Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Hawlfraint: Cwestiynau Cyffredin - Myfyrwyr

A gaf fi lungopïo tudalennau at ddefnydd personol o lyfrau a chyfnodolion?

ewch, gallwch gopïo darnau o'r rhan fwyaf o lyfrau, cyfnodolion, trafodion cynhadledd ac adroddiadau cyfreithiol cyhyd â mai un copi yn unig sydd gennych at eich defnydd unigol preifat eich hun, a'i fod o fewn y cyfyngiadau a osodwyd ar y dudalen Canllawiau Hawfraint - Beth sydd wedi'i diogelu.


Byddwch yn ymwybodol fod deddfwriaeth wedi gwahardd copïo deunydd at ddibenion masnachol. 

A yw hyn yn berthnasol i ddeunydd Hawlfraint y Goron hefyd?

Er mwyn llywodraeth agored a thryloyw, mae categorïau penodol o ddeunyddiau Hawlfraint y Goron wedi rhoi heibio eu hawlfraint i'r graddau y gall rhai gweithiau gael eu copïo heb fod angen cael caniatâd ffurfiol. Fodd bynnag, mae'n ofynnol i chi gydnabod pob ffynhonnell. Am ragor o wybodaeth, gwelwch dudalen y Drwydded Llywodraeth Agored. 

A gaf fi lungopïo erthyglau papur newydd?

Cewch, gallwch gopïo erthyglau papur newydd at ddibenion astudio neu ymchwil preifat o dan drwydded a gyflenwir gan yr Asiantaeth Trwyddedu Papurau Newydd (NLA).  Gellir cyflenwi copïau hefyd i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gwrs.  

A gaf fi sganio neu dynnu ffotograff o dudalennau mewn cyhoeddiad neu ddogfen at ddibenion ymchwil neu astudiaeth breifat?

Gallai sganio neu dynnu ffotograff o erthygl argraffedig neu ran ansylweddol o waith argraffedig fod yn dderbyniol fel 'ymwneud teg' os, er enghraifft, yw'r detholiad yn cael ei gopïo i gyfrifiadur personol neu ddyfais arall ar gyfer prosiect neu waith cwrs. A derbyn nad yw'r sgan neu'r ffoto yn cael ei rannu ag eraill. I gael rhagor o wybodaeth am ymwneud teg gweler dudalen Canllawiau Hawlfraint : Hafan - Ymwneud Teg.

A gaf fi gopïo rhan o lyfr, cyfnodolyn neu lun graffig a'i rhoi ar wefan?

Na chewch. Ni ellir ystyried bod postio rhan neu'r cyfan o waith hawlfraint ar rwydwaith neu safle rhyngrwyd sy'n agored i'r cyhoedd yn 'ymwneud teg' ac mae'n bosibl y caiff hyn ei ystyried yn ailgyhoeddi anghyfreithlon. Rhaid cael caniatâd gan ddeiliad yr hawliau ym mhob achos. 

A gaf fi gopïo o hen lyfr neu lyfr prin?

Mae'n bosibl y bydd y gwaith dan sylw allan o hawlfraint, ac os yw hyn yn wir, gallwch gopïo ohono. Ran amlaf, mae'r hawlfraint yn eiddo i'r awdur neu'u hystâd am 70 mlynedd ar ôl eu marwolaeth felly gellir tybio fod gweithiau a gyhoeddwyd cyn oddeutu 1890 bellach allan o hawlfraint. Fodd bynnag, gan fod y rhan fwyaf o weithiau o'r cyfnod hwn a chynharach naill ai'n werthfawr, yn brin, neu mewn cyflwr bregus, dylech ofyn i staff y Gwasanaethau Gwybodaeth am gyngor ac efallai y bydd modd iddynt gopïo’r adran berthnasol i chi. 

A gaf fi ddefnyddio unrhyw lun o'r rhyngrwyd yn fy nghyflwyniad neu ar fy nhudalennau gwe?

Na chewch - mae'n gamsyniad cyffredin meddwl bod yr holl luniau ar y Rhyngrwyd yn rhad ac am ddim, ond nid ydynt. Mae cyfraith Hawlfraint yn dal i fod yn berthnasol i'r math hwn o ddeunydd. Chwiliwch am luniau sydd â thrwydded Creative Commons ynghlwm iddynt neu sydd ar gael i'w defnyddio at ddibenion addysgol. Mae'n rhaid i chi ofyn am ganiatâd i ddefnyddio unrhyw luniau sydd â'r label 'cedwir pob hawl' arnynt neu nad oes ganddynt unrhyw drwydded ynghlwm â hwy. Cofiwch hefyd gydnabod crëwr y llun yn briodol ym mhob achos.

Ble caf i ddeunydd heb hawlfraint ar y We?

Mae yna nifer o ffynonellau ar gyfer fideos, recordiadau sain a lluniau heb hawlfraint na breindal ar y rhyngrwyd, ond mae'n rhaid i chi wirio telerau ac amodau'r wefan a/neu'r gwrthrych cyn defnyddio unrhyw beth. Ceir rhestr o'r ffynonellau posibl  ar dudalen Offer, adnoddau a hyfforddiant.

Pan welwch yr ymadrodd: "Cedwir pob hawl" / "All rights Reserved" - a yw hyn yn golygu y gallaf ei ddefnyddio?

Na - mae hyn yn golygu nad yw perchennog yr hawlfraint eisiau ichi wneud unrhyw beth gyda'i waith heb ganiatâd penodol.

