag daliadau i ddalwyr yr hawliau, gall y sefydliad gopïo a defnyddio deunyddiau penodol o fewn canllawiau penodol.
Mae'n hanfodol cydnabod bod y trwyddedau hyn yn ymwneud â defnydd o fewn cyd-destun dibenion addysgol neu gyfarwyddol yn unig. Nid ydynt yn ymdrin â chyhoeddi gwaith, darlledu deunydd ymhellach na'i berfformiad cyhoeddus
Trwydded | Beth mae'n gynnwys | Sut mae'n gweithio |
---|---|---|
Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint | Llungopïo neu sganio gwaith a gedwir gan y Brifysgol at ddibenion addysgol | Gwneud cais i ddigido pennod neu erthygl drwy Restrau Darllen Aspire |
Asiantaeth Trwyddedu Papur Newydd | Llungopïo erthyglau o bapurau newydd cenedlaethol a rhanbarthol | Gall dolenni a chopïau o erthyglau o bapurau newydd gael eu rhannu ymhlith staff a myfyrwyr os dilynir telerau'r drwydded |
Asiantaeth Recordio Addysgol | Recordiadau o ddarllediadau teledu a radio yn y DU | Defnyddio recordiadau o ddarllediadau teledu a radio wrth addysgu/astudio/ymchwilio gan ddefnyddio mynediad y brifysgol i Box of Broadcasts |
Efallai y byddai awdur neu greawdwr yn fodlon caniatáu i eraill ddefnyddio eu gwaith o dan amgylchiadau penodol. Ffordd boblogaidd o wneud hyn yw drwy ddefnyddio trwydded Creative Commons (CC).
Gall perchennog hawlfraint wneud cais i ddefnyddio trwydded CC i rannu gwaith hawlfraint yn agored ond gosod cyfyngiadau ar ddefnydd masnachol neu addasiadau neu fynnu bod unrhyw addasiadau'n cael eu trwyddedu ar yr un telerau. Mae yna ystod o drwyddedau Creative Commons sy'n caniatáu graddau amrywiol o ailddefnydd.
Mae'r llun isod yn dangos beth allwch chi ei wneud gyda deunydd trwydded Creative Commons. I gael gwybodaeth am gymhwyso trwydded Creative Commons i'ch gwaith eich hun, gweler Diogelu eich Gwaith eich Hun
JoKalliauer; foter, CC BY-SA 3.0 <https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0>, via Wikimedia Commons
Mae gan berchennog hawlfraint hawliau unigryw dros waith hawlfraint. Golyga hyn fod angen eu caniatâd cyn defnyddio eu gwaith mewn ffyrdd penodol.
Dim ond perchnogion hawlfraint sydd â'r hawl i awdurdodi gweithgareddau a elwir yn weithredoedd cyfyngedig. Mae'r rhain yn cynnwys:
Wrth ymgymryd ag unrhyw un o'r gweithgareddau hyn, dylech sicrhau bod gennych drwydded briodol i wneud hynny, neu fod eithriad hawlfraint yn berthnasol i'ch gweithgaredd. I weld beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer eich gwaith yn y brifysgol, gweler y tabiau Hawlfraint i Fyfyrwyr, Darlithwyr ac Ymchwil i gael cyfarwyddyd ymarferol ar ddefnyddio deunyddiau hawlfraint yn eich gwaith mewn modd sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.
Ffeithiau Allweddol
Mae llawer o'r eithriadau hawlfraint sy'n berthnasol mewn addysgu uwch yn dibynnu ar y cysyniad o ymwneud neu fasnachu teg
Nid oes diffiniad manwl gywir o'r hyn sy'n deg, ond mae'n dibynnu ar:
Golyga hyn: