Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Hawlfraint: Diogelu eich gwaith eich hun

Mae eich gwaith wedi cael ei ddiogelu gan hawlfraint yn awtomatig o'r eiliad y cafodd ei greu.

Perchennog yr Hawlfraint

Rhoddir hawlfraint yn awtomatig i awdur neu grëwr gwaith gwreiddiol.   

Mae hawlfraint yn diogelu'r gwaith hwn rhag cael ei ddefnyddio heb ganiatâd yr awdur  

Mae hawlfraint yn caniatáu i'r awdur neu'r crëwr allu elwa o'r hyn y maent wedi'i greu, naill ai drwy werthu neu drwyddedu eu gwaith. 

Mae diogeliad hawlfraint yn awtomatig.  Nid oes raid i awdur neu greawdwr gyhoeddi, cofrestru na gwneud cais am hawlfraint.

Mae hawlfraint yn berthnasol i unrhyw waith a grëwyd mewn copi caled neu fformat electronig.   Mae hyn yn cynnwys:

  • gwaith llenyddol, dramatig neu gerddorol;
  • darluniadau, ffotograffau, dyluniadau neu waith artistig;
  • ffilm neu luniau symudol;
  • darlleniadau neu recordiadau sain;
  • rhaglenni cyfrifiadurol, setiau data, a hyd yn oed trefniant argraffyddol.

Mae unrhyw ddarn o waith sydd wedi cael ei ysgrifennu neu'i gofnodi mewn rhyw ffordd (cyhoeddedig a heb ei gyhoeddi) wedi'i ddiogelu gan hawlfraint.  Mae gwaith sydd wedi'i fynegi mewn ffordd 'osodedig' wedi'i ddiogelu gan hawlfraint.  Nid yw hyn yn wir am feddyliau, syniadau a ffeithiau.

Mae gan berchennog hawlfraint hawliau unigryw dros waith hawlfraint.    

Dim ond perchnogion hawlfraint sydd â'r hawl i awdurdodi gweithgareddau a elwir yn weithredoedd cyfyngedig. Mae'r rhain yn cynnwys 

  • Copïo’r gwaith 
  • Rhoi copïau o'r gwaith i'r cyhoedd 
  • Rhentu neu fenthyca'r gwaith 
  • Perfformio'r gwaith yn gyhoeddus 
  • Rhannu'r gwaith â'r cyhoedd yn electronig 
  • Addasu'r gwaith 

Mae gan berchennog yr hawlfraint hefyd hawliau perfformio i'w gwaith/gweithiau. Golyga hyn ei bod yn rhaid i berchennog yr hawlfraint roi caniatâd cyn unrhyw 

  • berfformiad byw, 
  • darllediad o berfformiad byw neu, 
  • recordiad o ddarllediad o berfformiad byw.   

Mae gan berfformwyr unigol hefyd hawliau i'w perfformiad.  Boed hyn wrth ganu, actio, chwarae offeryn cerddorol neu unrhyw fath arall o berfformiad.  Ceir gwybodaeth lawn am hawliau perfformwyr yn Adran 182 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988. 

Heb ganiatâd deiliad yr hawlfraint, bydd unrhyw un arall sy'n ymgymryd ag un o'r gweithredoedd cyfyngedig hyn yn torri'r gyfraith. 

Mae gan berchennog yr hawlfraint hefyd hawliau economaidd o ran y gwaith. Golyga hyn y gallant elwa o'u gwaith drwy rentu neu werthu'r gwaith neu drwy drwyddedu'r gwaith i'w ddefnyddio gan eraill. 

Mae gan berchennog yr hawlfraint hefyd hawliau moesol o ran y gwaith. Mae hawliau moesol yn cynnwys: 

  • Yr hawl i briodoliad. Hynny yw, yr hawl i gael eich cydnabod fel y sawl sydd wedi creu gwaith penodol. Mae'n bwysig nodi nad yw'r hawl hon yn dod i rym nes y caiff ei harddel. Dyna pam y byddwch chi'n aml yn gweld ym mlaen llyfrau, er enghraifft,  "Mae Jên Jones wedi arddel ei hawl o dan y Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau, 1988, i gael ei chydnabod fel awdur y gwaith hwn". 
  • Yr hawl i onestrwydd.  

Amddiffyniad hawlfraint

Ar gyfer gweithiau celf, cerddoriaeth, drama neu lenyddiaeth, awdur neu grëwr y gwaith yw perchennog cyntaf yr hawlfraint. 

Ar gyfer gweithiau ar ffilm, perchennog yr hawlfraint yw prif gyfarwyddwr y ffilm ynghyd â chynhyrchydd y ffilm.  

Y darlledwyr yw perchnogion yr hawlfraint ar gyfer darllediadau radio a theledu.  

Y cyhoeddwyr yw perchnogion yr hawlfraint ar gyfer gweithiau cyhoeddedig. 

Mae cyd-awduron yn rhannu perchnogaeth hawlfraint.  

Gall gwaith gwreiddiol hefyd fod â 'haenau' o hawlfraint.  Er enghraifft, gallai testun llyfr fod yn eiddo i'r awdur; cyfieithiad o'r testun i'r cyfieithydd; darluniadau i'r artist a'r trefniant teiposod i'r argraffydd/cyhoeddwr.  

Mae'n bwysig cofio hefyd y gall perchnogaeth hawlfraint gael ei throsglwyddo, ei hetifeddu neu'i gwerthu. Nid yw hi bob amser yn ddiogel tybio mai chi yw perchennog yr hawlfraint, hyd yn oed os mai chi greodd y gwaith gwreiddiol. 

Efallai nad ydych chi'n dal yr hawlfraint i waith sydd wedi'i gomisiynu gan drydydd parti neu waith a grëwyd yn rhan o'ch cyflogaeth.

Cofiwch: cyn gynted ag y bydd wedi'i greu, bydd eich gwaith wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ar ôl ei greu, yr arfer safonol yw ychwanegu, er enghraifft, Eich Enw, (c) 2021 i ddangos y dyddiad creu.  

Yn flaenorol, byddai awduron yn anfon copi o'u gwaith drwy'r post i'w hunain i brofi ei fod yn bodoli erbyn dyddiad penodol. Y dyddiau hyn, nid oes angen cymryd camau o'r fath oherwydd y bydd cyfrifiaduron yn dyddio dogfennau a gaiff eu creu arnynt yn awtomatig.  

Yn gyffredinol, os ydych chi wedi creu gwaith yn rhan o'ch cyflogaeth, eich cyflogwr yw perchennog yr hawlfraint. Dylai telerau ac amodau eich cyflogaeth ddarparu manylion am bwy yw perchennog y gweithiau a grëwyd yn ystod eich cyflogaeth a sut y cânt eu defnyddio a'u diogelu. 

Os ydych chi wedi creu eich gwaith yn rhan o'ch cyflogaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyfeiriwch at y ddogfen hon sy'n amlinellu Polisi Eiddo Deallusol y Brifysgol.  

Deddfwriaeth

Yn y Deyrnas Unedig, caiff cyfraith hawlfraint ei chorffori yn Neddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.  

Mae adrannau penodol o'r Ddeddf honno sy'n ymwneud â diogelu eich gwaith eich hun ar gael isod, sef: 

  • Y gyfraith sy'n ymwneud â phwy yw perchennog awduraeth yr hawlfraint. (Adrannau 9 - 11 o'r Ddeddf
  • Disgrifiadau cyfreithiol o'r gwahanol fathau o waith sydd wedi'u diogelu gan hawlfraint. (Adrannau 3 - 8 o'r Ddeddf
  • Eich hawliau fel y perchennog hawlfraint (hynny yw, beth gewch chi ei wneud, a beth na chewch chi ei wneud â'ch gwaith eich hun (Adrannau 16-24 o'r Ddeddf
  • Eich hawliau moesol (hynny yw, eich hawl i gael eich cydnabod fel awdur neu gyfarwyddwr y gwaith). (Adrannau 77 a 78 o'r Ddeddf