Fel myfyriwr mae'n debygol y byddwch eisiau gwneud copïau o waith pobl eraill ar gyfer astudio, ymchwil neu adolygu, ac yn aml bydd angen cynnwys dyfyniadau, detholiadau neu ddarluniadau yn eich aseiniadau. O dan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988, mae 'ymwneud teg' yn caniatáu i chi gopïo cyfanswm cyfyngedig o ddeunydd hawlfraint ar gyfer ymchwil ac astudiaeth breifat. Mae'r canllaw hwn yn egluro sut y mae hyn yn berthnasol i'ch gweithgareddau chi fel myfyriwr a sut y gallwch sicrhau eich bod yn defnyddio deunyddiau hawlfraint mewn modd cyfreithlon a moesegol.
Copïo yn y llyfrgell
Yn ôl telerau ymwneud teg fe ganiateir i chi wneud copïau sengl ar gyfer astudiaeth breifat neu ymchwil o natur anfasnachol. Ni ddylid copïo mwy na 5% o'r gwaith neu:
Caiff yr eithriad hwn ei gynnwys yn adran 29 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Defnyddio e-adnoddau a ddarperir gan y llyfrgell
Mae adnoddau electronig (megis e-lyfrau, erthyglau o e-gyfnodolion neu e-adnoddau eraill) wedi'u trwyddedu gan y llyfrgell i chi eu defnyddio i astudio neu ymchwilio, ond ni chaniateir i chi eu dosbarthu neu eu rhannu ar-lein.
Defnyddio deunydd a ganfuwyd ar y rhyngrwyd
Mae diogeliad hawlfraint yn berthnasol i ddeunyddiau a ganfuwyd ar y rhyngrwyd yn yr un modd ag erthyglau mewn cyfnodolion neu lyfrau cyhoeddedig. Nid yw'r ffaith bod deunydd ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein yn golygu bod gennych hawl i'w ddefnyddio mewn unrhyw ffordd yr hoffech.
Recordio darlithoedd
Mae'r rhan fwyaf o ddarlithoedd yn cael eu recordio ac ar gael i chi ar gyfer adolygu.
Bydd eich darlithydd neu gydlynydd y modiwl yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am ba ddarlithoedd sy'n cael eu recordio a sut i gael mynediad iddynt drwy Blackboard.
Deunydd hawlfraint mewn aseiniadau.
Mae eithriad hawlfraint yn caniatáu i chi ddyfynnu o weithiau hawlfraint yn eich aseiniadau. Er enghraifft, gallwch ddyfynnu o, a thrafod rhannau o lyfr neu erthygl o gyfnodolyn mewn traethawd, ond mae'n rhaid i chi gydnabod awduron neu grewyr yr holl waith yr ydych yn eu defnyddio i osgoi llên-ladrad ac Ymddygiad Academaidd Annheg. I gael rhagor o wybodaeth am gyfeirnodi a dyfynnu ffynonellau'n gywir, gweler y canllaw Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad
Caiff yr eithriad hwn ei gynnwys yn adran 30 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Defnyddio lluniau yn eich aseiniadau, traethodau estynedig neu draethodau ymchwil
Mae'n gamsyniad cyffredin meddwl bod yr holl luniau ar y Rhyngrwyd yn rhad ac am ddim, ond nid ydynt. Mae cyfraith Hawlfraint yn dal i fod yn berthnasol i'r math hwn o ddeunydd.
Os ydych chi'n defnyddio lluniau yn eich aseiniadau, argymhellir eich bod yn defnyddio eich ffotograffau eich hun neu gynnwys rhad ac am ddim/agored sydd wedi cael ei wneud yn benodol i'w ailddefnyddio. Wrth ddefnyddio lluniau sy'n rhad ac am ddim i'w hailddefnyddio dylech gydnabod y crëwr a dilyn unrhyw delerau trwyddedu o hyd.
Weithiau mae'n rhaid ailgynhyrchu lluniau hawlfraint yn eich aseiniadau (yn arbennig wrth astudio celf, theatr, ffilm neu hanes). Wrth wneud hyn, dylech:
Teledu, ffilm a radio
Gallwch ddefnyddio clipiau o gyfryngau darlledu (neu o YouTube) mewn cyflwyniadau neu weithgareddau yn y dosbarth cyhyd â bod y clipiau'n dod o ffynhonnell gyfreithlon ac wedi'u huwchlwytho gyda chaniatâd daliwr yr hawlfraint. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio hyn.
Mae Box of Broadcasts (BoB) yn adnodd gwerthfawr ar gyfer teledu, ffilm a radio. Argymhellir eich bod yn defnyddio BoB i ddod o hyd i glipiau i'w defnyddio mewn gweithgareddau addysgu ac aseiniadau.
Mapiau
Caniateir i chi ddefnyddio adrannau bach o fapiau argraffedig yn eich aseiniadau. Os ydych chi'n defnyddio mapiau o ffynonellau ar-lein megis Digimap neu Google Maps, dylech wirio eu trwyddedau a'u telerau defnyddio.
Mae eithriad hawlfraint yn bodoli sy'n caniatáu darparu gwaith hawlfraint mewn fformat hygyrch i ddefnyddwyr sydd ag unrhyw fath o anabledd. Er enghraifft, gellir digido deunyddiau print neu ddarparu meddalwedd darllen sgrin i newid y fformat o destun i sain ar gyfer defnydd personol y defnyddiwr hwnnw.
Caiff yr eithriad hwn ei gynnwys yn adran 31A-F o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Ceir hyd i'r ystod lawn o wasanaethau, offer ac adnoddau sydd ar gael ar dudalen Hygyrchedd y Gwasanaethau Gwybodaeth.
Tor rheolau hawlfraint yw rhannu neu gopïo gwaith hawlfraint heb ganiatâd daliwr yr hawlfraint. Er enghraifft: mae'n anghyfreithlon rhannu gwaith hawlfraint megis ffilm neu raglen deledu ar-lein.
Llên-ladrad yw defnyddio gwaith rhywun arall a hawlio mae eich gwaith chi ydyw neu beidio â chydnabod yn ddigonol y ffynonellau a ddefnyddiwyd yn eich gwaith. Er enghraifft: mae copïo traethawd ffrind, neu brynu traethawd ar-lein yn llên-ladrad.
Os oes arnoch angen cymorth gyda chasgliadau neu wasanaethau'r llyfrgell, cysylltwch â'r Llyfrgellydd Pwnc ar gyfer eich adran.
Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau a'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer eich astudiaethau yn y Canllaw Llyfrgell ar gyfer eich pwnc.
I gael cyfarwyddyd ar briodoli, cyfeirnodi a dyfynnu, ewch i'n canllaw Cyfeirnodi ac Osgoi Llên-Ladrad.