Pan fydd rhywun yn caniatáu i mi ddefnyddio eu deunydd, a ddylwn i gadw eu ffurflenni caniatâd / cydsynio?

Dylech, mae'n rhaid i chi gadw'r holl ganiatâd hawlfraint (llythyrau, negeseuon e-bost, ffurflenni ac ati) am gyhyd ag y mae'r eitem a gopïwyd yn bodoli. 

Anfonais ebost at artist i ofyn caniatâd i ddefnyddio delwedd o'u gwefan. Ni chefais ymateb. A yw hyn yn golygu y gallaf ei ddefnyddio beth bynnag?

Na! Dydy'dim ymateb' ddim yn rhoi hawl i chi ddefnyddio eitem yn awtomatig. Ceisiwch anfon e-bost dilynol, gwnewch alwad ffôn (os yn bosibl), ac os yw popeth yn methu ceisiwch ddod o hyd i ddelwedd amgen.  Os oes angen ei chynnwys mewn traethawd ymchwil dylech wneud nodyn i hepgor y ddelwedd hon o gopïau sydd ar gael i'r cyhoedd.

A gaf fi gopïo llun o lyfr neu'r rhyngrwyd a'i ddefnyddio fel rhan o boster i hysbysebu clwb, cymdeithas, neu ddigwyddiad?

Na chewch. Cyn defnyddio unrhyw luniau o'r fath mae'n rhaid i chi gael caniatâd penodol deiliad yr hawlfraint. 

Ai fi sy'n berchen ar yr hawlfraint yn fy ngwaith fy hun?

Yn gyffredinol, ie. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau mae myfyrwyr yn gweithio ar y cyd gyda staff neu wedi cael eu cyllido gan gyrff sy'n cadw rhai o'r hawliau dros y gwaith.  Mewn achosion fel hyn mae'n bosibl y bydd y grwpiau amrywiol yn rhannu'r hawlfraint.  Bydd y Brifysgol hefyd yn disgwyl i chi sicrhau bod eich gwaith ar gael ar gyfer llungopïo, copïo electronig, benthyca a'i gynnwys yng nghadwrfa electronig y sefydliad, gan ddibynnu ar eich cymhwyster. 

A gaf fi gynnwys deunydd hawlfraint yn fy nhraethawd estynedig neu fy nhraethawd ymchwil?

Mae'r eithriad arholiad yn y ddeddfwriaeth Hawlfraint yn caniatáu cynnwys deunydd hawlfraint 3ydd parti o fewn papurau arholiad a sgriptiau a asesir.  Cymerir bod hyn yn cynnwys traethodau ymchwil a thraethodau estynedig. Fodd bynnag, dylai staff a myfyrwyr fod yn ymwybodol, wrth gynnwys deunydd 3ydd parti, fod angen cymhwyso’r prawf 'ymwneud teg', sydd â'r cwestiynau allweddol canlynol: Ydw i'n defnyddio mwy o'r gwaith nag sy'n angenrheidiol at y diben?; A allaf fi fod yn niweidio diddordebau perchennog yr hawlfraint drwy ailgynhyrchu eu gwaith yn y modd hwn? Os ydych chi'n meddwl mai 'ydw' neu 'gallaf' yw'r atebion i'r cwestiynau hyn, dylech ystyried gofyn am ganiatâd.  

Disgwylir i ymgeiswyr PhD llwyddiannus gyflwyno eu gweithiau i'w cynnwys ym Mhorth Ymchwil Aberystwyth, ac nid yw'r cyhoeddiad dilynol hwn o'u gwaith wedi'i gynnwys.  Felly, disgwylir i fyfyrwyr sy'n cyflwyno PhD ofyn am ganiatâd priodol i gynnwys deunydd hawlfraint trydydd parti yn eu gwaith, neu fel arall amlygu'r enghreifftiau hynny lle na chafwyd caniatâd er mwyn i'r camau perthnasol gael eu cymryd (e.e. gosod embargo ar y gwaith hwnnw).  Fel rheol ni fydd angen caniatâd ar gyfer dyfyniadau byr, tablau bach ac ati, ond bydd angen cydnabod y ffynhonnell yn gywir a chlir bob amser. 

Ffeithiau cyflym

Thomas Stearns ('T.S.') Eliot with his sister and his cousin, by Lady Ottoline Morrell, 1934.

“Immature poets imitate; mature poets steal” T.S. Eliot. The Sacred Wood.

Er bod Thomas Stearns yn fardd arbennig, nid yw hyn yn gyngor da iawn o safbwynt hawlfraint.

(Llun o WikiMedia Commons yn y Parth Cyhoeddus.) 

William Hogarth - Blowing off about his new Copyright Act, mid 18th century

Mae William Hogarth, hyrwyddwr cynnar cyfraith hawlfraint, yn ein hatgoffa y dylai awduron ac artistiaid gael eu gwobrwyo am ffrwyth eu llafur. Pe bai'n fyw heddiw, byddai hefyd yn cynghori yn erbyn gwario'r gwobrau hynny ar gin!  

(llun o Wikimedia Commons. yn y Parth Cyhoeddus.) 

Ymwneud teg

Myfyrwyr: yn unol â thelerau ymwneud teg caniateir i chi wneud copïau sengl o gyfanswm cyfyngedig o destun ar gyfer astudiaeth breifat neu ymchwil o natur anfasnachol.  

Delwedd: Eli Francis, Old Books (Unsplash), 2016, CC0-1.0